Public Health Wales statement on Novel Coronavirus (COVID-19) outbreak
This statement will be updated daily at 2pm
Updated: 2:00pm Wednesday 27 May
NOTE: Detailed
information on new cases of Novel Coronavirus (COVID-19) in Wales is now
available on our user-friendly data dashboard on the Public Health Wales website.
Dr Robin Howe, Incident Director
for the Novel Coronavirus (COVID-19) outbreak response at Public Health Wales,
said:
“Social distancing rules remain in
effect. Public Health Wales fully supports Welsh
Government’s revised stay-at-home regulations. The message has not changed – anyone can get Novel Coronavirus (COVID-19), anyone can spread
it. Stay home, protect the NHS, and save lives
“Public Health Wales, working
with Aneurin Bevan University Health Board, is recruiting 500 participants as
part of the Oxford Vaccine Group COVID-19 vaccine trial. The aim of this study
is to find a safe vaccine that will develop immunity against the virus and thus
prevent the disease. Co-ordinated by Health and Care Research Wales,
this is a collaboration between Public Health Wales, Aneurin Bevan University
Health Board and the Centre for Trials Research at Cardiff University
“This is an important study to test
the effectiveness of one of the main candidate vaccines for COVID-19 in Wales.
If successful, vaccination will provide a route out of this pandemic. We will
be recruiting participants for screening and administration of vaccine, and monitoring
outcomes and safety.
“Public Health Wales has also been
working in partnership with Ortho Clinical Diagnostics on new Novel Coronavirus (COVID-19)
antibody tests. In South Wales production is now well underway on the tests,
which can detect antibodies that can be used to identify an immune response and
may be critical in back-to-work strategies.
“Antibody testing is an important
part of our strategy to counter the spread of Novel Coronavirus (COVID-19) and
to help us understand who has had the disease. Knowing that the production of
the test will be local to us in Wales was of great importance to us as we
determined which suppliers to rely on.
“Anyone experiencing Novel
Coronavirus (COVID-19) symptoms can now apply for a home testing kit using the
new UK online portal. For further information and a link to the booking
website, visit: www.gov.wales/coronavirus or www.llyw.cymru/coronafeirws. This will be supported by a
national 119 phone service, through which people can also order a home test.
“New guidance on Novel Coronavirus
(COVID-19) symptoms has also recently been issued from the four UK Chief
Medical Officers. All individuals should self-isolate if they develop at least
one of the following coronavirus symptoms: a new continuous cough or fever or
loss of smell (anosmia) or taste.
“Anosmia is the loss or a change in
your normal sense of smell. It can also affect your sense of taste as the two
are closely linked. The individual’s household should self-isolate for 14 days
as per the current guidelines and the individual should stay at home for seven
days, or longer if they still have symptoms other than cough or loss of sense
of smell or taste.
“Public Health Wales welcomes the extension
of Novel Coronavirus (COVID-19) testing to all care home residents and staff, and
is supporting the implementation of the Welsh
Government’s ‘Test, Trace, Protect’ strategy published earlier this month,
along with the Critical Workers Testing Policy,
which aims to use the current testing capacity in Wales to the full, ensuring we test
the right people, at the right time, in the right place, to reduce the spread
of Novel Coronavirus (COVID-19). We continue to work to increase our testing
capacity in Wales, currently 5,330 tests per day.
“The Welsh Government announced on Friday 8
May that lockdown arrangements would continue in Wales for a further three
weeks: in Wales stay-at-home guidance remains that, wherever you can, you
should stay at home.
“Although we appear to
have passed the peak of new cases in Wales, Novel Coronavirus (COVID-19) is
still circulating in every part of the country. The single most important
action we can all take in fighting the virus is to stay at home, and we thank
each and every person across Wales for doing their bit to help slow the spread
of the virus.
“We are encouraging everyone to download the Novel
Coronavirus (COVID-19) Symptom Study app, which has been supported by Welsh
Government. The app allows users to log daily symptoms to help build a clearer
picture of how the virus is affecting people. For more information, including
how to download the app, visit covid.joinzoe.com.
“Public Health Wales
is working to address the negative impact of Novel Coronavirus (COVID-19) on
the social, mental and physical wellbeing of people in Wales. Our latest
campaign, ‘How are you doing?’ is now live and offering practical advice from phw.nhs.wales/howareyoudoing.
“People no longer need
to contact NHS 111 if they think they may have contracted Novel Coronavirus
(COVID-19). Information about the symptoms to look out for is available
on the Public Health Wales website, or members of the public can use the NHS
Wales symptom checker.
“Anyone with a
suspected coronavirus illness should not go to a GP surgery, pharmacy or
hospital. They should only contact NHS 111 if they feel they cannot cope
with their symptoms at home, their condition gets worse, or their symptoms do
not get better after seven days.
“Only call 999 if you
are experiencing a life-threatening emergency, do not call 999 just because you
are on hold to 111. We appreciate that 111 lines are busy, but you will get
through after a wait.
"While emphasising the
importance of staying at home, we also want to reinforce the message from NHS
Wales that urgent and emergency care services for physical and mental health
are still open and accessible.
“For parents, if your child is unwell and you are concerned you should seek help. If you have urgent dental pain you should still call your dentist. If you have a health complaint that is worrying you and won’t go away you should call your GP practice. If you or a family member are seriously ill or injured you should dial 999 or attend your nearest Emergency Department.”
Datganiad Cymraeg:
Diweddarwyd: 2:00yp Dydd Mercher 27 Mai
NODER: Mae gwybodaeth fanwl am achosion newydd o
Coronafeirws Newydd (COVID-19) yng Nghymru ar gael yn awr ar ein dangosfwrdd
data hawdd ei ddefnyddio ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Dywedodd Dr Robin Howe, Cyfarwyddwr Digwyddiad
ar gyfer yr ymateb i'r achos o'r Coronafeirws Newydd (COVID-19) yn Iechyd
Cyhoeddus Cymru:
“Mae
rheolau cadw pellter cymdeithasol yn parhau mewn grym. Mae Iechyd
Cyhoeddus Cymru yn cefnogi rheoliadau aros gartref adolygedig Llywodraeth Cymru
yn llawn. Nid yw’r neges wedi newid â gall
unrhyw un gael Coronafeirws Newydd (COVID-19), gall
unrhyw un ei ledaenu. Aros gartref, diogelu’r GIG, achub bywydau.
“Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru, gan weithio gyda Bwrdd
Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, yn recriwtio 500 o gyfranogwyr fel rhan o
dreial brechiad COVID-19 Grŵp Brechiadau
Rhydychen. Nod yr astudiaeth hon yw canfod brechiad diogel a fydd yn datblygu
imiwnedd yn erbyn y feirws ac felly’n atal y clefyd. Yn cael ei gydlynu gan
Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, mae hwn yn gydweithrediad rhwng Iechyd Cyhoeddus
Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol
Aneurin Bevan a’r Ganolfan ar gyfer Ymchwil Treialon ym Mhrifysgol
Caerdydd.
“Mae hon yn astudiaeth bwysig i brofi effeithiolrwydd un
o’r prif ddarpar frechiadau ar gyfer COVID-19 yng Nghymru. Os bydd yn
llwyddiant, bydd y brechiad yn darparu llwybr allan o’r pandemig yma. Byddwn yn
recriwtio cyfranogwyr ar gyfer sgrinio a rhoi’r brechiad, ac yn monitro’r
canlyniadau a diogelwch.
“Hefyd mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi bod yn gweithio mewn
partneriaeth ag Ortho Clinical Diagnostics ar brofion gwrthgyrff newydd ar gyfer
Coronafeirws Newydd (COVID-19). Yn Ne Cymru, mae’r cynhyrchu ar droed yn awr ar
y profion, a fydd yn gallu canfod gwrthgyrff y gellir eu defnyddio i adnabod
ymateb imiwnedd ac a all fod yn allweddol mewn strategaethau dychwelyd i’r
gwaith.
“Mae profion gwrthgyrff yn rhan bwysig o’n strategaeth i
weithio yn erbyn lledaeniad y Coronafeirws Newydd (COVID-19) ac i’n helpu i
ddeall pwy sydd wedi cael y clefyd. Roedd gwybod y bydd y prawf yn cael ei
gynhyrchu’n lleol i ni yng Nghymru yn bwysig iawn i ni wrth i ni benderfynu pa
gyflenwyr i ddibynnu arnynt.
“Gall unrhyw un sy’n profi symptomau Coronafeirws Newydd
(COVID-19) wneud cais yn awr am git profi gartref gan ddefnyddio porth ar-lein
newydd y DU. Am ragor o wybodaeth a dolen at y wefan archebu, ewch i: www.gov.wales/coronavirus neu www.llyw.cymru/coronafeirws.
Bydd hyn yn cael ei gefnogi gan wasanaeth ffôn 119 cenedlaethol y gall pobl ei
ddefnyddio hefyd i archebu prawf cartref.
“Hefyd mae cyfarwyddyd newydd ar symptomau’r Coronafeirws
Newydd (COVID-19) wedi cael ei gyhoeddi’n ddiweddar gan bedwar Prif Swyddog
Meddygol y DU. Dylai pob unigolyn hunanynysu os byddant yn datblygu o leiaf un
o’r symptomau coronafeirws canlynol: peswch parhaus newydd neu dymheredd uchel
neu golli synnwyr arogl (anosmia) neu flas.
“Anosmia yw colli neu newid yn eich synnwyr arogl
arferol. Hefyd gall effeithio ar eich synnwyr blas gan fod cysylltiad agos
rhwng y ddau. Dylai pawb sy’n byw gyda’r unigolyn hunanynysu am 14 diwrnod yn
unol â’r canllawiau
presennol a dylai’r unigolyn aros gartref am saith diwrnod, neu am gyfnod
hirach os yw’r symptomau dal ganddo, ar wahân i’r
peswch neu’r colli synnwyr arogl neu flas.
“Mae Iechyd
Cyhoeddus Cymru yn croesawu ymestyn y profi am y Coronafeirws Newydd (COVID-19)
i gynnwys holl breswylwyr a staff y cartrefi gofal ac mae’n cefnogi gweithredu
strategaeth ‘Profi, Olrhain, Diogelu’ Llywodraeth Cymru a gyhoeddwyd yn
gynharach y mis yma, ynghyd âr Polisi
Profi Gweithwyr Allwedol, sy’n ceisio defnyddio’r capasiti
profi presennol yng Nghymru i’r eithaf, gan sicrhau ein bod yn profi’r bobl
briodol, ar yr amser priodol, yn y lle priodol, i leihau lledaeniad y
Coronafeirws Newydd (COVID-19). Rydym yn parhau i weithio i gynyddu ein
capasiti profi yng Nghymru, sy’n 5,330 o brofion y dydd ar hyn o bryd.
“Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddydd Gwener 8 Mai y
byddai’r cyfyngiadau symud yn parhau yng Nghymru am dair wythnos arall. Yng
Nghymru, mae’r cyfarwyddyd aros gartref yn parhau â dylech
aros gartref bob amser os ydych chi’n gallu.
“Er ei bod yn ymddangos fel pe baem wedi pasio penllanw’r
achosion newydd yng Nghymru, mae’r Coronafeirws Newydd (COVID-19) yn bodoli o
hyd ym mhob rhan o’r wlad. Y cam gweithredu unigol pwysicaf y gallwn ni ei roi
ar waith er mwyn ymladd yn erbyn y feirws yw aros gartref ac rydyn ni’n diolch
i bob un person ledled Cymru am wneud eu rhan a helpu i arafu lledaeniad y
feirws.
“Rydym yn
annog pawb i lawrlwytho’r ap Astudiaeth Symptomau’r Coronafeirws Newydd (COVID-19), sydd wedi cael cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru.
Mae'r ap yn caniatâu i
ddefnyddwyr logio symptomau’n ddyddiol i helpu i greu darlun cliriach o sut
mae'r feirws yn effeithio ar bobl. Am ragor o wybodaeth, gan gynnwys sut i
lawrlwytho'r ap, ewch i covid.joinzoe.com.
“Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio i fynd i’r
afael ag effaith negyddol COVID-19 ar lesiant cymdeithasol, meddyliol a
chorfforol poblogaeth Cymru. Mae ein
hymgyrch ddiweddaraf, ‘Sut wyt ti?’ bellach yn fyw ac mae’n cynnig cyngor
ymarferol gan phw.nhs.wales/howareyoudoing.
“Nid oes
angen i bobl gysylltu ag NHS 111 mwyach os ydynt yn credu bod ganddynt
Coronafeirws Newydd (COVID-19). Mae
gwybodaeth am y symptomau i gadw llygad amdanynt ar gael ar wefan Iechyd
Cyhoeddus Cymru, neu gall aelodau'r cyhoedd ddefnyddio gwiriwr symptomau GIG Cymru.
“Ni ddylai
unrhyw un yr amheuir bod ganddo/ganddi salwch coronafeirws fynd i bractis
meddyg teulu, fferyllfa nac ysbyty. Dim
ond os yw'n teimlo na all ymdopi â'i symptomau gartref, fod ei gyflwr
yn gwaethygu, neu os nad yw ei symptomau’n gwella ar saith
niwrnod y dylai gysylltu â NHS
111.
“Peidiwch â ffonio 999 oni bai eich bod yn profi argyfwng sy’n peryglu bywyd. Peidiwch â ffonio 999 dim ond oherwydd eich bod yn aros i 111 ateb eich galwad . Rydym yn deall bod llinellau 111 yn brysur, ond bydd rhywun yn ateb eich galwad ar ôl i chi aros.
"Er ein bod yn pwysleisio pwysigrwydd aros gartref, rydym hefyd yn awyddus i atgyfnerthu neges gan y GIG yng Nghymru sef bod gwasanaethau gofal brys ac argyfwng ar gyfer iechyd corfforol a meddyliol yn dal ar agor ac ar gael.
“I rieni, os
yw'ch plentyn yn sâl a'ch
bod yn pryderu, dylech ofyn am help. Os
oes gennych boen deintyddol brys, dylech ddal i ffonio'ch deintydd. Os oes
gennych broblem iechyd sy'n eich poeni ac nad yw’n mynd i ffwrdd, dylech
ffonio'ch practis meddyg teulu. Os ydych chi, neu aelod o'r teulu, yn ddifrifol
wael neu wedi'ch anafu, dylech ddeialu 999 neu fynd i'ch Adran Achosion Brys
agosaf.”