Public Health Wales statement on Novel Coronavirus (COVID-19) outbreak

This statement will be updated daily at 2pm

Updated: 2:00pm Friday 23 May

NOTE: Detailed information on new cases of Novel Coronavirus (COVID-19) in Wales is now available on our user-friendly data dashboard on the Public Health Wales website.

Dr Chris Williams, Incident Director for the Novel Coronavirus (COVID-19) outbreak response at Public Health Wales, said:

 “With the upcoming Spring Bank Holiday, Public Health Wales reminds the public to continue to adhere to Welsh Government’s restrictions on non-essential travel, caravan and campsites, hotels, B&Bs and holiday accommodations, as well as the limited access to our national parks. We also remind owners of second homes in Wales to act responsibly and to avoid traveling to these homes until restrictions have been lifted.

“Social distancing rules remain in effect. Public Health Wales fully supports Welsh Government’s revised stay-at-home regulations. The message has not changed – anyone can get Novel Coronavirus (COVID-19), anyone can spread it. Stay home, protect the NHS, and save lives

Public Health Wales, working with Aneurin Bevan University Health Board, is recruiting 500 participants as part of the Oxford Vaccine Group COVID-19 vaccine trial. The aim of this study is to find a safe vaccine that will develop immunity against the virus and thus prevent the disease. Co-ordinated by Health and Care Research Wales, this is a collaboration between Public Health Wales, Aneurin Bevan University Health Board and the Centre for Trials Research at Cardiff University

“This is an important study to test the effectiveness of one of the main candidate vaccines for COVID-19 in Wales. If successful, vaccination will provide a route out of this pandemic. We will be recruiting participants for screening and administration of vaccine, and monitoring outcomes and safety.

“Public Health Wales has also been working in partnership with Ortho Clinical Diagnostics on new Novel Coronavirus (COVID-19) antibody tests. In South Wales production is now well underway on the tests, which can detect antibodies that can be used to identify an immune response and may be critical in back-to-work strategies.

“Antibody testing is an important part of our strategy to counter the spread of Novel Coronavirus (COVID-19) and to help us understand who has had the disease. Knowing that the production of the test will be local to us in Wales was of great importance to us as we determined which suppliers to rely on.

“Anyone experiencing Novel Coronavirus (COVID-19) symptoms can now apply for a home testing kit using the new UK online portal. For further information and a link to the booking website, visit: www.gov.wales/coronavirus or www.llyw.cymru/coronafeirws. This will be supported by a national 119 phone service, through which people can also order a home test.

“New guidance on Novel Coronavirus (COVID-19) symptoms has also recently been issued from the four UK Chief Medical Officers. All individuals should self-isolate if they develop at least one of the following coronavirus symptoms: a new continuous cough or fever or loss of smell or taste (anosmia).

“Anosmia is the loss or a change in your normal sense of smell. It can also affect your sense of taste as the two are closely linked. The individual’s household should self-isolate for 14 days as per the current guidelines and the individual should stay at home for seven days, or longer if they still have symptoms other than cough or loss of sense of smell or taste.    

“Public Health Wales welcomes the extension of Novel Coronavirus (COVID-19) testing to all care home residents and staff, and is supporting the implementation of the Welsh Government’s ‘Test, Trace, Protect’ strategy published earlier this month, along with the Critical Workers Testing Policy, which aims to use the current testing capacity in Wales to the full, ensuring we test the right people, at the right time, in the right place, to reduce the spread of Novel Coronavirus (COVID-19). We continue to work to increase our testing capacity in Wales, currently 5,330 tests per day.

 “The Welsh Government announced on Friday 8 May that lockdown arrangements would continue in Wales for a further three weeks: in Wales stay-at-home guidance remains that, wherever you can, you should stay at home.    

“Although we appear to have passed the peak of new cases in Wales, Novel Coronavirus (COVID-19) is still circulating in every part of the country. The single most important action we can all take in fighting the virus is to stay at home, and we thank each and every person across Wales for doing their bit to help slow the spread of the virus.     

 “We are encouraging everyone to download the Novel Coronavirus (COVID-19) Symptom Study app, which has been supported by Welsh Government. The app allows users to log daily symptoms to help build a clearer picture of how the virus is affecting people. For more information, including how to download the app, visit covid.joinzoe.com.

“Public Health Wales is working to address the negative impact of Novel Coronavirus (COVID-19) on the social, mental and physical wellbeing of people in Wales.  Our latest campaign, ‘How are you doing?’ is now live and offering practical advice from phw.nhs.wales/howareyoudoing.

“People no longer need to contact NHS 111 if they think they may have contracted Novel Coronavirus (COVID-19).  Information about the symptoms to look out for is available on the Public Health Wales website, or members of the public can use the NHS Wales symptom checker.

“Anyone with a suspected coronavirus illness should not go to a GP surgery, pharmacy or hospital.  They should only contact NHS 111 if they feel they cannot cope with their symptoms at home, their condition gets worse, or their symptoms do not get better after seven days.

“Only call 999 if you are experiencing a life-threatening emergency, do not call 999 just because you are on hold to 111. We appreciate that 111 lines are busy, but you will get through after a wait.

"While emphasising the importance of staying at home, we also want to reinforce the message from NHS Wales that urgent and emergency care services for physical and mental health are still open and accessible.

“For parents, if your child is unwell and you are concerned you should seek help. If you have urgent dental pain you should still call your dentist. If you have a health complaint that is worrying you and won’t go away you should call your GP practice. If you or a family member are seriously ill or injured you should dial 999 or attend your nearest Emergency Department.”

--

NODER: Mae gwybodaeth fanwl am achosion newydd o Coronafeirws Newydd (COVID-19) yng Nghymru ar gael yn awr ar ein dangosfwrdd data hawdd ei ddefnyddio ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Dywedodd Dr Chris Williams, Cyfarwyddwr Digwyddiad ar gyfer yr ymateb i'r achos o'r Coronafeirws Newydd (COVID-19) yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:

“Gyda Gŵyl Banc y Gwanwyn ar y gorwel, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn atgoffa’r cyhoedd i barhau i gadw at gyfyngiadau Llywodraeth Cymru am deithio nad yw’n hanfodol, safleoedd carafannau a gwersylla, llety gwely a brecwast a gwyliau, yn ogystal â’r mynediad cyfyngedig i’n parciau cenedlaethol. Rydym hefyd yn atgoffa perchnogion ail gartrefi yng Nghymru i weithredu’n gyfrifol gan osgoi teithio i’r cartrefi hyn nes bod y cyfyngiadau wedi cael eu codi.

“Mae rheolau cadw pellter cymdeithasol yn parhau mewn grym. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cefnogi rheoliadau aros gartref adolygedig Llywodraeth Cymru yn llawn. Nid yw’r neges wedi newid – gall unrhyw un gael  Coronafeirws Newydd (COVID-19), gall unrhyw un ei ledaenu. Aros gartref, diogelu’r GIG, achub bywydau.

“Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru, gan weithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, yn recriwtio 500 o gyfranogwyr fel rhan o dreial brechiad COVID-19 Grŵp Brechiadau Rhydychen. Nod yr astudiaeth hon yw canfod brechiad diogel a fydd yn datblygu imiwnedd yn erbyn y feirws ac felly’n atal y clefyd. Yn cael ei gydlynu gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, mae hwn yn gydweithrediad rhwng Iechyd Cyhoeddus Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a’r Ganolfan ar gyfer Ymchwil Treialon ym Mhrifysgol Caerdydd.

“Mae hon yn astudiaeth bwysig i brofi effeithiolrwydd un o’r prif ddarpar frechiadau ar gyfer COVID-19 yng Nghymru. Os bydd yn llwyddiant, bydd y brechiad yn darparu llwybr allan o’r pandemig yma. Byddwn yn recriwtio cyfranogwyr ar gyfer sgrinio a rhoi’r brechiad, ac yn monitro’r canlyniadau a diogelwch.           

“Hefyd mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth ag Ortho Clinical Diagnostics ar brofion gwrthgyrff newydd ar gyfer Coronafeirws Newydd (COVID-19). Yn Ne Cymru, mae’r cynhyrchu ar droed yn awr ar y profion, a fydd yn gallu canfod gwrthgyrff y gellir eu defnyddio i adnabod ymateb imiwnedd ac a all fod yn allweddol mewn strategaethau dychwelyd i’r gwaith.

“Mae profion gwrthgyrff yn rhan bwysig o’n strategaeth i weithio yn erbyn lledaeniad y Coronafeirws Newydd (COVID-19) ac i’n helpu i ddeall pwy sydd wedi cael y clefyd. Roedd gwybod y bydd y prawf yn cael ei gynhyrchu’n lleol i ni yng Nghymru yn bwysig iawn i ni wrth i ni benderfynu pa gyflenwyr i ddibynnu arnynt.

“Gall unrhyw un sy’n profi symptomau Coronafeirws Newydd (COVID-19) wneud cais yn awr am git profi gartref gan ddefnyddio porth ar-lein newydd y DU. Am ragor o wybodaeth a dolen at y wefan archebu, ewch i: www.gov.wales/coronavirus neu www.llyw.cymru/coronafeirws. Bydd hyn yn cael ei gefnogi gan wasanaeth ffôn 119 cenedlaethol y gall pobl ei ddefnyddio hefyd i archebu cit cartref.

“Hefyd mae cyfarwyddyd newydd ar symptomau’r Coronafeirws Newydd (COVID-19) wedi cael ei gyhoeddi’n ddiweddar gan bedwar Prif Swyddog Meddygol y DU. Dylai pob unigolyn hunanynysu os byddant yn datblygu o leiaf un o’r symptomau coronafeirws canlynol: peswch parhaus newydd neu dymheredd uchel neu golli synnwyr arogl neu flas (anosmia).

“Anosmia yw colli neu newid yn eich synnwyr arogl arferol. Hefyd gall effeithio ar eich synnwyr blas gan fod cysylltiad agos rhwng y ddau. Dylai pawb sy’n byw gyda’r unigolyn hunanynysu am 14 diwrnod yn unol â’r canllawiau presennol a dylai’r unigolyn aros gartref am saith diwrnod, neu am gyfnod hirach os yw’r symptomau dal ganddo, ar wahân i’r peswch neu’r colli synnwyr arogl neu flas.     

“Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn croesawu ymestyn y profi am y Coronafeirws Newydd (COVID-19) i gynnwys holl breswylwyr a staff y cartrefi gofal ac mae’n cefnogi gweithredu strategaeth ‘Profi, Olrhain, Diogelu’ Llywodraeth Cymru a gyhoeddwyd yn gynharach y mis yma, ynghyd â’r Polisi Profi Gweithwyr Allwedol, sy’n ceisio defnyddio’r capasiti profi presennol yng Nghymru i’r eithaf, gan sicrhau ein bod yn profi’r bobl briodol, ar yr amser priodol, yn y lle priodol, i leihau lledaeniad y Coronafeirws Newydd (COVID-19). Rydym yn parhau i weithio i gynyddu ein capasiti profi yng Nghymru, sy’n 5,330 o brofion y dydd ar hyn o bryd.

“Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddydd Gwener 8 Mai y byddai’r cyfyngiadau symud yn parhau yng Nghymru am dair wythnos arall. Yng Nghymru, mae’r cyfarwyddyd aros gartref yn parhau – dylech aros gartref bob amser os ydych chi’n gallu.   

“Er ei bod yn ymddangos fel pe baem wedi pasio penllanw’r achosion newydd yng Nghymru, mae’r Coronafeirws Newydd (COVID-19) yn bodoli o hyd ym mhob rhan o’r wlad. Y cam gweithredu unigol pwysicaf y gallwn ni ei roi ar waith er mwyn ymladd yn erbyn y feirws yw aros gartref ac rydyn ni’n diolch i bob un person ledled Cymru am wneud eu rhan a helpu i arafu lledaeniad y feirws.

Rydym yn annog pawb i lawrlwytho’r ap Astudiaeth Symptomau’r Coronafeirws  Newydd (COVID-19), sydd wedi cael cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru. Mae'r ap yn caniatáu i ddefnyddwyr logio symptomau’n ddyddiol i helpu i greu darlun cliriach o sut mae'r feirws yn effeithio ar bobl. Am ragor o wybodaeth, gan gynnwys sut i lawrlwytho'r ap, ewch i  covid.joinzoe.com.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio i fynd i’r afael ag effaith negyddol COVID-19 ar lesiant cymdeithasol, meddyliol a chorfforol poblogaeth Cymru.  Mae ein hymgyrch ddiweddaraf, ‘Sut wyt ti?’ bellach yn fyw ac mae’n cynnig cyngor ymarferol gan  phw.nhs.wales/howareyoudoing.

Nid oes angen i bobl gysylltu ag NHS 111 mwyach os ydynt yn credu bod ganddynt Coronafeirws Newydd (COVID-19).  Mae gwybodaeth am y symptomau i gadw llygad amdanynt ar gael ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru, neu gall aelodau'r cyhoedd ddefnyddio gwiriwr symptomau GIG Cymru.

Ni ddylai unrhyw un yr amheuir bod ganddo/ganddi salwch coronafeirws fynd i bractis meddyg teulu, fferyllfa nac ysbyty.  Dim ond os yw'n teimlo na all ymdopi â'i symptomau gartref, fod ei gyflwr yn gwaethygu, neu os nad yw ei symptomau’n gwella ar ôl saith niwrnod y dylai gysylltu â NHS 111.

Peidiwch â ffonio 999 oni bai eich bod yn profi argyfwng sy’n peryglu bywyd. Peidiwch â ffonio 999 dim ond oherwydd eich bod yn aros i 111 ateb eich galwad ffôn.  Rydym yn deall bod llinellau 111 yn brysur, ond bydd rhywun yn ateb eich galwad ar ôl i chi aros.

"Er ein bod yn pwysleisio pwysigrwydd aros gartref, rydym hefyd yn awyddus i atgyfnerthu neges gan y GIG yng Nghymru sef bod gwasanaethau gofal brys ac argyfwng ar gyfer iechyd corfforol a meddyliol yn dal ar agor ac ar gael.

I rieni, os yw'ch plentyn yn sâl a'ch bod yn pryderu, dylech ofyn am help.  Os oes gennych boen deintyddol brys, dylech ddal i ffonio'ch deintydd. Os oes gennych broblem iechyd sy'n eich poeni ac nad yw’n mynd i ffwrdd, dylech ffonio'ch practis meddyg teulu. Os ydych chi, neu aelod o'r teulu, yn ddifrifol wael neu wedi'ch anafu, dylech ddeialu 999 neu fynd i'ch Adran Achosion Brys agosaf.”