Public Health Wales statement on Novel Coronavirus (COVID-19) outbreak
This statement will be updated daily at 2pm
Updated: 2:00pm Tuesday 28 April
NOTE: Detailed
information on new cases of Novel Coronavirus (COVID-19) in Wales is now
available on our user-friendly data dashboard on the Public Health Wales website.
Dr Giri Shankar,
Incident Director for the Novel Coronavirus (COVID-19) outbreak response at
Public Health Wales, said:
“Public Health Wales can confirm
that while deaths from COVID-19 in the Hywel Dda University Health Board (UHB)
have been recorded correctly on both the death certificate and to families,
this data has not been consistently reported to Public Health Wales. 31 retrospectively reported deaths, recorded between 29th
March and 24th April 2020 will therefore be included in the Public
Health Wales data to be published on 29th April 2020.
“Public Health Wales recognises the importance of providing accurate and
timely data to demonstrate the extent of the coronavirus pandemic in Wales, and
is continuously working with its partners to improve processes so that the
public is provided with the most up to date and exact COVID-19 data available.
“Based on the new case numbers there is
emerging evidence suggesting a levelling-off in the number of new cases of
Novel Coronavirus (COVID-19) in Wales, which may be an indication of the
effectiveness of lockdown measures. However, it is still too early to tell for
sure, and it is too soon to end the current social distancing rules.
“Public Health Wales
fully supports the First Minister’s announcement (24 April) on revised
stay-at-home regulations. The changes supplement the rules already in force but
they respond to some challenges being faced in parts of the country and by
families throughout Wales. The message has not changed – anyone can get
coronavirus, anyone can spread it. Stay home, protect the NHS, and save lives.
You can view the revised regulations here.
“Novel Coronavirus (COVID-19) is still circulating in every part of Wales, and the single most important action we can all take in fighting the virus is to stay at home. We want to thank each and every person across Wales for doing their bit to help slow the spread of the virus.
"While
emphasising the importance of staying at home, we also want to reinforce the
message from NHS Wales that urgent and emergency care services for physical and
mental health are still open and accessible.
“For parents, if your
child is unwell and you are concerned you should seek help. If you have
urgent dental pain you should still call your dentist. If you have a health
complaint that is worrying you and won’t go away you should call your GP
practice. If you or a family member are seriously ill or injured you should
dial 999 or attend your nearest Emergency Department.
“Public Health Wales
continues to support the implementation of the Critical Workers Testing Policy to make sure we use
the current testing capacity in Wales to the full, ensuring we test the right
people, at the right time, in the right place, to reduce the spread of
COVID-19.
“We will be increasing
our testing capacity in the weeks and months to come and it will be essential
for us to exploit all possible technology to create a streamlined and digitally
enabled process to support this. The recommendations in the Minister’s review
will be helpful in achieving this.
“We are encouraging
everyone to download the COVID-19 Symptom Tracker app, which has been supported
by Welsh Government. The app allows users to log daily symptoms to help build a
clearer picture of how the virus is affecting people. For more information,
including how to download the app, visit covid.joinzoe.com.
“Public Health Wales
is working to address the negative impact of COVID-19 on the social, mental and
physical wellbeing of people in Wales. Our latest campaign, ‘How are you
doing?’ is now live and offering practical advice from phw.nhs.wales/howareyoudoing.
“We know that staying
at home can be hard especially when the weather is nice, but members of the
public must adhere to social distancing rules about staying at home, and away
from others. These rules have recently been revised by the Welsh Government and
are available on the Welsh Government website.
“People no longer need
to contact NHS 111 if they think they may have contracted Novel Coronavirus
(COVID-19). Information about the symptoms to look out for is available
on the Public Health Wales website, or members of the public can use the NHS
Wales symptom checker.
“Anyone with a
suspected coronavirus illness should not go to a GP surgery, pharmacy or
hospital. They should only contact NHS 111 if they feel they cannot cope
with their symptoms at home, their condition gets worse, or their symptoms do
not get better after seven days.
“Only call 999 if you
are experiencing a life-threatening emergency, do not call 999 just because you
are on hold to 111. We appreciate that 111 lines are busy, but you will
get through after a wait. “Only call 999 if you are experiencing a
life-threatening emergency, do not call 999 just because you are on hold to
111. We appreciate that 111 lines are busy, but you will get through
after a wait.”
DATGANIAD CYMRAEG
Diweddariad: 2:00yp Dydd Mawrth 28 Ebrill - I ddilyn
NODER: Mae gwybodaeth fanwl am achosion newydd o Coronafeirws Newydd
(COVID-19) yng Nghymru bellach ar gael ar ein dangosfwrdd data hawdd ei
ddefnyddio ar wefan
Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Dywedodd Dr Giri Shankar, Cyfarwyddwr Digwyddiad ar gyfer yr ymateb i'r achos
o'r Coronafeirws Newydd (COVID-19) yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:
“Gall
Iechyd Cyhoeddus Cymru gadarnhau nad yw’r data a gyflenwyd gan Fwrdd Iechyd
Prifysgol Hywel Dda wedi bod yn gyson wrth gofnodi marwolaethau a achoswyd gan
COVID-19. Mae hyn wedi arwain at dangofnodi
marwolaethau (31 o achosion - mae’r data hynny yn cael eu dilysu ar hyn o bryd
gan Iechyd Cyhoeddus Cymru) hyd at 24 Ebrill 2020. Bydd y marwolaethau hyn a gofnodir yn
ôl-weithredol yn cael eu cynnwys yn nata Iechyd Cyhoeddus Cymru a gyhoeddir ar
29 Ebrill 2020.
“Mae
Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cydnabod pwysigrwydd darparu data cywir ac amserol i
ddangos lledaeniad y pandemig coronafeirws yng Nghymru, ac mae'n gweithio'n
barhaus gyda'i bartneriaid i wella prosesau fel bod y cyhoedd yn cael y data COVID-19
mwyaf diweddar a chywir sydd ar gael.
“Yn seiliedig ar niferoedd yr achosion newydd, mae tystiolaeth yn dod
i’r amlwg sy’n awgrymu bod nifer yr achosion newydd o Coronafeirws Newydd
(COVID-19) yng Nghymru yn sefydlogi, a allai ddangos effeithiolrwydd mesurau
cyfyngiadau symud. Fodd bynnag, mae’n rhy gynnar i ddweud yn bendant o hyd, ac
mae’n rhy gynnar i ddod â’r rheolau cadw pellter cymdeithasol presennol i ben.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cefnogi cyhoeddiad y Prif Weinidog am y
rheoliadau diwygiedig ar aros gartref (24 Ebrill) yn llawn. Mae’r newidiadau yn
ychwanegu at y rheolau sydd eisoes mewn grym ond maent yn ymateb i rai heriau a
wynebir mewn rhannau o’r wlad a chan deuluoedd ledled Cymru. Nid yw’r neges
wedi newid – gall unrhyw un gael ei heintio â Coronafeirws a gall unrhyw un ei
ledaenu. Arhoswch gartref, amddiffynnwch y GIG ac achubwch fywydau. Gallwch weld y rheoliadau
diwygiedig yma.
“Mae Coronafeirws Newydd (COVID-19) yn dal i gylchredeg ym mhob rhan o
Gymru, a’r cam pwysicaf un y gall pob un ohonom ei gymryd wrth ymladd y feirws
yw aros gartref. Rydyn ni am ddiolch i bawb ledled Cymru am chwarae eu
rhan wrth helpu i arafu lledaeniad y feirws.”
“Er ein bod am bwysleisio pwysigrwydd aros gartref, hoffwn atgyfnerthu’r
neges gan GIG Cymru fod gwasanaethau gofal brys ar gyfer iechyd meddwl ac
iechyd corfforol ar agor o hyd.
“I rieni, os yw'ch plentyn yn sâl a'ch bod yn pryderu, dylech ofyn am
help. Os oes gennych boen deintyddol brys, dylech ddal i ffonio'ch
deintydd. Os oes gennych broblem iechyd sy'n eich poeni ac nad yw’n mynd i
ffwrdd, dylech ffonio'ch practis meddyg teulu. Os ydych chi, neu aelod o'r
teulu, yn ddifrifol wael neu wedi'ch anafu, dylech ddeialu 999 neu fynd i'ch
Adran Achosion Brys agosaf.
“Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn parhau i gefnogi gweithredu’r Polisi
Profi Gweithwyr Allweddol i sicrhau ein bod
yn defnyddio’r capasiti profi presennol yng Nghymru i’w lawn botensial, gan
sicrhau ein bod yn profi’r bobl iawn ar yr adeg iawn ac yn y lle iawn, er mwyn
lleihau lledaeniad COVID-19.
“Byddwn yn cynyddu ein capasiti profi yn yr wythnosau a’r misoedd i ddod
a bydd yn hanfodol ein bod yn manteisio i’r eithaf ar dechnoleg er mwyn llunio
proses sydd wedi’i symleiddio ac sydd wedi’i galluogi’n ddigidol er mwyn
cefnogi hyn. Bydd yr argymhellion yn adolygiad y Gweinidog yn ddefnyddiol wrth
gyflawni hyn.
“Rydym yn annog pawb i lawrlwytho’r ap Tracio Symptomau COVID-19, a
dderbyniodd gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru. Mae'r ap yn caniatáu i ddefnyddwyr
logio symptomau’n ddyddiol i helpu i adeiladu darlun cliriach o sut mae'r
feirws yn effeithio ar bobl. Am ragor o wybodaeth, gan gynnwys sut i
lawrlwytho'r ap, ewch i covid.joinzoe.com.
“Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio i fynd i’r afael ag effaith
negyddol COVID-19 ar lesiant cymdeithasol, meddyliol a chorfforol poblogaeth
Cymru. Mae ein hymgyrch diweddaraf, Sut
Wyt Ti? bellach yn fyw ac mae’n cynnig cyngor ymarferol trwy phw.nhs.wales/howareyoudoing.
“Rydym yn gwybod y gall aros gartref fod yn anodd, yn enwedig pan fo’r
tywydd yn braf, ond rhaid i aelodau’r cyhoedd gadw at reolau cadw pellter
cymdeithasol ynghylch aros gartref, ac i ffwrdd oddi wrth eraill. Diwygiwyd y
rheolau hyn yn ddiweddar gan Lywodraeth Cymru ac maent ar gael ar wefan
Llywodraeth Cymru.”
“Nid oes angen i bobl gysylltu ag NHS 111 mwyach os ydynt yn credu bod
ganddynt Coronafeirws Newydd (COVID-19). Mae gwybodaeth am y symptomau i
gadw llygad amdanynt ar gael ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru, neu gall
aelodau'r cyhoedd ddefnyddio gwiriwr
symptomauGIG Cymru.
“Ni ddylai unrhyw un yr amheuir bod ganddo/ganddi salwch coronafeirws
fynd i bractis meddyg teulu, fferyllfa nac ysbyty. Dim ond os yw'n teimlo
na all ymdopi â'i symptomau gartref, fod ei gyflwr yn gwaethygu, neu os nad yw
ei symptomau’n gwella ar ôl saith niwrnod y dylai gysylltu â NHS 111.
“Peidiwch â ffonio 999 oni bai eich bod yn profi argyfwng sy’n peryglu
bywyd. Peidiwch â ffonio 999 dim ond oherwydd eich bod yn aros i 111 ateb eich
galwad ffôn. Rydym yn deall bod llinellau 111 yn brysur, ond bydd rhywun
yn ateb eich galwad ar ôl i chi aros. “Peidiwch â ffonio 999 oni bai eich bod
yn profi argyfwng sy’n peryglu bywyd. Peidiwch â ffonio 999 dim ond oherwydd
eich bod yn aros i 111 ateb eich galwad ffôn. Rydym yn deall bod
llinellau 111 yn brysur, ond bydd rhywun yn ateb eich galwad ar ôl i chi aros.