Public Health Wales statement on Novel Coronavirus (COVID-19) outbreak
This statement will be updated daily at 2pm
Updated: 2:00pm Thursday 14 May
NOTE: Detailed information on new cases of Novel Coronavirus (COVID-19) in Wales is now available on our user-friendly data dashboard on the Public Health Wales website.
Dr Tracey Cooper,
Chief Executive of Public Health Wales, said:
“Public Health Wales
welcomes the Welsh Government’s ‘Test, Trace, Protect’ strategy to respond to
the COVID-19 outbreak, which was published yesterday (13 May).
“In partnership with our communities, the Welsh Government, the wider NHS and local government in Wales, we will continue to focus on protecting the health of the people of Wales as we support the implementation of the strategy.”
Dr Robin Howe,
Incident Director for the Novel Coronavirus (COVID-19) outbreak response at
Public Health Wales, said:
“We have been working hard to
increase our testing capacity, and in the last week we have more than doubled
our capacity to 5,330 tests a day in Wales.
We know there is more to do as demand increases, and we will continue to
ramp up this capacity.
“The Welsh Government
announced on Friday (8 May) that lockdown arrangements will continue in Wales for
a further three weeks, with minor adjustments so people can exercise more often,
and to allow garden centres to open if they can comply with social distancing.
“Please note that
changes announced by the UK Prime Minister on Sunday were for England only, and
that in Wales stay-at-home guidance remains that, wherever you can, you should
stay at home.
“Although we appear to
have passed the peak of new cases in Wales, Novel Coronavirus (COVID-19) is
still circulating in every part of the country.
The single most important action we can all take in fighting the virus
is to stay at home, and we thank each and every person across Wales for doing
their bit to help slow the spread of the virus.
“We are currently working with Welsh
Government to determine the best approach for when the lockdown is eventually eased.
“Public Health Wales
continues to support the implementation of the Critical Workers Testing Policy to make sure we use
the current testing capacity in Wales to the full, ensuring we test the right
people, at the right time, in the right place, to reduce the spread of Novel
Coronavirus (COVID-19).
“We are encouraging
everyone to download the Novel Coronavirus (COVID-19) Symptom Study app, which
has been supported by Welsh Government. The app allows users to log daily
symptoms to help build a clearer picture of how the virus is affecting people.
For more information, including how to download the app, visit covid.joinzoe.com.
“Public Health Wales
is working to address the negative impact of Novel Coronavirus (COVID-19) on
the social, mental and physical wellbeing of people in Wales. Our latest
campaign, ‘How are you doing?’ is now live and offering practical advice from phw.nhs.wales/howareyoudoing.
“People no longer need
to contact NHS 111 if they think they may have contracted Novel Coronavirus
(COVID-19). Information about the symptoms to look out for is available
on the Public Health Wales website, or members of the public can use the NHS
Wales symptom checker.
“Anyone with a
suspected coronavirus illness should not go to a GP surgery, pharmacy or
hospital. They should only contact NHS 111 if they feel they cannot cope
with their symptoms at home, their condition gets worse, or their symptoms do
not get better after seven days.
“Only call 999 if you
are experiencing a life-threatening emergency, do not call 999 just because you
are on hold to 111. We appreciate that 111 lines are busy, but you will get
through after a wait.
"While emphasising the
importance of staying at home, we also want to reinforce the message from NHS
Wales that urgent and emergency care services for physical and mental health
are still open and accessible.
“For parents, if your child is
unwell and you are concerned you should seek help. If you have urgent
dental pain you should still call your dentist. If you have a health complaint
that is worrying you and won’t go away you should call your GP practice. If you
or a family member are seriously ill or injured you should dial 999 or attend
your nearest Emergency Department.”
DATGANIAD CYMRAEG
Diweddariad: 2:00yp Dydd Iau 14 Mai
NODER: Mae gwybodaeth fanwl am achosion newydd o Coronafeirws Newydd (COVID-19) yng Nghymru bellach ar gael ar ein dangosfwrdd data hawdd ei ddefnyddio ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Dywedodd Dr Tracey Cooper, Prif Weithredwr Iechyd Cyhoeddus Cymru:
“Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn croesawu strategaeth ‘Profi, Monitro,
Olrhain’ Llywodraeth Cymru i ymateb i’r achosion o COVID-19, a gyhoeddwyd ddoe
(13 Mai).
“Mewn partneriaeth â’n cymunedau, Llywodraeth Cymru, y GIG yn ehangach a llywodraeth leol yng Nghymru, byddwn yn parhau i ganolbwyntio ar amddiffyn iechyd pobl Cymru wrth i ni gefnogi gweithredu’r strategaeth.”
Dywedodd Dr Robin Howe, Cyfarwyddwr Digwyddiad ar gyfer yr ymateb i'r
achos o'r Coronafeirws Newydd (COVID-19) yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:
“Rydyn
ni wedi bod yn gweithio’n galed i gynyddu ein capasiti profi, ac yn ystod yr
wythnos diwethaf rydyn ni wedi mwy na dyblu ein capasiti i 5,330 o brofion y
dydd yng Nghymru. Rydym yn gwybod bod
rhagor i'w wneud wrth i'r galw gynyddu, a byddwn yn parhau i gynyddu’r capasiti
hwn.
“Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddydd Gwener (8 Mai) y bydd y trefniadau
cyfyngiadau symud yn parhau yng Nghymru am dair wythnos arall, gyda mân
addasiadau fel y gall pobl wneud ymarfer corff yn amlach a bydd canolfannau
garddio yn gallu agor os byddant yn gallu cydymffurfio â’r mesurau cadw pellter
cymdeithasol.
"Nodwch fod y newidiadau a gyhoeddwyd gan Brif Weinidog y DU ddydd
Sul yn weithredol yn Lloegr yn unig, ac mai'r arweiniad yng Nghymru o hyd yw
aros gartref lle bynnag y bo modd.
“Er ei bod yn ymddangos ein bod wedi mynd heibio’r lefel uchaf o
achosion newydd yng Nghymru, mae Coronafeirws Newydd (COVID-19) yn dal i
gylchredeg ym mhob rhan o’r wlad. Y cam
pwysicaf un y gallwn i gyd ei gymryd wrth drechu’r feirws yw aros gartref, a
diolchwn i bawb ledled Cymru am chwarae ei ran i helpu i arafu lledaeniad y
feirws.
“Rydym yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar hyn
o bryd i benderfynu ar y dull gorau pan fydd y cyfyngiadau symud yn cael eu
llacio.
“Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn parhau i gefnogi gweithredu’r Polisi
Profi Gweithwyr Allweddol i sicrhau ein bod
yn defnyddio’r capasiti profi presennol yng Nghymru i’w lawn botensial, gan
sicrhau ein bod yn profi’r bobl iawn ar yr adeg iawn ac yn y lle iawn, er mwyn
lleihau lledaeniad Coronafeirws Newydd (COVID-19).
“Rydym yn annog pawb i lawrlwytho’r ap Astudio Symptomau Coronafeirws Newydd
(COVID-19), a dderbyniodd gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru. Mae'r ap yn caniatáu
i ddefnyddwyr logio symptomau’n ddyddiol i helpu i adeiladu darlun cliriach o
sut mae'r feirws yn effeithio ar bobl. Am ragor o wybodaeth, gan gynnwys sut i
lawrlwytho'r ap, ewch i covid.joinzoe.com.
“Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio i fynd i’r afael ag effaith
negyddol Coronafeirws Newydd (COVID-19) ar lesiant cymdeithasol, meddyliol a
chorfforol poblogaeth Cymru. Mae ein hymgyrch diweddaraf, Sut Wyt Ti?
bellach yn fyw ac mae’n cynnig cyngor ymarferol trwy phw.nhs.wales/howareyoudoing.
“Nid oes angen i bobl gysylltu ag NHS 111 mwyach os ydynt yn credu bod
ganddynt Coronafeirws Newydd (COVID-19). Mae gwybodaeth am y symptomau i
gadw llygad amdanynt ar gael ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru, neu gall
aelodau'r cyhoedd ddefnyddio gwiriwr
symptomauGIG Cymru.
“Ni ddylai unrhyw un yr amheuir bod ganddo/ganddi salwch coronafeirws
fynd i bractis meddyg teulu, fferyllfa nac ysbyty. Dim ond os yw'n teimlo
na all ymdopi â'i symptomau gartref, fod ei gyflwr yn gwaethygu, neu os nad yw
ei symptomau’n gwella ar ôl saith niwrnod y dylai gysylltu â NHS 111.
“Peidiwch â ffonio 999 oni bai eich bod yn profi argyfwng sy’n peryglu
bywyd. Peidiwch â ffonio 999 dim ond oherwydd eich bod yn aros i 111 ateb eich
galwad ffôn. Rydym yn deall bod llinellau 111 yn brysur, ond bydd rhywun
yn ateb eich galwad ar ôl i chi aros.
“Er
ein bod am bwysleisio pwysigrwydd aros gartref, hoffwn atgyfnerthu’r neges gan
GIG Cymru fod gwasanaethau gofal brys ar gyfer iechyd meddwl ac iechyd corfforol
ar agor o hyd.
“I
rieni, os yw'ch plentyn yn sâl a'ch bod yn pryderu, dylech ofyn am help.
Os oes gennych boen deintyddol brys, dylech ddal i ffonio'ch deintydd. Os oes
gennych broblem iechyd sy'n eich poeni ac nad yw’n mynd i ffwrdd, dylech
ffonio'ch practis meddyg teulu. Os ydych chi, neu aelod o'r teulu, yn ddifrifol
wael neu wedi'ch anafu, dylech ddeialu 999 neu fynd i'ch Adran Achosion Brys
agosaf.”