Public Health Wales statement on Novel Coronavirus (COVID-19) outbreak

This statement will be updated daily at 2pm

Updated: 2:00pm Monday 27 April

NOTE: Detailed information on new cases of Novel Coronavirus (COVID-19) in Wales is now available on our user-friendly data dashboard on the Public Health Wales website.

Dr Giri Shankar, Incident Director for the Novel Coronavirus (COVID-19) outbreak response at Public Health Wales, said:

“Based on the new case numbers there is emerging evidence suggesting a levelling-off in the number of new cases of Novel Coronavirus (COVID-19) in Wales, which may be an indication of the effectiveness of lockdown measures. However, it is still too early to tell for sure, and it is too soon to end the current social distancing rules.

Public Health Wales fully supports the First Minister’s announcement (24 April) on revised stay-at-home regulations. The changes supplement the rules already in force but they respond to some challenges being faced in parts of the country and by families throughout Wales. The message has not changed – anyone can get coronavirus, anyone can spread it. Stay home, protect the NHS, and save lives. You can view the revised regulations here.

“Novel Coronavirus (COVID-19) is still circulating in every part of Wales, and the single most important action we can all take in fighting the virus is to stay at home.  We want to thank each and every person across Wales for doing their bit to help slow the spread of the virus.

"While emphasising the importance of staying at home, we also want to reinforce the message from NHS Wales that urgent and emergency care services for physical and mental health are still open and accessible.

“For parents, if your child is unwell and you are concerned you should seek help.  If you have urgent dental pain you should still call your dentist. If you have a health complaint that is worrying you and won’t go away you should call your GP practice. If you or a family member are seriously ill or injured you should dial 999 or attend your nearest Emergency Department.    

“Public Health Wales continues to support the implementation of the Critical Workers Testing Policy to make sure we use the current testing capacity in Wales to the full, ensuring we test the right people, at the right time, in the right place, to reduce the spread of COVID-19.

“We will be increasing our testing capacity in the weeks and months to come and it will be essential for us to exploit all possible technology to create a streamlined and digitally enabled process to support this. The recommendations in the Minister’s review will be helpful in achieving this.

“We are encouraging everyone to download the COVID-19 Symptom Tracker app, which has been supported by Welsh Government. The app allows users to log daily symptoms to help build a clearer picture of how the virus is affecting people. For more information, including how to download the app, visit covid.joinzoe.com.

“Public Health Wales is working to address the negative impact of COVID-19 on the social, mental and physical wellbeing of people in Wales.  Our latest campaign, ‘How are you doing?’ is now live and offering practical advice from phw.nhs.wales/howareyoudoing.

“We know that staying at home can be hard especially when the weather is nice, but members of the public must adhere to social distancing rules about staying at home, and away from others. These rules have recently been revised by the Welsh Government and are available on the Welsh Government website.”

People no longer need to contact NHS 111 if they think they may have contracted Novel Coronavirus (COVID-19).  Information about the symptoms to look out for is available on the Public Health Wales website, or members of the public can use the NHS Wales symptom checker.

“Anyone with a suspected coronavirus illness should not go to a GP surgery, pharmacy or hospital.  They should only contact NHS 111 if they feel they cannot cope with their symptoms at home, their condition gets worse, or their symptoms do not get better after seven days.

“Only call 999 if you are experiencing a life-threatening emergency, do not call 999 just because you are on hold to 111.  We appreciate that 111 lines are busy, but you will get through after a wait. “Only call 999 if you are experiencing a life-threatening emergency, do not call 999 just because you are on hold to 111.  We appreciate that 111 lines are busy, but you will get through after a wait.

DATGANIAD CYMRAEG

Diweddariad: 2:00yp Dydd Llun 27 Ebrill 

NODER: Mae gwybodaeth fanwl am achosion newydd o Coronafeirws Newydd (COVID-19) yng Nghymru bellach ar gael ar ein dangosfwrdd data hawdd ei ddefnyddio ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Dywedodd Dr Giri Shankar, Cyfarwyddwr Digwyddiad ar gyfer yr ymateb i'r achos o'r Coronafeirws Newydd (COVID-19) yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:

“Yn seiliedig ar niferoedd yr achosion newydd, mae tystiolaeth yn dod i’r amlwg sy’n awgrymu bod nifer yr achosion newydd o Coronafeirws Newydd (COVID-19) yng Nghymru yn sefydlogi, a allai ddangos effeithiolrwydd mesurau cyfyngiadau symud. Fodd bynnag, mae’n rhy gynnar i ddweud yn bendant o hyd, ac mae’n rhy gynnar i ddod â’r rheolau cadw pellter cymdeithasol presennol i ben.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cefnogi cyhoeddiad y Prif Weinidog am y rheoliadau diwygiedig ar aros gartref (24 Ebrill) yn llawn. Mae’r newidiadau yn ychwanegu at y rheolau sydd eisoes mewn grym ond maent yn ymateb i rai heriau a wynebir mewn rhannau o’r wlad a chan deuluoedd ledled Cymru. Nid yw’r neges wedi newid – gall unrhyw un gael ei heintio â Coronafeirws a gall unrhyw un ei ledaenu. Arhoswch gartref, amddiffynnwch y GIG ac achubwch fywydau. Gallwch weld y rheoliadau diwygiedig yma.

“Mae Coronafeirws Newydd (COVID-19) yn dal i gylchredeg ym mhob rhan o Gymru, a’r cam pwysicaf un y gall pob un ohonom ei gymryd wrth ymladd y feirws yw aros gartref.  Rydyn ni am ddiolch i bawb ledled Cymru am chwarae eu rhan wrth helpu i arafu lledaeniad y feirws.”

“Er ein bod am bwysleisio pwysigrwydd aros gartref, hoffwn atgyfnerthu’r neges gan GIG Cymru fod gwasanaethau gofal brys ar gyfer iechyd meddwl ac iechyd corfforol ar agor o hyd.

“I rieni, os yw'ch plentyn yn sâl a'ch bod yn pryderu, dylech ofyn am help.  Os oes gennych boen deintyddol brys, dylech ddal i ffonio'ch deintydd. Os oes gennych broblem iechyd sy'n eich poeni ac nad yw’n mynd i ffwrdd, dylech ffonio'ch practis meddyg teulu. Os ydych chi, neu aelod o'r teulu, yn ddifrifol wael neu wedi'ch anafu, dylech ddeialu 999 neu fynd i'ch Adran Achosion Brys agosaf.    

“Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn parhau i gefnogi gweithredu’r Polisi Profi Gweithwyr Allweddol i sicrhau ein bod yn defnyddio’r capasiti profi presennol yng Nghymru i’w lawn botensial, gan sicrhau ein bod yn profi’r bobl iawn ar yr adeg iawn ac yn y lle iawn, er mwyn lleihau lledaeniad COVID-19.

“Byddwn yn cynyddu ein capasiti profi yn yr wythnosau a’r misoedd i ddod a bydd yn hanfodol ein bod yn manteisio i’r eithaf ar dechnoleg er mwyn llunio proses sydd wedi’i symleiddio ac sydd wedi’i galluogi’n ddigidol er mwyn cefnogi hyn. Bydd yr argymhellion yn adolygiad y Gweinidog yn ddefnyddiol wrth gyflawni hyn.

“Rydym yn annog pawb i lawrlwytho’r ap Tracio Symptomau COVID-19, a dderbyniodd gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru. Mae'r ap yn caniatáu i ddefnyddwyr logio symptomau’n ddyddiol i helpu i adeiladu darlun cliriach o sut mae'r feirws yn effeithio ar bobl. Am ragor o wybodaeth, gan gynnwys sut i lawrlwytho'r ap, ewch i covid.joinzoe.com.

“Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio i fynd i’r afael ag effaith negyddol COVID-19 ar lesiant cymdeithasol, meddyliol a chorfforol poblogaeth Cymru.  Mae ein hymgyrch diweddaraf, Sut Wyt Ti? bellach yn fyw ac mae’n cynnig cyngor ymarferol trwy phw.nhs.wales/howareyoudoing.

“Rydym yn gwybod y gall aros gartref fod yn anodd, yn enwedig pan fo’r tywydd yn braf, ond rhaid i aelodau’r cyhoedd gadw at reolau cadw pellter cymdeithasol ynghylch aros gartref, ac i ffwrdd oddi wrth eraill. Diwygiwyd y rheolau hyn yn ddiweddar gan Lywodraeth Cymru ac maent ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.”

Nid oes angen i bobl gysylltu ag NHS 111 mwyach os ydynt yn credu bod ganddynt Coronafeirws Newydd (COVID-19).  Mae gwybodaeth am y symptomau i gadw llygad amdanynt ar gael ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru, neu gall aelodau'r cyhoedd ddefnyddio gwiriwr symptomau GIG Cymru.

“Ni ddylai unrhyw un yr amheuir bod ganddo/ganddi salwch coronafeirws fynd i bractis meddyg teulu, fferyllfa nac ysbyty.  Dim ond os yw'n teimlo na all ymdopi â'i symptomau gartref, fod ei gyflwr yn gwaethygu, neu os nad yw ei symptomau’n gwella ar ôl saith niwrnod y dylai gysylltu â NHS 111.

“Peidiwch â ffonio 999 oni bai eich bod yn profi argyfwng sy’n peryglu bywyd. Peidiwch â ffonio 999 dim ond oherwydd eich bod yn aros i 111 ateb eich galwad ffôn.  Rydym yn deall bod llinellau 111 yn brysur, ond bydd rhywun yn ateb eich galwad ar ôl i chi aros. “Peidiwch â ffonio 999 oni bai eich bod yn profi argyfwng sy’n peryglu bywyd. Peidiwch â ffonio 999 dim ond oherwydd eich bod yn aros i 111 ateb eich galwad ffôn.  Rydym yn deall bod llinellau 111 yn brysur, ond bydd rhywun yn ateb eich galwad ar ôl i chi aros.