Public Health Wales statement on Novel Coronavirus (COVID-19) outbreak
This statement will be updated daily at 2pm
Updated: 2:00pm Friday 24 April
NOTE: Detailed information on new cases of
Novel Coronavirus (COVID-19) in Wales is now available on our user-friendly
data dashboard on the Public Health Wales website.
Dr Robin Howe, Incident Director for the
Novel Coronavirus (COVID-19) outbreak response at Public Health Wales, said:
“Based on the new case numbers there is
emerging evidence suggesting a levelling-off in the number of new cases of
Novel Coronavirus (COVID-19) in Wales, which may be an indication of the effectiveness
of lockdown measures. However, it is still too early to tell for sure, and it
is too soon to end the current social distancing rules. Public Health Wales
continues to fully support the extension of lockdown measures, which is
essential to avoid reversing the gains we have made in slowing the spread of
this virus, protecting our NHS, and saving lives.”
“Novel
Coronavirus (COVID-19) is still circulating in every part of Wales, and the
single most important action we can all take in fighting the virus is to stay
at home. We want to thank each and every
person across Wales for doing their bit to help slow the spread of the virus.
"While emphasising the importance of
staying at home, we also want to reinforce the message from NHS Wales that
urgent and emergency care services for physical and mental health are still
open and accessible.
“For parents, if your child is unwell and
you are concerned you should seek help.
If you have urgent dental pain you should still call your dentist. If
you have a health complaint that is worrying you and won’t go away you should
call your GP practice. If you or a family member are seriously ill or injured
you should dial 999 or attend your nearest Emergency Department.
“Public Health Wales is working with our
partners in Welsh Government, the wider NHS in Wales, the other UK nations and
others to monitor and respond to the spread of Novel Coronavirus (COVID-19) in
Wales.
“The new Critical Workers Testing Policy will be helpful in providing guidance to
partners to make sure that we use the current testing capacity in Wales to the
full, and to enable the demand for testing to scale up accordingly as we expand
our capacity. It is vital to ensure we test the right people, at the right
time, in the right place, to reduce the spread of COVID-19.
“We will be increasing our testing capacity
in the weeks and months to come and it will be essential for us to exploit all
possible technology to create a streamlined and digitally enabled process to
support this. The recommendations in the Minister’s review will be helpful in
achieving this.
“We are encouraging everyone to download
the COVID-19 Symptom Tracker app, which has been supported by Welsh Government.
The app allows users to log daily symptoms to help build a clearer picture of
how the virus is affecting people. For more information, including how to
download the app, visit covid.joinzoe.com.
“Public Health Wales is working to address
the negative impact of COVID-19 on the social, mental and physical wellbeing of
people in Wales. The new How are you
doing? campaign is now live and offering practical advice from phw.nhs.wales/howareyoudoing.
“We know that staying at home can be hard
especially when the weather is nice, but members of the public must adhere to
social distancing rules about staying at home, and away from others, introduced
by the UK and Welsh Government. These
rules are available on the Public Health Wales website.
“People no longer need to contact NHS 111
if they think they may have contracted Novel Coronavirus (COVID-19). Information about the symptoms to look out
for is available on the Public Health Wales website, or members of the public
can use the NHS Wales symptom checker.
“Anyone with a suspected coronavirus
illness should not go to a GP surgery, pharmacy or hospital. They should only contact NHS 111 if they feel
they cannot cope with their symptoms at home, their condition gets worse, or
their symptoms do not get better after seven days.
“Only call 999 if you are experiencing a
life-threatening emergency, do not call 999 just because you are on hold to
111. We appreciate that 111 lines are
busy, but you will get through after a wait. “Only call 999 if you are
experiencing a life-threatening emergency, do not call 999 just because you are
on hold to 111. We appreciate that 111 lines are busy, but you will get
through after a wait.
DATGANIAD CYMRAEG
Diweddariad: 2:00yp Dydd Gwener 24 Ebrill
NODER: Mae gwybodaeth fanwl am achosion newydd o Coronafeirws Newydd
(COVID-19) yng Nghymru bellach ar gael ar ein dangosfwrdd data hawdd ei
ddefnyddio ar wefan
Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Dywedodd Dr Robin Howe, Cyfarwyddwr Digwyddiad ar gyfer yr ymateb i'r
achos o'r Coronafeirws Newydd (COVID-19) yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:
“Yn seiliedig ar niferoedd yr achosion newydd, mae tystiolaeth yn dod
i’r amlwg sy’n awgrymu bod nifer yr achosion newydd o Coronafeirws Newydd
(COVID-19) yng Nghymru yn sefydlogi, a allai ddangos effeithiolrwydd mesurau
cyfyngiadau symud. Fodd bynnag, mae’n rhy gynnar i ddweud yn bendant o hyd, ac
mae’n rhy gynnar i ddod â’r rheolau cadw pellter cymdeithasol presennol i ben.
“Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn parhau i gefnogi ymestyn y mesurau cyfyngiadau
symud yn llawn, sy’n hanfodol er mwyn osgoi gwrthdroi’r cynnydd a wnaed wrth
arafu lledaeniad y feirws hwn, i amddiffyn ein GIG ac achub bywydau.”
“Mae Coronafeirws Newydd
(COVID-19) yn dal i gylchredeg ym mhob rhan o Gymru, a’r cam pwysicaf un y gall
pob un ohonom ei gymryd wrth ymladd y feirws yw aros gartref. Rydyn ni am ddiolch i bawb ledled Cymru am
chwarae eu rhan wrth helpu i arafu lledaeniad y feirws.”
“Er ein bod am bwysleisio pwysigrwydd aros gartref, hoffwn atgyfnerthu’r
neges gan GIG Cymru fod gwasanaethau gofal brys ar gyfer iechyd meddwl ac
iechyd corfforol ar agor o hyd.
“I rieni, os yw'ch plentyn yn sâl a'ch bod yn pryderu, dylech ofyn am
help. Os oes gennych boen deintyddol
brys, dylech ddal i ffonio'ch deintydd. Os oes gennych broblem iechyd sy'n eich
poeni ac nad yw’n mynd i ffwrdd, dylech ffonio'ch practis meddyg teulu. Os
ydych chi, neu aelod o'r teulu, yn ddifrifol wael neu wedi'ch anafu, dylech
ddeialu 999 neu fynd i'ch Adran Achosion Brys agosaf.
“Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio gyda'n partneriaid yn
Llywodraeth Cymru, y GIG ehangach yng Nghymru, cenhedloedd eraill y DU a chydag
eraill i fonitro ac ymateb i ledaeniad Coronafeirws Newydd (COVID-19) yng
Nghymru.
“Bydd y Polisi
Profi Gweithwyr Allweddol newydd yn
ddefnyddiol wrth roi arweiniad i bartneriaid er mwyn sicrhau ein bod yn
manteisio i’r eithaf ar y capasiti profi presennol yng Nghymru, ac er mwyn
galluogi’r galw am brofi i gynyddu yn unol â hynny wrth i ni ymestyn ein
capasiti. Mae’n hanfodol sicrhau ein bod yn profi’r bobl iawn ar yr adeg iawn
ac yn y lle iawn er mwyn lleihau lledaeniad COVID-19.
“Byddwn yn cynyddu ein capasiti profi yn yr wythnosau a’r misoedd i ddod
a bydd yn hanfodol ein bod yn manteisio i’r eithaf ar dechnoleg er mwyn llunio
proses sydd wedi’i symleiddio ac sydd wedi’i galluogi’n ddigidol er mwyn
cefnogi hyn. Bydd yr argymhellion yn adolygiad y Gweinidog yn ddefnyddiol wrth
gyflawni hyn.
“Rydym yn annog pawb i lawrlwytho’r ap Tracio Symptomau COVID-19, a
dderbyniodd gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru. Mae'r ap yn caniatáu i ddefnyddwyr
logio symptomau’n ddyddiol i helpu i adeiladu darlun cliriach o sut mae'r
feirws yn effeithio ar bobl. Am ragor o wybodaeth, gan gynnwys sut i
lawrlwytho'r ap, ewch i covid.joinzoe.com.
“Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio i fynd i’r afael ag effaith
negyddol COVID-19 ar lesiant cymdeithasol, meddyliol a chorfforol poblogaeth
Cymru. Mae’r ymgyrch newydd Sut Wyt Ti? bellach yn fyw ac mae’n
cynnig cyngor ymarferol trwy phw.nhs.wales/howareyoudoing.
“Rydym yn gwybod y gall aros gartref fod yn anodd, yn enwedig pan fo’r
tywydd yn braf, ond rhaid i aelodau’r cyhoedd gadw at reolau cadw pellter
cymdeithasol ynghylch aros gartref, ac i ffwrdd oddi wrth eraill, a gyflwynwyd
gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru.
Mae'r rheolau hyn ar gael ar wefan Iechyd
Cyhoeddus Cymru.
“Nid oes angen i bobl gysylltu ag NHS 111 mwyach os ydynt yn credu bod
ganddynt Coronafeirws Newydd (COVID-19).
Mae gwybodaeth am y symptomau i gadw llygad amdanynt ar gael ar wefan
Iechyd Cyhoeddus Cymru, neu gall aelodau'r cyhoedd ddefnyddio gwiriwr
symptomau GIG Cymru.
“Ni ddylai unrhyw un yr amheuir bod ganddo/ganddi salwch coronafeirws
fynd i bractis meddyg teulu, fferyllfa nac ysbyty. Dim ond os yw'n teimlo na all ymdopi â'i
symptomau gartref, fod ei gyflwr yn gwaethygu, neu os nad yw ei symptomau’n
gwella ar ôl saith niwrnod y dylai gysylltu â NHS 111.
“Peidiwch â ffonio 999 oni bai eich bod yn profi argyfwng sy’n peryglu bywyd. Peidiwch â ffonio 999 dim ond oherwydd eich bod yn aros i 111 ateb eich galwad ffôn. Rydym yn deall bod llinellau 111 yn brysur, ond bydd rhywun yn ateb eich galwad ar ôl i chi aros. “Peidiwch â ffonio 999 oni bai eich bod yn profi argyfwng sy’n peryglu bywyd. Peidiwch â ffonio 999 dim ond oherwydd eich bod yn aros i 111 ateb eich galwad ffôn. Rydym yn deall bod llinellau 111 yn brysur, ond bydd rhywun yn ateb eich galwad ar ôl i chi aros.”