Public Health Wales statement on Novel Coronavirus (COVID-19) outbreak
This statement will be updated daily at 2pm
Updated: 2:00pm Wednesday 15 April
Dr Giri Shankar, Incident Director for the Novel
Coronavirus (COVID-19) outbreak response at Public Health Wales, said:
“272 new cases have tested positive for Novel Coronavirus
(COVID-19) in Wales, bringing the total number of confirmed cases to 6,118,
although the true number of cases is likely to be higher.
“60 further deaths have been reported to us of people who
had tested positive for Novel Coronavirus (COVID-19), taking the number of
deaths in Wales to 463.
“We offer our condolences to families and friends
affected, and we ask those reporting on the situation to respect patient confidentiality.
“We are aware that the number of deaths reported today is
regrettably much higher than yesterday, however it is worth noting that
day-to-day fluctuations are to be expected.”
“All available data relating to Coronavirus in Wales is
now available on a new user-friendly data dashboard, which is available on
the Public Health Wales website.
“From tomorrow, confirmed case numbers and deaths will be
available to view in the dashboard only, with the daily statement focusing on
key public health information and updates.
“We are encouraging everyone
to download the Covid-19 Symptom Tracker app, which has been supported by
Welsh Government. The app allows users to log daily symptoms to help build a
clearer picture of how the virus is affecting people. For more information,
including how to download the app, visit covid.joinzoe.com.
“Public Health Wales is working to address the
negative impact of COVID-19 on the social, mental and physical wellbeing of
people in Wales. The new ‘How are you doing?’ campaign is now live and offering
practical advice from phw.nhs.wales/howareyoudoing.
“The Deloitte testing facility at Cardiff City
Stadium continues to operate to full capacity and provides a means for testing
key workers.
“Public Health Wales is working in
partnership with the Welsh Government and the Welsh Blood Service to explore
the use of convalescent plasma from people who have recovered from Novel
Coronavirus (COVID-19).
“Plasma from patients who have recovered
from Coronavirus will contain antibodies that their immune systems have
produced to fight the virus which can be transfused to patients whose immune
systems are struggling to develop their own antibodies.
“The initiative is at an early stage and we
will be inviting eligible individuals by direct approach only at this stage.
“Novel Coronavirus (COVID-19) is now
circulating in every part of Wales. The single most important action we
can all take in fighting Coronavirus is to stay at home in order to protect the
NHS, and save lives.
“We want to thank each and every person
across Wales for doing their bit to help slow the spread of the virus.
“We know that staying at home can be hard
especially when the weather is nice, but members of the public must adhere to
social distancing rules about staying at home, and away from others, introduced
by the UK and Welsh Government. These rules are available on the Public Health Wales website.
“People no longer need to contact NHS 111
if they think they may have contracted Novel Coronavirus (COVID-19).
Information about the symptoms to look out for is available on the Public Health Wales website, or members of the public can use the NHS
Wales symptom checker.
“Anyone with a suspected coronavirus illness
should not go to a GP surgery, pharmacy or hospital. They should only
contact NHS 111 if they feel they cannot cope with their symptoms at home,
their condition gets worse, or their symptoms do not get better after seven
days.
“Only call 999 if you are experiencing a
life-threatening emergency, do not call 999 just because you are on hold to
111. We appreciate that 111 lines are busy, but you will get through
after a wait.
“The public play a very important role in
slowing the spread of infection. By strictly following the latest measures, you
will protect yourself, protect the most vulnerable and help to reduce the
pressure on NHS Wales and minimise the impact of the virus.”
DATGANIAD CYMRAEG
Diweddariad: 2:00yp Dydd Mercher 15 Ebrill
Dywedodd
Dr Giri Shankar, Cyfarwyddwr Digwyddiad ar gyfer yr ymateb i'r achos o'r
Coronafeirws Newydd (COVID-19) yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:
“Mae
272 o achosion newydd wedi profi’n bositif am Coronafeirws Newydd (COVID-19)
yng Nghymru, gan ddod â chyfanswm yr achosion a gadarnhawyd i 6,118 – er bod
gwir nifer yr achosion yn debygol o fod yn uwch.
“Mae
60 person arall a gafodd brawf positif am Coronafeirws Newydd (COVID-19) wedi
marw, sy’n dod â nifer y marwolaethau yng Nghymru i 463.
“Estynnwn
ein cydymdeimlad i’r teuluoedd a'r ffrindiau sydd wedi'u heffeithio, a gofynnwn
i'r rhai sy'n adrodd ar y sefyllfa barchu cyfrinachedd cleifion.
“Rydym
yn ymwybodol bod nifer y marwolaethau a gofnodir heddiw yn uwch o lawer na
ddoe, yn anffodus, ond mae’n werth nodi y disgwylir amrywiadau o ddydd i
ddydd.”
“Mae'r
holl ddata sydd ar gael sy'n ymwneud â Coronafeirws yng Nghymru bellach ar gael
ar ddangosfwrdd data hawdd ei ddefnyddio, sydd ar gael ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
“O
yfory ymlaen, bydd niferoedd yr achosion a’r marwolaethau wedi’u cadarnhau ar
gael i’w gweld yn y dangosfwrdd yn unig a bydd y datganiad dyddiol yn
canolbwyntio ar wybodaeth a diweddariadau allweddol ynghylch iechyd y cyhoedd.
“Rydym yn annog pawb i
lawrlwytho’r ap Tracio Symptomau Covid-19, a dderbyniodd gefnogaeth gan
Lywodraeth Cymru. Mae'r ap yn caniatáu i ddefnyddwyr logio symptomau’n ddyddiol
i helpu i adeiladu darlun cliriach o sut mae'r feirws yn effeithio ar bobl. Am ragor
o wybodaeth, gan gynnwys sut i lawrlwytho'r ap, ewch i covid.joinzoe.com.
“Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio i fynd
i’r afael ag effaith negyddol COVID-19 ar lesiant cymdeithasol, meddyliol a
chorfforol poblogaeth Cymru. Mae’r ymgyrch newydd ‘Sut Wyt Ti?’ bellach yn fyw
ac mae’n cynnig cyngor ymarferol trwy phw.nhs.wales/howareyoudoing.
“Mae cyfleuster profi Deloitte yn Stadiwm Dinas
Caerdydd yn parhau i weithredu i’w lawn gapasiti ac yn fodd i brofi gweithwyr
allweddol.
“Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio mewn partneriaeth â Llywodraeth
Cymru a Gwasanaeth Gwaed Cymru i archwilio’r broses o ddefnyddio plasma’r rhai
sydd wedi gwella o Coronafeirws Newydd (COVID-19).
“Bydd plasma gan gleifion sydd wedi gwella o Coronafeirws yn cynnwys
gwrthgyrff y mae eu systemau imiwnedd wedi eu creu i ymladd y feirws. Gellir trallwyso’r
rhain i gleifion y mae eu systemau imiwnedd yn cael trafferthion yn datblygu eu
gwrthgyrff eu hunain.
“Mae’r cynllun yn ei gyfnod cynnar a byddwn yn gwahodd unigolion cymwys
trwy gysylltu â nhw’n uniongyrchol yn unig ar hyn o bryd.
“Mae Coronafeirws Newydd (COVID-19) bellach yn cylchredeg ym mhob rhan o
Gymru. Y camau pwysicaf y gallwn ni i gyd eu cymryd wrth ymladd
Coronafeirws yw aros gartref er mwyn amddiffyn y GIG ac achub bywydau.
“Rydyn ni am ddiolch i bawb ledled Cymru am chwarae eu rhan wrth helpu i
arafu lledaeniad y feirws.”
“Rydym yn gwybod y gall aros gartref fod yn anodd, yn enwedig pan fo’r
tywydd yn braf, ond rhaid i aelodau’r cyhoedd gadw at reolau cadw pellter
cymdeithasol ynghylch aros gartref, ac i ffwrdd oddi wrth eraill, a gyflwynwyd
gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru. Mae'r rheolau hyn ar gael ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
“Nid oes angen i bobl gysylltu ag NHS 111 mwyach os ydynt yn credu bod
ganddynt Coronafeirws Newydd (COVID-19). Mae gwybodaeth am y symptomau i
gadw llygad amdanynt ar gael ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru, neu gall aelodau'r cyhoedd ddefnyddio gwiriwr symptomau GIG Cymru.
“Ni ddylai unrhyw un yr amheuir bod ganddo/ganddi salwch coronafeirws
fynd i bractis meddyg teulu, fferyllfa nac ysbyty. Dim ond os yw'n teimlo
na all ymdopi â'i symptomau gartref, fod ei gyflwr yn gwaethygu, neu os nad yw
ei symptomau’n gwella ar ôl saith niwrnod y dylai gysylltu â NHS 111.
“Peidiwch â ffonio 999 oni bai eich bod yn profi argyfwng sy’n peryglu
bywyd. Peidiwch â ffonio 999 dim ond oherwydd eich bod yn aros i 111 ateb eich
galwad ffôn. Rydym yn deall bod llinellau 111 yn brysur, ond bydd rhywun yn
ateb eich galwad ar ôl i chi aros.
“Mae'r cyhoedd yn chwarae rhan bwysig iawn wrth arafu lledaeniad yr
haint. Wrth ddilyn y mesurau diweddaraf yn llym, byddwch yn amddiffyn eich hun
a’r rhai mwyaf agored i niwed, ac yn helpu i leihau’r pwysau ar GIG Cymru ac yn
lleihau effaith y feirws.”