Public Health Wales statement on Novel Coronavirus (COVID-19) outbreak
This statement will be updated daily at 2pm
Updated: 2:00pm Sunday 5 April
Dr Giri Shankar,
Incident Director for the Novel Coronavirus (COVID-19) outbreak response at
Public Health Wales, said:
“355 new cases have tested positive for Novel
Coronavirus (COVID-19) in Wales, bringing the total number of confirmed
cases to 3,197*, although the true number of cases is likely to be higher.
“12 further
deaths have been reported to us of people who had tested positive for Novel
Coronavirus (COVID-19), taking the number of deaths in Wales to 166.
“We offer our
condolences to families and friends affected, and we ask those reporting on the
situation to respect patient confidentiality.
“Public
Health Wales has conducted more than 14,000 tests for Novel Coronavirus
(COVID-19) on nearly 12,000 individuals since the start of this outbreak.
“Novel Coronavirus (COVID-19) is now
circulating in every part of Wales. The single
most important action we can all take in fighting Coronavirus is to stay at
home in order to protect the NHS, and save lives.
“We
know that staying at home can be hard especially when the weather is nice and
we want everyone to follow the rules. We want to thank each and every person
across Wales for doing their bit to help slow the spread of the virus.
“Members
of the public must adhere to social distancing rules about staying at home, and
away from others, introduced by the UK and Welsh Government. These rules are available on the Public
Health Wales website.
“People no
longer need to contact NHS 111 if they think they may have contracted Novel
Coronavirus (COVID-19). Information
about the symptoms to look out for is available on the Public Health Wales website, or members of the public can use the
NHS Wales symptom checker.
“Anyone with
a suspected coronavirus illness should not go to a GP surgery, pharmacy or
hospital. They should only contact NHS
111 if they feel they cannot cope with their symptoms at home, their condition
gets worse, or their symptoms do not get better after seven days.
“Only call
999 if you are experiencing a life-threatening emergency, do not call 999 just
because you are on hold to 111. We
appreciate that 111 lines are busy, but you will get through after a wait.
“The public
play a very important role in slowing the spread of infection. By strictly following
the latest measures, you will protect yourself, protect the most vulnerable and
help to reduce the pressure on NHS Wales and minimise the impact of the virus.”
Numbers of confirmed
cases by local health board
Health
Board |
New
cases |
Cumulative
cases |
Aneurin
Bevan |
65 |
1020* |
Betsi
Cadwaladr |
11 |
189 |
Cardiff and
Vale |
92 |
815* |
Cwm Taf
Morgannwg |
94 |
479* |
Hywel Dda |
19 |
189 |
Powys |
2 |
48 |
Swansea Bay |
66 |
376* |
Resident
outside Wales |
1 |
27 |
To be
confirmed |
5 |
54 |
Wales Total |
354 |
3196 |
Total |
355 |
3197 |
*Following continuous ongoing data reconciliation,
11 duplicate cases which were previously reported have been identified and
removed from the overall figures.
Note - We are looking at ways of providing information for the public
and media in a routine or automated way, and we ask that the public and media
bear with us while these systems are put in place.
DATGANIAD CYMRAEG
Diweddariad: 2:00pm Dydd Sul 5 Ebrill
Dywedodd Dr Giri
Shankar, Cyfarwyddwr
Digwyddiadau ar gyfer yr ymateb i achosion o’r Coronafeirws Newydd (COVID-19) yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:
“Mae
355 o achosion newydd wedi profi’n bositif ar gyfer Coronafeirws Newydd
(COVID-19) yng Nghymru, gan wneud cyfanswm yr achosion sydd wedi’u cadarnhau yn 3,197*, ond mae’r nifer gwirioneddol o achosion yn
debygol o fod yn uwch.
“Mae 12 o farwolaethau pellach wedi cael eu cofnodi
ymhlith pobl oedd wedi profi’n bositif am Goronafeirws Newydd (COVID-19), gan
fynd â nifer y marwolaethau yng Nghymru i 166.
“Estynnwn ein cydymdeimlad â’r teuluoedd a’r ffrindiau
sydd wedi’u heffeithio a gofynnwn i’r rhai sy’n adrodd ar y sefyllfa barchu
cyfrinachedd cleifion.
“Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi
cynnal mwy na 13,000 o brofion am Goronafeirws Newydd (COVID-19) ar
fwy nag 11,000 o unigolion ers dechrau’r achosion hyn.
“Ar ôl cyhoeddi astudiaeth
Tsieineaidd newydd sy’n dangos bod ysmygwyr sydd â COVID-19 14 gwaith yn fwy
tebygol o ddatblygu afiechyd difrifol, rydym yn annog pob ysmygwr sydd eisiau stopio
ysmygu i ddefnyddio cyngor am ddim y GIG ar gyfer stopio ysmygu, Helpa Fi I
Stopio, a’r gwasanaeth cefnogi dros y ffôn. Chwiliwch am ‘Helpa Fi I Stopio’ ar-lein
neu ffoniwch 0800 085 2219 i ddechrau arni.
“Mae Coronafeirws
Newydd (COVID-19) ym mhob rhan
o Gymru yn awr. Y cam gweithredu unigol pwysicaf y gallwn ni i gyd ei gymryd er
mwyn brwydro yn erbyn Coronafeirws yw aros gartref er mwyn gwarchod y GIG ac
achub bywydau.
“Rydyn ni’n gwybod bod aros gartref
yn gallu bod yn anodd ac rydyn ni eisiau diolch i bob un person ledled Cymru am
wneud eu rhan i helpu i arafu lledaeniad y feirws.
“Rhaid i aelodau’r cyhoedd gadw at y
rheolau cadw pellter cymdeithasol ar gyfer aros gartref, ac oddi wrth bobl
eraill, sydd wedi’u cyflwyno gan Lywodraeth y DU a Chymru. Mae’r rheolau hyn ar
gael ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
“Nid oes raid i bobl gysylltu â GIG 111 mwyach os ydynt
yn meddwl eu bod wedi dal Coronafeirws Newydd (COVID-19). Mae gwybodaeth am y symptomau
i gadw llygad amdanynt ar gael ar wefan
Iechyd Cyhoeddus Cymru, neu gall aelodau’r cyhoedd ddefnyddio gwiriwr symptomau GIG
Cymru.
“Ni ddylai unrhyw un sy’n amau bod ganddo salwch coronafeirws
fynd i feddygfa, fferyllfa nac ysbyty. Dim ond os ydynt yn teimlo nad ydynt yn
gallu ymdopi â’u symptomau gartref ddylai pobl gysylltu â GIG 111, os yw eu
cyflwr yn gwaethygu, neu os nad yw eu symptomau’n gwella ar ôl saith
diwrnod.
“Dim ond os ydych chi’n profi argyfwng sy’n bygwth eich
bywyd ddylech chi ffonio 999, peidiwch â ffonio 999 dim ond am eich bod yn
gorfod aros am ymateb ar 111. Rydym yn gwerthfawrogi bod llinellau 111 yn
brysur, ond byddwch yn cael ateb dim ond i chi aros.
“Mae’r cyhoedd yn chwarae rhan bwysig iawn mewn arafu
lledaeniad yr haint. Drwy ddilyn y cyngor diweddaraf yn llym, byddwch yn eich
gwarchod eich hun a’r bobl fwyaf agored i niwed, ac yn helpu i leihau’r pwysau
ar GIG Cymru ac yn lleihau effaith y feirws.”
Nifer yr achosion
wedi’u cadarnhau yn ôl bwrdd iechyd lleol
Bwrdd Iechyd |
Achosion newydd |
Cyfanswm yr achosion |
Aneurin Bevan |
65 |
1020* |
Betsi Cadwaladr |
11 |
189 |
Caerdydd
a’r Fro |
92 |
815* |
Cwm Taf Morgannwg |
94 |
479* |
Hywel Dda |
19 |
189 |
Powys |
2 |
48 |
Bae
Abertawe |
66 |
376* |
Byw
tu allan i Gymru |
1 |
27 |
I’w
gadarnhau |
5 |
54 |
Cyfanswm Cymru |
354 |
3196 |
Cyfanswm |
355 |
3197 |
*Yn dilyn cysoni data parhaus, mae 11 achos wedi’u
dyblygu a gofnodwyd yn flaenorol wedi cael eu canfod a’u dileu o’r ffigurau
cyffredinol.
Sylwer
– Rydym yn edrych ar ffyrdd o ddarparu gwybodaeth i’r
cyhoedd a’r cyfryngau mewn ffordd reolaidd ac awtomatig ac rydym yn gofyn i’r
cyhoedd a’r cyfryngau fod yn amyneddgar gyda ni wrth i ni roi’r systemau hyn yn
eu lle.