Public Health Wales statement on Novel Coronavirus (COVID-19) outbreak
This statement will be updated daily at 2pm
Updated: 2:00pm Friday 23 May
NOTE: Detailed information on new cases of Novel Coronavirus (COVID-19) in Wales is now available on our user-friendly data dashboard on the Public Health Wales website.
Dr Chris Williams,
Incident Director for the Novel Coronavirus (COVID-19) outbreak response at
Public Health Wales, said:
“With the upcoming Spring Bank Holiday, Public
Health Wales reminds the public to continue to adhere to Welsh Government’s
restrictions on non-essential travel, caravan and campsites, hotels, B&Bs
and holiday accommodations, as well as the limited access to our national
parks. We also remind owners of second homes in Wales to act responsibly and to
avoid traveling to these homes until restrictions have been lifted.
“Social distancing rules remain in
effect. Public Health Wales fully supports Welsh
Government’s revised stay-at-home regulations. The message has not changed – anyone can get Novel Coronavirus (COVID-19), anyone can
spread it. Stay home, protect the NHS, and save lives
“Public Health Wales, working with Aneurin Bevan University Health Board, is recruiting 500 participants as part of the Oxford Vaccine Group COVID-19 vaccine trial. The aim of this study is to find a safe vaccine that will develop immunity against the virus and thus prevent the disease. Co-ordinated by Health and Care Research Wales, this is a collaboration between Public Health Wales, Aneurin Bevan University Health Board and the Centre for Trials Research at Cardiff University
“This is an important study to test
the effectiveness of one of the main candidate vaccines for COVID-19 in Wales.
If successful, vaccination will provide a route out of this pandemic. We will
be recruiting participants for screening and administration of vaccine, and monitoring
outcomes and safety.
“Public Health Wales has also been
working in partnership with Ortho Clinical Diagnostics on new Novel Coronavirus (COVID-19)
antibody tests. In South Wales production is now well underway on the tests,
which can detect antibodies that can be used to identify an immune response and
may be critical in back-to-work strategies.
“Antibody testing is an important
part of our strategy to counter the spread of Novel Coronavirus (COVID-19) and
to help us understand who has had the disease. Knowing that the production of
the test will be local to us in Wales was of great importance to us as we
determined which suppliers to rely on.
“Anyone experiencing Novel
Coronavirus (COVID-19) symptoms can now apply for a home testing kit using the
new UK online portal. For further information and a link to the booking
website, visit: www.gov.wales/coronavirus or www.llyw.cymru/coronafeirws. This will be supported by a
national 119 phone service, through which people can also order a home test.
“New guidance on Novel Coronavirus
(COVID-19) symptoms has also recently been issued from the four UK Chief
Medical Officers. All individuals should self-isolate if they develop at least
one of the following coronavirus symptoms: a new continuous cough or fever or
loss of smell or taste (anosmia).
“Anosmia is the loss or a change in
your normal sense of smell. It can also affect your sense of taste as the two
are closely linked. The individual’s household should self-isolate for 14 days
as per the current guidelines and the individual should stay at home for seven
days, or longer if they still have symptoms other than cough or loss of sense
of smell or taste.
“Public Health Wales welcomes the extension
of Novel Coronavirus (COVID-19) testing to all care home residents and staff, and
is supporting the implementation of the Welsh
Government’s ‘Test, Trace, Protect’ strategy published earlier this month,
along with the Critical Workers Testing Policy,
which aims to use the current testing capacity in Wales to the full, ensuring we test
the right people, at the right time, in the right place, to reduce the spread
of Novel Coronavirus (COVID-19). We continue to work to increase our testing
capacity in Wales, currently 5,330 tests per day.
“The Welsh Government announced on Friday 8
May that lockdown arrangements would continue in Wales for a further three
weeks: in Wales stay-at-home guidance remains that, wherever you can, you
should stay at home.
“Although we appear to
have passed the peak of new cases in Wales, Novel Coronavirus (COVID-19) is
still circulating in every part of the country. The single most important
action we can all take in fighting the virus is to stay at home, and we thank
each and every person across Wales for doing their bit to help slow the spread
of the virus.
“We are encouraging everyone to download the Novel
Coronavirus (COVID-19) Symptom Study app, which has been supported by Welsh
Government. The app allows users to log daily symptoms to help build a clearer
picture of how the virus is affecting people. For more information, including
how to download the app, visit covid.joinzoe.com.
“Public Health Wales
is working to address the negative impact of Novel Coronavirus (COVID-19) on
the social, mental and physical wellbeing of people in Wales. Our latest
campaign, ‘How are you doing?’ is now live and offering practical advice from phw.nhs.wales/howareyoudoing.
“People no longer need
to contact NHS 111 if they think they may have contracted Novel Coronavirus
(COVID-19). Information about the symptoms to look out for is available
on the Public Health Wales website, or members of the public can use the NHS Wales
symptom checker.
“Anyone with a
suspected coronavirus illness should not go to a GP surgery, pharmacy or
hospital. They should only contact NHS 111 if they feel they cannot cope
with their symptoms at home, their condition gets worse, or their symptoms do
not get better after seven days.
“Only call 999 if you
are experiencing a life-threatening emergency, do not call 999 just because you
are on hold to 111. We appreciate that 111 lines are busy, but you will get
through after a wait.
"While emphasising the
importance of staying at home, we also want to reinforce the message from NHS
Wales that urgent and emergency care services for physical and mental health
are still open and accessible.
“For parents, if your child is unwell and you are concerned you should seek help. If you have urgent dental pain you should still call your dentist. If you have a health complaint that is worrying you and won’t go away you should call your GP practice. If you or a family member are seriously ill or injured you should dial 999 or attend your nearest Emergency Department.”
--
NODER: Mae gwybodaeth fanwl am achosion newydd o Coronafeirws Newydd (COVID-19) yng Nghymru ar gael yn awr ar ein dangosfwrdd data hawdd ei ddefnyddio ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Dywedodd Dr Chris Williams, Cyfarwyddwr Digwyddiad ar gyfer yr ymateb i'r achos o'r
Coronafeirws Newydd (COVID-19) yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:
“Gyda Gŵyl Banc y Gwanwyn ar y
gorwel, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn atgoffa’r cyhoedd i barhau i gadw at
gyfyngiadau Llywodraeth Cymru am deithio nad yw’n hanfodol, safleoedd
carafannau a gwersylla, llety gwely a brecwast a gwyliau, yn ogystal â’r mynediad
cyfyngedig i’n parciau cenedlaethol. Rydym hefyd yn atgoffa perchnogion ail
gartrefi yng Nghymru i weithredu’n gyfrifol gan osgoi teithio i’r cartrefi hyn
nes bod y cyfyngiadau wedi cael eu codi.
“Mae rheolau cadw pellter
cymdeithasol yn parhau mewn grym. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cefnogi rheoliadau aros gartref adolygedig Llywodraeth Cymru yn llawn. Nid yw’r neges wedi newid – gall
unrhyw un gael Coronafeirws Newydd (COVID-19), gall
unrhyw un ei ledaenu. Aros gartref, diogelu’r GIG, achub bywydau.
“Mae Iechyd Cyhoeddus
Cymru, gan weithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, yn recriwtio 500
o gyfranogwyr fel rhan o dreial brechiad COVID-19 Grŵp Brechiadau Rhydychen. Nod
yr astudiaeth hon yw canfod brechiad diogel a fydd yn datblygu imiwnedd yn
erbyn y feirws ac felly’n atal y clefyd. Yn cael ei gydlynu gan Ymchwil Iechyd
a Gofal Cymru, mae hwn yn gydweithrediad rhwng Iechyd Cyhoeddus Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a’r
Ganolfan ar gyfer Ymchwil Treialon ym Mhrifysgol Caerdydd.
“Mae
hon yn astudiaeth bwysig i brofi effeithiolrwydd un o’r prif ddarpar frechiadau
ar gyfer COVID-19 yng Nghymru. Os bydd yn llwyddiant, bydd y brechiad yn
darparu llwybr allan o’r pandemig yma. Byddwn yn recriwtio cyfranogwyr ar gyfer
sgrinio a rhoi’r brechiad, ac yn monitro’r canlyniadau a diogelwch.
“Hefyd
mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi bod yn gweithio mewn
partneriaeth ag Ortho Clinical Diagnostics ar brofion
gwrthgyrff newydd ar gyfer Coronafeirws Newydd (COVID-19). Yn Ne Cymru, mae’r
cynhyrchu ar droed yn awr ar y profion, a fydd yn gallu canfod gwrthgyrff y
gellir eu defnyddio i adnabod ymateb imiwnedd ac a all fod yn allweddol mewn
strategaethau dychwelyd i’r gwaith.
“Mae
profion gwrthgyrff yn rhan bwysig o’n strategaeth i weithio yn erbyn lledaeniad
y Coronafeirws Newydd (COVID-19) ac i’n helpu i ddeall pwy sydd wedi cael y
clefyd. Roedd gwybod y bydd y prawf yn cael ei gynhyrchu’n lleol i ni yng
Nghymru yn bwysig iawn i ni wrth i ni benderfynu pa gyflenwyr i ddibynnu
arnynt.
“Gall
unrhyw un sy’n profi symptomau Coronafeirws Newydd (COVID-19) wneud cais yn awr
am git profi gartref gan ddefnyddio porth ar-lein newydd y DU. Am ragor o
wybodaeth a dolen at y wefan archebu, ewch i: www.gov.wales/coronavirus neu
www.llyw.cymru/coronafeirws. Bydd
hyn yn cael ei gefnogi gan wasanaeth ffôn 119 cenedlaethol y gall pobl ei
ddefnyddio hefyd i archebu cit cartref.
“Hefyd
mae cyfarwyddyd newydd ar symptomau’r Coronafeirws Newydd (COVID-19) wedi cael
ei gyhoeddi’n ddiweddar gan bedwar Prif Swyddog Meddygol y DU. Dylai pob
unigolyn hunanynysu os byddant yn datblygu o leiaf un o’r symptomau coronafeirws
canlynol: peswch parhaus newydd neu dymheredd uchel neu golli synnwyr arogl neu
flas (anosmia).
“Anosmia
yw colli neu newid yn eich synnwyr arogl arferol. Hefyd gall effeithio ar eich
synnwyr blas gan fod cysylltiad agos rhwng y ddau. Dylai pawb sy’n byw gyda’r
unigolyn hunanynysu am 14 diwrnod yn unol â’r canllawiau presennol a dylai’r
unigolyn aros gartref am saith diwrnod, neu am gyfnod hirach os yw’r symptomau
dal ganddo, ar wahân i’r peswch neu’r colli synnwyr arogl neu flas.
“Mae Iechyd Cyhoeddus
Cymru yn croesawu ymestyn y profi am y Coronafeirws Newydd (COVID-19) i gynnwys
holl breswylwyr a staff y cartrefi gofal ac mae’n cefnogi gweithredu
strategaeth ‘Profi, Olrhain, Diogelu’ Llywodraeth Cymru a gyhoeddwyd yn
gynharach y mis yma, ynghyd â’r Polisi Profi Gweithwyr Allwedol, sy’n
ceisio defnyddio’r capasiti profi presennol yng Nghymru i’r eithaf, gan sicrhau
ein bod yn profi’r bobl briodol, ar yr amser priodol, yn y lle priodol, i
leihau lledaeniad y Coronafeirws Newydd (COVID-19). Rydym yn parhau i weithio i
gynyddu ein capasiti profi yng Nghymru, sy’n 5,330 o brofion y dydd ar hyn o
bryd.
“Cyhoeddodd
Llywodraeth Cymru ddydd Gwener 8 Mai y byddai’r cyfyngiadau symud yn parhau yng
Nghymru am dair wythnos arall. Yng Nghymru, mae’r cyfarwyddyd aros gartref yn
parhau – dylech aros gartref bob amser os ydych chi’n gallu.
“Er
ei bod yn ymddangos fel pe baem wedi pasio penllanw’r achosion newydd yng
Nghymru, mae’r Coronafeirws Newydd (COVID-19) yn bodoli o hyd ym mhob rhan o’r
wlad. Y cam gweithredu unigol pwysicaf y gallwn ni ei roi ar waith er mwyn
ymladd yn erbyn y feirws yw aros gartref ac rydyn ni’n diolch i bob un person
ledled Cymru am wneud eu rhan a helpu i arafu lledaeniad y feirws.
“Rydym yn annog pawb i lawrlwytho’r ap Astudiaeth
Symptomau’r Coronafeirws Newydd
(COVID-19), sydd wedi cael
cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru. Mae'r ap yn caniatáu i ddefnyddwyr logio
symptomau’n ddyddiol i helpu i greu darlun cliriach o sut mae'r feirws yn
effeithio ar bobl. Am ragor o wybodaeth, gan gynnwys sut i lawrlwytho'r ap,
ewch i covid.joinzoe.com.
“Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio i fynd i’r afael
ag effaith negyddol COVID-19 ar lesiant cymdeithasol, meddyliol a chorfforol
poblogaeth Cymru. Mae ein hymgyrch
ddiweddaraf, ‘Sut wyt ti?’ bellach yn fyw ac mae’n cynnig cyngor ymarferol
gan phw.nhs.wales/howareyoudoing.
“Nid oes angen i bobl
gysylltu ag NHS 111 mwyach os ydynt yn credu bod ganddynt Coronafeirws Newydd
(COVID-19). Mae gwybodaeth am y
symptomau i gadw llygad amdanynt ar gael ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru,
neu gall aelodau'r cyhoedd ddefnyddio gwiriwr symptomau GIG Cymru.
“Ni ddylai unrhyw un yr amheuir bod ganddo/ganddi
salwch coronafeirws fynd i bractis meddyg teulu, fferyllfa nac ysbyty. Dim ond os yw'n teimlo na all ymdopi â'i
symptomau gartref, fod ei gyflwr yn gwaethygu, neu os nad yw ei symptomau’n
gwella ar ôl saith niwrnod y dylai gysylltu â NHS 111.
“Peidiwch â ffonio 999 oni bai eich bod yn profi
argyfwng sy’n peryglu bywyd. Peidiwch â ffonio 999 dim ond oherwydd eich bod yn
aros i 111 ateb eich galwad ffôn. Rydym
yn deall bod llinellau 111 yn brysur, ond bydd rhywun yn ateb eich galwad ar ôl
i chi aros.
"Er ein bod yn pwysleisio pwysigrwydd aros gartref,
rydym hefyd yn awyddus i atgyfnerthu neges gan y GIG yng Nghymru sef bod
gwasanaethau gofal brys ac argyfwng ar gyfer iechyd corfforol a meddyliol yn
dal ar agor ac ar gael.
“I rieni, os yw'ch plentyn yn sâl a'ch bod yn
pryderu, dylech ofyn am help. Os oes
gennych boen deintyddol brys, dylech ddal i ffonio'ch deintydd. Os oes gennych
broblem iechyd sy'n eich poeni ac nad yw’n mynd i ffwrdd, dylech ffonio'ch
practis meddyg teulu. Os ydych chi, neu aelod o'r teulu, yn ddifrifol wael neu
wedi'ch anafu, dylech ddeialu 999 neu fynd i'ch Adran Achosion Brys agosaf.”