Public Health Wales statement on Novel Coronavirus (COVID-19) outbreak

This statement will be updated daily at 2pm

Updated: 2:00pm Saturday 4 April

Dr Chris Williams, Incident Director for the Novel Coronavirus (COVID-19) outbreak response at Public Health Wales, said:

“387 new cases have tested positive for Novel Coronavirus (COVID-19) in Wales, bringing the total number of confirmed cases to 2,853, although the true number of cases is likely to be higher. 

“13 further deaths have been reported to us of people who had tested positive for Novel Coronavirus (COVID-19), taking the number of deaths in Wales to 154.

“We offer our condolences to families and friends affected, and we ask those reporting on the situation to respect patient confidentiality.

“Public Health Wales has conducted more than 13,000 tests for Novel Coronavirus (COVID-19) on more than 11,000 individuals since the start of this outbreak. 

“Following publication of a new Chinese study which shows smokers with COVID-19 are 14 times more likely to develop severe disease, we encourage all smokers that want to stop to use NHS Wales’ free Help Me Quit stop smoking advice and phone support service. Search ‘Help Me Quit’ or call 0800 085 2219 to get started.

“Novel Coronavirus (COVID-19) is now circulating in every part of Wales.  The single most important action we can all take in fighting Coronavirus is to stay at home in order to protect the NHS, and save lives.

“We know that staying at home can be hard, and we want to thank each and every person across Wales for doing their bit to help slow the spread of the virus.

“Members of the public must adhere to social distancing rules about staying at home, and away from others, introduced by the UK and Welsh Government.  These rules are available on the Public Health Wales website.

“People no longer need to contact NHS 111 if they think they may have contracted Novel Coronavirus (COVID-19).  Information about the symptoms to look out for is available on the Public Health Wales website, or members of the public can use the NHS Wales symptom checker.

“Anyone with a suspected coronavirus illness should not go to a GP surgery, pharmacy or hospital.  They should only contact NHS 111 if they feel they cannot cope with their symptoms at home, their condition gets worse, or their symptoms do not get better after seven days.

“Only call 999 if you are experiencing a life-threatening emergency, do not call 999 just because you are on hold to 111.  We appreciate that 111 lines are busy, but you will get through after a wait.

“The public play a very important role in slowing the spread of infection. By strictly following the latest measures, you will protect yourself, protect the most vulnerable and help to reduce the pressure on NHS Wales and minimise the impact of the virus.”

Numbers of confirmed cases by local health board

Health Board

New cases

Cumulative cases

Aneurin Bevan

87

956

Betsi Cadwaladr

45

178

Cardiff and Vale

116

729

Cwm Taf Morgannwg

58

387

Hywel Dda

26

170

Powys

5

46

Swansea Bay

39

312

Resident outside Wales

5

26

To be confirmed

6

49

Wales Total

382

2827

Total

387

2853

*Due to ongoing data reconciliation and refinement, slight variation may occur day-to-day in the cases reported by health board area.

Note - We are looking at ways of providing information for the public and media in a routine or automated way, and we ask that the public and media bear with us while these systems are put in place.


DATGANIAD CYMRAEG

Diweddariad: 2:00pm Dydd Sadwrn 4 Ebrill

Dywedodd Dr Chris Williams, Cyfarwyddwr Digwyddiadau ar gyfer yr ymateb i achosion o’r Coronafeirws Newydd (COVID-19) yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:

“Mae 387 o achosion newydd wedi profi’n bositif ar gyfer Coronafeirws Newydd (COVID-19) yng Nghymru, gan wneud cyfanswm yr achosion sydd wedi’u cadarnhau yn 2,853, ond mae’r nifer gwirioneddol o achosion yn debygol o fod yn uwch. 

“Mae 13 o farwolaethau pellach wedi cael eu cofnodi ymhlith pobl oedd wedi profi’n bositif am Goronafeirws Newydd (COVID-19), gan fynd â nifer y marwolaethau yng Nghymru i 154.

“Estynnwn ein cydymdeimlad â’r teuluoedd a’r ffrindiau sydd wedi’u heffeithio a gofynnwn i’r rhai sy’n adrodd ar y sefyllfa barchu cyfrinachedd cleifion.

“Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cynnal mwy na 13,000 o brofion am Goronafeirws Newydd (COVID-19) ar fwy nag 11,000 o unigolion ers dechrau’r achosion hyn.       

“Ar ôl cyhoeddi astudiaeth Tsieineaidd newydd sy’n dangos bod ysmygwyr sydd â COVID-19 14 gwaith yn fwy tebygol o ddatblygu afiechyd difrifol, rydym yn annog pob ysmygwr sydd eisiau stopio ysmygu i ddefnyddio cyngor am ddim y GIG ar gyfer stopio ysmygu, Helpa Fi I Stopio, a’r gwasanaeth cefnogi dros y ffôn. Chwiliwch am ‘Helpa Fi I Stopio’ ar-lein neu ffoniwch 0800 085 2219 i ddechrau arni.

“Mae Coronafeirws Newydd (COVID-19) ym mhob rhan o Gymru yn awr. Y cam gweithredu unigol pwysicaf y gallwn ni i gyd ei gymryd er mwyn brwydro yn erbyn Coronafeirws yw aros gartref er mwyn gwarchod y GIG ac achub bywydau.

“Rydyn ni’n gwybod bod aros gartref yn gallu bod yn anodd ac rydyn ni eisiau diolch i bob un person ledled Cymru am wneud eu rhan i helpu i arafu lledaeniad y feirws.

“Rhaid i aelodau’r cyhoedd gadw at y rheolau cadw pellter cymdeithasol ar gyfer aros gartref, ac oddi wrth bobl eraill, sydd wedi’u cyflwyno gan Lywodraeth y DU a Chymru. Mae’r rheolau hyn ar gael ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

“Nid oes raid i bobl gysylltu â GIG 111 mwyach os ydynt yn meddwl eu bod wedi dal Coronafeirws Newydd (COVID-19). Mae gwybodaeth am y symptomau i gadw llygad amdanynt ar gael ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru, neu gall aelodau’r cyhoedd ddefnyddio gwiriwr symptomau GIG Cymru.

“Ni ddylai unrhyw un sy’n amau bod ganddo salwch coronafeirws fynd i feddygfa, fferyllfa nac ysbyty. Dim ond os ydynt yn teimlo nad ydynt yn gallu ymdopi â’u symptomau gartref ddylai pobl gysylltu â GIG 111, os yw eu cyflwr yn gwaethygu, neu os nad yw eu symptomau’n gwella ar ôl saith diwrnod.      

“Dim ond os ydych chi’n profi argyfwng sy’n bygwth eich bywyd ddylech chi ffonio 999, peidiwch â ffonio 999 dim ond am eich bod yn gorfod aros am ymateb ar 111. Rydym yn gwerthfawrogi bod llinellau 111 yn brysur, ond byddwch yn cael ateb dim ond i chi aros.

“Mae’r cyhoedd yn chwarae rhan bwysig iawn mewn arafu lledaeniad yr haint. Drwy ddilyn y cyngor diweddaraf yn llym, byddwch yn eich gwarchod eich hun a’r bobl fwyaf agored i niwed, ac yn helpu i leihau’r pwysau ar GIG Cymru ac yn lleihau effaith y feirws.”

Nifer yr achosion wedi’u cadarnhau yn ôl bwrdd iechyd lleol 

 

Bwrdd Iechyd

Achosion newydd

Cyfanswm yr achosion 

Aneurin Bevan

87

956

Betsi Cadwaladr

45

178

Caerdydd a’r Fro         

116

729

Cwm Taf Morgannwg

58

387

Hywel Dda

26

170

Powys

5

46

Bae Abertawe

39

312

Byw tu allan i Gymru 

5

26

I’w gadarnhau

6

49

Cyfanswm Cymru

382

2827

Cyfanswm

387

2853

*Oherwydd ein bod yn cysoni ac yn mireinio data yn barhaus, gall rhai mân amrywiadau ddigwydd o ddydd i ddydd yn yr achosion a gofnodir yn ôl ardal bwrdd iechyd.  

Sylwer – Rydym yn edrych ar ffyrdd o ddarparu gwybodaeth i’r cyhoedd a’r cyfryngau mewn ffordd reolaidd ac awtomatig ac rydym yn gofyn i’r cyhoedd a’r cyfryngau fod yn amyneddgar gyda ni wrth i ni roi’r systemau hyn yn eu lle.