Public Health Wales statement on Novel Coronavirus (COVID-19) outbreak
This statement will be updated daily at 2pm
Updated: 2:00pm Tuesday 19 May
NOTE: Detailed
information on new cases of Novel Coronavirus (COVID-19) in Wales is now
available on our user-friendly data dashboard on the Public Health Wales website.
Dr Giri Shankar,
Incident Director for the Novel Coronavirus (COVID-19) outbreak response at
Public Health Wales, said:
“Anyone experiencing Novel
Coronavirus (COVID-19) symptoms can now apply for a home testing kit using the
new UK online portal. For further information and a link to the booking
website, visit: www.gov.wales/coronavirus or www.llyw.cymru/coronafeirws. This will be supported by a
national 119 phone service, through which people can also order a home test.
“New guidance on Novel Coronavirus
(COVID-19) symptoms has also recently been issued from the four UK Chief
Medical Officers. All individuals should self-isolate if they develop at least
one of the following coronavirus symptoms: a new continuous cough or fever or
loss of smell or taste (anosmia).
“Anosmia is the loss or a change in your normal sense of smell. It can also affect your sense of taste as the two are closely linked. The individual’s household should self-isolate for 14 days as per the current guidelines and the individual should stay at home for seven days, or longer if they still have symptoms other than cough or loss of sense of smell or taste.
“Public Health Wales welcomes the
recent announcement by the Health Minister of the extension of Coronavirus
testing to all care home residents and staff.
“In conjunction with
the Welsh Government’s ‘Test, Trace, Protect’ strategy published last week,
Public Health Wales will continue to work in partnership with our communities, the Welsh
Government, the wider NHS and local government in Wales to focus on protecting
the health of the people of Wales as we support the implementation of the strategy.
“We have been working hard to
increase our testing capacity, and as of Monday 11 May 2020 our capacity was at
5,330 tests a day in Wales. We know
there is more to do as demand increases, and we will continue to ramp up this
capacity.
“The Welsh Government
announced on Friday 8 May that lockdown arrangements would continue in Wales for
a further three weeks: in Wales stay-at-home guidance remains that, wherever
you can, you should stay at home.
“Although we appear to
have passed the peak of new cases in Wales, Novel Coronavirus (COVID-19) is
still circulating in every part of the country. The single most important
action we can all take in fighting the virus is to stay at home, and we thank
each and every person across Wales for doing their bit to help slow the spread
of the virus.
“Public Health Wales
continues to support the implementation of the Critical Workers Testing Policy to make sure we use
the current testing capacity in Wales to the full, ensuring we test the right
people, at the right time, in the right place, to reduce the spread of Novel
Coronavirus (COVID-19).
“We are encouraging
everyone to download the Novel Coronavirus (COVID-19) Symptom Study app, which
has been supported by Welsh Government. The app allows users to log daily
symptoms to help build a clearer picture of how the virus is affecting people.
For more information, including how to download the app, visit covid.joinzoe.com.
“Public Health Wales
is working to address the negative impact of Novel Coronavirus (COVID-19) on
the social, mental and physical wellbeing of people in Wales. Our latest
campaign, ‘How are you doing?’ is now live and offering practical advice from phw.nhs.wales/howareyoudoing.
“People no longer need
to contact NHS 111 if they think they may have contracted Novel Coronavirus
(COVID-19). Information about the symptoms to look out for is available
on the Public Health Wales website, or members of the public can use the NHS Wales
symptom checker.
“Anyone with a
suspected coronavirus illness should not go to a GP surgery, pharmacy or
hospital. They should only contact NHS 111 if they feel they cannot cope
with their symptoms at home, their condition gets worse, or their symptoms do
not get better after seven days.
“Only call 999 if you
are experiencing a life-threatening emergency, do not call 999 just because you
are on hold to 111. We appreciate that 111 lines are busy, but you will get
through after a wait.
"While emphasising the
importance of staying at home, we also want to reinforce the message from NHS
Wales that urgent and emergency care services for physical and mental health
are still open and accessible.
“For parents, if your child is
unwell and you are concerned you should seek help. If you have urgent dental
pain you should still call your dentist. If you have a health complaint that is
worrying you and won’t go away you should call your GP practice. If you or a
family member are seriously ill or injured you should dial 999 or attend your
nearest Emergency Department.”
DATGANIAD CYMRAEG
Diweddariad: 2:00yp Dydd Mawrth 19 Mai
NODER:
Mae gwybodaeth fanwl am achosion newydd o Coronafeirws Newydd (COVID-19) yng
Nghymru bellach ar gael ar ein dangosfwrdd data hawdd ei ddefnyddio ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Dywedodd
Dr Giri Shankar, Cyfarwyddwr Digwyddiad ar gyfer yr ymateb i'r achos o'r
Coronafeirws Newydd (COVID-19) yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:
“Gall
unrhyw un sy’n profi symptomau Coronafeirws Newydd (COVID-19) nawr wneud cais
am becyn prawf cartref gan ddefnyddio porth ar-lein newydd y DU. I gael rhagor
o wybodaeth a dolen i'r wefan archebu, ewch i: www.llyw.cymru/coronafeirws
neu www.gov.wales/coronavirus.
Cefnogir hyn gan wasanaeth ffôn 119 cenedlaethol, lle gall pobl hefyd archebu
prawf cartref.
“Cyhoeddwyd
canllawiau newydd ar symptomau Coronafeirws Newydd (COVID-19) hefyd yn
ddiweddar gan bedwar Prif Swyddog Meddygol y DU. Dylai pob unigolyn hunanynysu
os yw'n datblygu o leiaf un o'r symptomau coronafeirws canlynol: peswch neu
dwymyn barhaus newydd neu golli synnwyr blasu neu arogli (anosmia).
“Anosmia
yw colli neu newid i’ch synnwyr arogli arferol. Gall hefyd effeithio ar eich
synnwyr blasu, gan fod cysylltiad agos rhwng y ddau. Dylai pawb yng nghartref
yr unigolyn hunanynysu am 14 diwrnod yn unol â'r canllawiau cyfredol a dylai'r
unigolyn aros gartref am saith diwrnod, neu'n hirach os oes ganddo symptomau
heblaw peswch neu golli synnwyr arogli neu flasu.
“Mae
Iechyd Cyhoeddus Cymru yn croesawu’r cyhoeddiad diweddar gan y Gweinidog Iechyd
y dylid ymestyn profi ar gyfer Coronafeirws i holl breswylwyr a staff cartrefi
gofal.
“Mewn
partneriaeth â strategaeth ‘Profi, Monitro, Olrhain’ Llywodraeth Cymru a
gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf, bydd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn parhau i weithio
mewn partneriaeth â’n cymunedau, Llywodraeth Cymru, y GIG yn ehangach a
llywodraeth leol yng Nghymru i ganolbwyntio ar amddiffyn iechyd pobl Cymru wrth
i ni gefnogi gweithredu’r strategaeth.”
“Rydyn
ni wedi bod yn gweithio’n galed i gynyddu ein capasiti profi, ac ein capasiti o
ddydd Llun 11 Mai 2020 ymlaen oedd 5,330 o brofion y dydd. Rydym yn gwybod bod rhagor i'w wneud wrth i'r
galw gynyddu, a byddwn yn parhau i gynyddu’r capasiti hwn.
“Cyhoeddodd
Llywodraeth Cymru ddydd Gwener 8 Mai y byddai trefniadau cyfyngiadau symud yn
parhau yng Nghymru am dair wythnos arall: mae’r canllawiau aros gartref yn aros
yr un fath yng Nghymru, sef y dylech aros gartref, lle bynnag y bo’n bosibl.
“Er
ei bod yn ymddangos ein bod wedi mynd heibio’r lefel uchaf o achosion newydd
yng Nghymru, mae Coronafeirws Newydd (COVID-19) yn dal i gylchredeg ym mhob
rhan o’r wlad. Y cam pwysicaf un y gallwn i gyd ei gymryd wrth drechu’r feirws
yw aros gartref, a diolchwn i bawb ledled Cymru am chwarae ei ran i helpu i
arafu lledaeniad y feirws.
“Mae
Iechyd Cyhoeddus Cymru yn parhau i gefnogi gweithredu’r Polisi Profi Gweithwyr Allweddol
i sicrhau ein bod yn defnyddio’r capasiti profi presennol yng Nghymru i’w lawn
botensial, gan sicrhau ein bod yn profi’r bobl iawn ar yr adeg iawn ac yn y lle
iawn, er mwyn lleihau lledaeniad Coronafeirws Newydd (COVID-19).
“Rydym
yn annog pawb i lawrlwytho’r ap Astudio Symptomau Coronafeirws Newydd
(COVID-19), a dderbyniodd gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru. Mae'r ap yn caniatáu
i ddefnyddwyr logio symptomau’n ddyddiol i helpu i adeiladu darlun cliriach o
sut mae'r feirws yn effeithio ar bobl. Am ragor o wybodaeth, gan gynnwys sut i
lawrlwytho'r ap, ewch i covid.joinzoe.com.
“Mae
Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio i fynd i’r afael ag effaith negyddol
Coronafeirws Newydd (COVID-19) ar lesiant cymdeithasol, meddyliol a chorfforol
poblogaeth Cymru. Mae ein hymgyrch diweddaraf, Sut Wyt Ti? bellach yn fyw
ac mae’n cynnig cyngor ymarferol trwy phw.nhs.wales/howareyoudoing.
“Nid
oes angen i bobl gysylltu ag NHS 111 mwyach os ydynt yn credu bod ganddynt
Coronafeirws Newydd (COVID-19). Mae gwybodaeth am y symptomau i gadw
llygad amdanynt ar gael ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru, neu gall aelodau'r
cyhoedd ddefnyddio gwiriwr symptomauGIG
Cymru.
“Ni
ddylai unrhyw un yr amheuir bod ganddo/ganddi salwch coronafeirws fynd i
bractis meddyg teulu, fferyllfa nac ysbyty. Dim ond os yw'n teimlo na all
ymdopi â'i symptomau gartref, fod ei gyflwr yn gwaethygu, neu os nad yw ei
symptomau’n gwella ar ôl saith niwrnod y dylai gysylltu â NHS 111.
“Peidiwch
â ffonio 999 oni bai eich bod yn profi argyfwng sy’n peryglu bywyd. Peidiwch â
ffonio 999 dim ond oherwydd eich bod yn aros i 111 ateb eich galwad ffôn. Rydym
yn deall bod llinellau 111 yn brysur, ond bydd rhywun yn ateb eich galwad ar ôl
i chi aros.
“Er
ein bod am bwysleisio pwysigrwydd aros gartref, hoffwn atgyfnerthu’r neges gan
GIG Cymru fod gwasanaethau gofal brys ar gyfer iechyd meddwl ac iechyd
corfforol ar agor o hyd.
“I
rieni, os yw'ch plentyn yn sâl a'ch bod yn pryderu, dylech ofyn am help. Os oes
gennych boen deintyddol brys, dylech ddal i ffonio'ch deintydd. Os oes gennych
broblem iechyd sy'n eich poeni ac nad yw’n mynd i ffwrdd, dylech ffonio'ch
practis meddyg teulu. Os ydych chi, neu aelod o'r teulu, yn ddifrifol wael neu
wedi'ch anafu, dylech ddeialu 999 neu fynd i'ch Adran Achosion Brys agosaf.”