Public Health Wales statement on Novel Coronavirus (COVID-19) outbreak
This statement will be updated daily at 2pm
Updated: 2:00pm Tuesday 14 April
Dr Robin Howe,
Incident Director for the Novel Coronavirus (COVID-19) outbreak response at
Public Health Wales, said:
“238 new cases have
tested positive for Novel Coronavirus (COVID-19) in Wales, bringing the total
number of confirmed cases to 5,848, although the true number of cases is
likely to be higher.
“19 further deaths have been reported to us of people who had tested
positive for Novel Coronavirus (COVID-19), taking the number of deaths in Wales
to 403.
“We offer our
condolences to families and friends affected, and we ask those reporting on the
situation to respect patient confidentiality.
“All available data
relating to Coronavirus in Wales is now available on a new user-friendly data
dashboard, which is available on the Public
Health Wales website.
“Public Health
Wales is working to address the negative impact of COVID-19 on the social,
mental and physical wellbeing of people in Wales. The new ‘How are you doing?’
campaign is now live and offering practical advice from phw.nhs.wales/howareyoudoing.
“As part of our
efforts to continually expand testing, there is now a Deloitte testing facility
operational at Cardiff City Stadium. This is part of the UK-wide plan to test
key workers. In Wales this has been led by Public Health Wales, Welsh
Government, the Local Resilience Forum, and Deloitte. Please note that the
facility is for key workers and you should only attend if invited.
“Public Health
Wales is working with Deloitte to integrate reporting systems so they can be
included in Public Health Wales’ data dashboard.
“Public
Health Wales is working in partnership with the Welsh Government and the Welsh
Blood Service to explore the use of convalescent plasma from people who have
recovered from Novel Coronavirus (COVID-19).
“Plasma from
patients who have recovered from Coronavirus will contain antibodies that their
immune systems have produced to fight the virus which can be transfused to
patients whose immune systems are struggling to develop their own antibodies.
“The
initiative is at an early stage and we will be inviting eligible individuals by
direct approach only at this stage.
“Novel Coronavirus
(COVID-19) is now circulating in every part of Wales. The single most
important action we can all take in fighting Coronavirus is to stay at home in
order to protect the NHS, and save lives.
“We want to thank
each and every person across Wales for doing their bit to help slow the spread
of the virus.
“We know that
staying at home can be hard especially when the weather is nice, but members of
the public must adhere to social distancing rules about staying at home, and
away from others, introduced by the UK and Welsh Government. These rules
are available on the Public
Health Wales website.
“People no longer
need to contact NHS 111 if they think they may have contracted Novel
Coronavirus (COVID-19). Information about the symptoms to look out for is
available on the Public
Health Wales website, or members of the public can use the NHS
Wales symptom
checker.
“Anyone with a
suspected coronavirus illness should not go to a GP surgery, pharmacy or
hospital. They should only contact NHS 111 if they feel they cannot cope
with their symptoms at home, their condition gets worse, or their symptoms do
not get better after seven days.
“Only call 999 if
you are experiencing a life-threatening emergency, do not call 999 just because
you are on hold to 111. We appreciate that 111 lines are busy, but you
will get through after a wait.
“The public play a very important role in slowing the spread of infection. By strictly following the latest measures, you will protect yourself, protect the most vulnerable and help to reduce the pressure on NHS Wales and minimise the impact of the virus.”
DATGANIAD CYMRAEG
Diweddariad: 2:00yp Dydd Mawrth 14 Ebrill
Dywedodd Dr Robin Howe, Cyfarwyddwr Digwyddiad
ar gyfer yr ymateb i'r achos o'r Coronafeirws Newydd (COVID-19) yn Iechyd
Cyhoeddus Cymru:
“Mae 238 o achosion newydd wedi profi’n bositif
am Coronafeirws Newydd (COVID-19) yng Nghymru, gan ddod â chyfanswm yr achosion
a gadarnhawyd i 5,848 – er bod gwir nifer yr achosion yn debygol o fod yn
uwch.
“Mae 19
person arall a gafodd brawf positif am Coronafeirws Newydd (COVID-19) wedi
marw, sy’n dod â nifer y marwolaethau yng Nghymru i 403.
“Estynnwn ein cydymdeimlad i’r teuluoedd a'r
ffrindiau sydd wedi'u heffeithio, a gofynnwn i'r rhai sy'n adrodd ar y sefyllfa
barchu cyfrinachedd cleifion.
“Mae'r holl ddata sydd ar gael sy'n ymwneud â
Coronafeirws yng Nghymru bellach ar gael ar ddangosfwrdd data hawdd ei
ddefnyddio, sydd ar gael ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
“Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio i fynd
i’r afael ag effaith negyddol COVID-19 ar lesiant cymdeithasol, meddyliol a
chorfforol poblogaeth Cymru. Mae’r ymgyrch newydd ‘Sut Wyt Ti?’ bellach yn fyw
ac mae’n cynnig cyngor ymarferol trwy phw.nhs.wales/howareyoudoing.
“Fel rhan o’n hymdrechion i gynyddu’n barhaus
ein capasiti i brofi am Coronafeirws, mae cyfleuster profi Deloitte bellach yn
weithredol yn Stadiwm Dinas Caerdydd. Mae hyn yn rhan o’r cynllun ledled y DU i
brofi gweithwyr allweddol. Yng Nghymru, mae hyn wedi cael ei arwain gan Iechyd
Cyhoeddus Cymru, Llywodraeth Cymru, y Fforwm Gwydnwch Lleol a Deloitte. Sylwch
fod y cyfleuster ar gyfer gweithwyr allweddol a dim ond os cewch eich gwahodd y
dylech ei fynychu.
“Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio gyda
Deloitte i integreiddio systemau adrodd fel eu bod yn gallu cael eu cynnwys ar
ddangosfwrdd data Iechyd Cyhoeddus Cymru.
“Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio mewn partneriaeth â Llywodraeth
Cymru a Gwasanaeth Gwaed Cymru i archwilio’r broses o ddefnyddio plasma’r rhai
sydd wedi gwella o Coronafeirws Newydd (COVID-19).
“Bydd plasma gan gleifion sydd wedi gwella o Coronafeirws yn cynnwys
gwrthgyrff y mae eu systemau imiwnedd wedi eu creu i ymladd y feirws. Gellir
trallwyso’r rhain i gleifion y mae eu systemau imiwnedd yn cael trafferthion yn
datblygu eu gwrthgyrff eu hunain.
“Mae’r cynllun yn ei gyfnod cynnar a byddwn yn gwahodd unigolion cymwys
trwy gysylltu â nhw’n uniongyrchol yn unig ar hyn o bryd.
“Mae Coronafeirws Newydd (COVID-19) bellach yn
cylchredeg ym mhob rhan o Gymru. Y camau pwysicaf y gallwn ni i gyd eu
cymryd wrth ymladd Coronafeirws yw aros gartref er mwyn amddiffyn y GIG ac
achub bywydau.
“Rydyn ni am ddiolch i bawb ledled Cymru am
chwarae eu rhan wrth helpu i arafu lledaeniad y feirws.”
“Rydym yn gwybod y gall aros gartref fod yn
anodd, yn enwedig pan fo’r tywydd yn braf, ond rhaid i aelodau’r cyhoedd gadw
at reolau cadw pellter cymdeithasol ynghylch aros gartref, ac i ffwrdd oddi
wrth eraill, a gyflwynwyd gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru. Mae'r
rheolau hyn ar gael ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
“Nid oes angen i bobl gysylltu ag NHS 111 mwyach
os ydynt yn credu bod ganddynt Coronafeirws Newydd (COVID-19). Mae
gwybodaeth am y symptomau i gadw llygad amdanynt ar gael ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru, neu gall aelodau'r cyhoedd ddefnyddio gwiriwr symptomauGIG Cymru.
“Ni ddylai unrhyw un yr amheuir bod
ganddo/ganddi salwch coronafeirws fynd i bractis meddyg teulu, fferyllfa nac
ysbyty. Dim ond os yw'n teimlo na all ymdopi â'i symptomau gartref, fod
ei gyflwr yn gwaethygu, neu os nad yw ei symptomau’n gwella ar ôl saith niwrnod
y dylai gysylltu â NHS 111.
“Peidiwch â ffonio 999 oni bai eich bod yn profi
argyfwng sy’n peryglu bywyd. Peidiwch â ffonio 999 dim ond oherwydd eich bod yn
aros i 111 ateb eich galwad ffôn. Rydym yn deall bod llinellau 111 yn
brysur, ond bydd rhywun yn ateb eich galwad ar ôl i chi aros.
“Mae'r cyhoedd yn chwarae rhan bwysig iawn wrth
arafu lledaeniad yr haint. Wrth ddilyn y mesurau diweddaraf yn llym, byddwch yn
amddiffyn eich hun a’r rhai mwyaf agored i niwed, ac yn helpu i leihau’r pwysau
ar GIG Cymru ac yn lleihau effaith y feirws.”