Public Health Wales statement on Novel Coronavirus (COVID-19) outbreak

This statement will be updated daily at 2pm

Updated: 2:00pm Monday 11 May

NOTE: Detailed information on new cases of Novel Coronavirus (COVID-19) in Wales is now available on our user-friendly data dashboard on the Public Health Wales website.

Dr Giri Shankar, Incident Director for the Novel Coronavirus (COVID-19) outbreak response at Public Health Wales, said:

“The Welsh Government announced on Friday (8 May) that lockdown arrangements will continue in Wales for a further three weeks, with minor adjustments so people can exercise more often, and to allow garden centres to open if they can comply with social distancing.

“Please note that changes announced by the UK Prime Minister on Sunday were for England only, and that in Wales stay-at-home guidance remains that, wherever you can, you should stay at home.

“Although we appear to have passed the peak of new cases in Wales, Novel Coronavirus (COVID-19) is still circulating in every part of the country.  The single most important action we can all take in fighting the virus is to stay at home, and we thank each and every person across Wales for doing their bit to help slow the spread of the virus.

“We are currently working with Welsh Government to determine the best approach for when the lockdown is eventually eased, including increasing our testing capacity.

"While emphasising the importance of staying at home, we also want to reinforce the message from NHS Wales that urgent and emergency care services for physical and mental health are still open and accessible.

“For parents, if your child is unwell and you are concerned you should seek help.  If you have urgent dental pain you should still call your dentist. If you have a health complaint that is worrying you and won’t go away you should call your GP practice. If you or a family member are seriously ill or injured you should dial 999 or attend your nearest Emergency Department.  

“Public Health Wales continues to support the implementation of the Critical Workers Testing Policy to make sure we use the current testing capacity in Wales to the full, ensuring we test the right people, at the right time, in the right place, to reduce the spread of Novel Coronavirus (COVID-19).

 “We are encouraging everyone to download the Novel Coronavirus (COVID-19) Symptom Study app, which has been supported by Welsh Government. The app allows users to log daily symptoms to help build a clearer picture of how the virus is affecting people. For more information, including how to download the app, visit covid.joinzoe.com.

“Public Health Wales is working to address the negative impact of Novel Coronavirus (COVID-19) on the social, mental and physical wellbeing of people in Wales.  Our latest campaign, ‘How are you doing?’ is now live and offering practical advice from phw.nhs.wales/howareyoudoing.

“People no longer need to contact NHS 111 if they think they may have contracted Novel Coronavirus (COVID-19).  Information about the symptoms to look out for is available on the Public Health Wales website, or members of the public can use the NHS Wales symptom checker.

“Anyone with a suspected coronavirus illness should not go to a GP surgery, pharmacy or hospital.  They should only contact NHS 111 if they feel they cannot cope with their symptoms at home, their condition gets worse, or their symptoms do not get better after seven days.

“Only call 999 if you are experiencing a life-threatening emergency, do not call 999 just because you are on hold to 111.  We appreciate that 111 lines are busy, but you will get through after a wait.”

 

DATGANIAD CYMRAEG

Diweddariad: 2:00yp Dydd Llun11 Mai

 

NODER: Mae gwybodaeth fanwl am achosion newydd o Coronafeirws Newydd (COVID-19) yng Nghymru bellach ar gael ar ein dangosfwrdd data hawdd ei ddefnyddio ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Dywedodd Dr Giri Shankar, Cyfarwyddwr Digwyddiad ar gyfer yr ymateb i'r achos o'r Coronafeirws Newydd (COVID-19) yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:

“Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddydd Gwener (8 Mai) y bydd y trefniadau cyfyngiadau symud yn parhau yng Nghymru am dair wythnos arall, gyda mân addasiadau fel y gall pobl wneud ymarfer corff yn amlach a bydd canolfannau garddio yn gallu agor os byddant yn gallu cydymffurfio â’r mesurau cadw pellter cymdeithasol.

"Nodwch fod y newidiadau a gyhoeddwyd gan Brif Weinidog y DU ddydd Sul yn weithredol yn Lloegr yn unig, ac mai'r arweiniad yng Nghymru o hyd yw aros gartref lle bynnag y bo modd.

“Er ei bod yn ymddangos ein bod wedi mynd heibio’r lefel uchaf o achosion newydd yng Nghymru, mae Coronafeirws Newydd (COVID-19) yn dal i gylchredeg ym mhob rhan o’r wlad.  Y cam pwysicaf un y gallwn i gyd ei gymryd wrth drechu’r feirws yw aros gartref, a diolchwn i bawb ledled Cymru am chwarae ei ran i helpu i arafu lledaeniad y feirws.

“Rydym yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd i benderfynu ar y dull gorau ar gyfer yr adeg pan fydd y cyfyngiadau symud yn cael eu llacio, gan gynnwys cynyddu ein capasiti profi.

“Er ein bod am bwysleisio pwysigrwydd aros gartref, hoffwn atgyfnerthu’r neges gan GIG Cymru fod gwasanaethau gofal brys ar gyfer iechyd meddwl ac iechyd corfforol ar agor o hyd.

“I rieni, os yw'ch plentyn yn sâl a'ch bod yn pryderu, dylech ofyn am help.  Os oes gennych boen deintyddol brys, dylech ddal i ffonio'ch deintydd. Os oes gennych broblem iechyd sy'n eich poeni ac nad yw’n mynd i ffwrdd, dylech ffonio'ch practis meddyg teulu. Os ydych chi, neu aelod o'r teulu, yn ddifrifol wael neu wedi'ch anafu, dylech ddeialu 999 neu fynd i'ch Adran Achosion Brys agosaf.

“Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn parhau i gefnogi gweithredu’r Polisi Profi Gweithwyr Allweddol i wneud yn sichrau'r ein bod yn defnyddio'r capasiti profi presennol yng Nghymru i'r eithaf, gan sicrhau ein bod yn profi'r bobl iawn, ar yr amser iawn, yn y lle iawn, i leihau lledaeniad Coronafeirws Newydd (COVID-19).

"Byddwn yn cynyddu ein capasiti profi yn yr wythnosau a'r misoedd i ddod a bydd yn hanfodol i ni fanteisio ar bob technoleg bosibl i greu proses symlach a digidol i gefnogi hyn. Bydd yr argymhellion yn adolygiad y Gweinidog yn ddefnyddiol i gyflawni hyn.

 “Rydym yn annog pawb i lawrlwytho’r ap Astudio Symptomau Coronafeirws Newydd (COVID-19), sydd wedi cael cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru. Mae'r ap yn caniatáu i ddefnyddwyr logio symptomau’n ddyddiol i helpu i adeiladu darlun cliriach o sut mae'r feirws yn effeithio ar bobl. Am ragor o wybodaeth, gan gynnwys sut i lawrlwytho'r ap, ewch i covid.joinzoe.com.

“Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio i fynd i’r afael ag effaith negyddol Coronafeirws Newydd (COVID-19) ar lesiant cymdeithasol, meddyliol a chorfforol poblogaeth Cymru.  Mae ein hymgyrch ddiweddaraf, ‘Sut wyt ti?’ bellach yn fyw ac mae’n cynnig cyngor ymarferol gan  phw.nhs.wales/howareyoudoing.

“Nid oes angen i bobl gysylltu ag NHS 111 mwyach os ydynt yn credu bod ganddynt Coronafeirws Newydd (COVID-19).  Mae gwybodaeth am y symptomau i gadw llygad amdanynt ar gael ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru, neu gall aelodau'r cyhoedd ddefnyddio gwiriwr symptomau GIG Cymru.

“Ni ddylai unrhyw un yr amheuir bod ganddo/ganddi salwch coronafeirws fynd i bractis meddyg teulu, fferyllfa nac ysbyty.  Dim ond os yw'n teimlo na all ymdopi â'i symptomau gartref, fod ei gyflwr yn gwaethygu, neu os nad yw ei symptomau’n gwella ar ôl saith niwrnod y dylai gysylltu â NHS 111.

“Peidiwch â ffonio 999 oni bai eich bod yn profi argyfwng sy’n peryglu bywyd. Peidiwch â ffonio 999 dim ond oherwydd eich bod yn aros i 111 ateb eich galwad ffôn.  Rydym yn deall bod llinellau 111 yn brysur, ond bydd rhywun yn ateb eich galwad ar ôl i chi aros.