Public Health Wales statement on Novel Coronavirus (COVID-19) outbreak
This statement will be updated daily at 2pm
Updated: 2:00pm Friday 29 May
NOTE: Detailed
information on new cases of Novel Coronavirus (COVID-19) in Wales is now
available on our user-friendly data dashboard on the Public Health Wales website.
Dr Robin Howe,
Incident Director for the Novel Coronavirus (COVID-19) outbreak response at
Public Health Wales, said:
“We welcome the Welsh Government
announcement today that people from two different households in the same local
area will be able to meet up outdoors from Monday, provided they continue to
maintain social distancing and strict hand hygiene.
“We
also welcome the caveat that, as a general rule, people should not travel more
than five miles from home. This will
help to reduce the risk of coronavirus spreading as people begin to travel
more.
“Over the weekend, current social
distancing rules remain in effect - stay
home, protect the NHS, and save lives.
“Future relaxation of lockdown measures will also be
dependent on everyone following advice set out in the ‘Test, Trace, Protect’
strategy, including self-isolating when required.
“Information about the
symptoms of Novel Coronavirus (COVID-19) to look out for is available on the
Public Health Wales website, or members of the public can use the NHS Wales symptom checker.
“Anyone experiencing Novel Coronavirus
(COVID-19) symptoms can now apply for a home testing kit using the new UK
online portal. For further information and a link to the booking website,
visit: www.gov.wales/coronavirus or www.llyw.cymru/coronafeirws. This will be supported by a
national 119 phone service, through which people can also order a home test.
“We are encouraging
everyone to download the Novel Coronavirus (COVID-19) Symptom Study app, which
has been supported by Welsh Government. The app allows users to log daily
symptoms to help build a clearer picture of how the virus is affecting people.
For more information, including how to download the app, visit covid.joinzoe.com.
“As
part of wider support measures for families, Public Health Wales is offering all parents, parents-to-be,
grandparents and care-givers free access to a series of online courses designed
to help them understand the development and emotional milestones of their
children, covering everything from pre-birth to late teens.
“To get access users just need to visit www.inourplace.co.uk and use the code ‘NWSOL’ if you live
in North Wales, and ‘SWSOL’ if you live in Mid, West or South Wales.
“Public Health Wales
is also continuing working to address the negative impact of Novel Coronavirus
(COVID-19) on the social, mental and physical wellbeing of people in
Wales. Our latest campaign, ‘How are you doing?’ is now live and offering
practical advice from phw.nhs.wales/howareyoudoing.
“Anyone with a
suspected coronavirus illness should not go to a GP surgery, pharmacy or
hospital. They should only contact NHS 111 if they feel they cannot cope
with their symptoms at home, their condition gets worse, or their symptoms do
not get better after seven days.
“Only call 999 if you
are experiencing a life-threatening emergency, do not call 999 just because you
are on hold to 111. We appreciate that 111 lines are busy, but you will get
through after a wait.
"We also want to reinforce the
message from NHS Wales that urgent and emergency care services for physical and
mental health are still open and accessible.
“For parents, if your child is
unwell and you are concerned you should seek help. If you have urgent dental
pain you should still call your dentist. If you have a health complaint that is
worrying you and won’t go away you should call your GP practice. If you or a
family member are seriously ill or injured you should dial 999 or attend your
nearest Emergency Department.”
Datganiad Cymraeg:
Diweddarwyd: 2:00yp Dydd Gwener 29 Mai
NODER: Mae gwybodaeth fanwl am achosion newydd o Coronafeirws Newydd
(COVID-19) yng Nghymru bellach ar gael ar ein dangosfwrdd data hawdd ei
ddefnyddio ar wefan
Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Dywedodd Dr Robin Howe,
Cyfarwyddwr Digwyddiad ar gyfer yr ymateb i'r achos o'r Coronafeirws Newydd
(COVID-19) yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:
“Rydym
yn croesawu cyhoeddiad Llywodraeth Cymru heddiw y bydd pobl o ddau gartref
gwahanol yn yr un ardal leol yn gallu cyfarfod yn yr awyr agored o ddydd Llun,
ar yr amod eu bod yn parhau i gadw pellter cymdeithasol a hylendid dwylo llym.
“Rydym hefyd yn croesawu’r cafeat na ddylai
pobl, fel rheol gyffredinol, deithio mwy na phum milltir o’u cartrefi. Bydd hyn yn helpu i leihau'r risg y bydd Coronafeirws
yn lledaenu wrth i bobl ddechrau teithio mwy.
“Dros
y penwythnos, mae'r rheolau cadw pellter cymdeithasol cyfredol yn parhau i fod
yn weithredol – aros gartref, amddiffyn y GIG, ac achub bywydau.
Bydd llacio’r mesurau
cyfyngiadau symud yn y dyfodol hefyd yn dibynnu ar bawb yn dilyn y cyngor a
nodir yn y strategaeth ‘Profi, Monitro, Olrhain’, gan gynnwys hunanynysu pan fo
angen.
“Mae gwybodaeth am symptomau Coronafeirws Newydd (COVID-19) i gadw
llygad amdanynt ar gael ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru, neu gall aelodau'r
cyhoedd ddefnyddio gwiriwr
symptomauGIG Cymru.
“Gall
unrhyw un sy’n profi symptomau Coronafeirws Newydd (COVID-19) nawr wneud cais
am becyn prawf cartref gan ddefnyddio porth ar-lein newydd y DU. I gael rhagor
o wybodaeth a dolen i'r wefan archebu, ewch i: www.llyw.cymru/coronafeirws
neu www.gov.wales/coronavirus.
Cefnogir hyn gan wasanaeth ffôn 119 cenedlaethol, lle gall pobl hefyd archebu
prawf cartref.
“Rydym yn annog pawb i lawrlwytho’r ap Astudio Symptomau Coronafeirws
Newydd (COVID-19), a dderbyniodd gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru. Mae'r ap yn
caniatáu i ddefnyddwyr logio symptomau’n ddyddiol i helpu i adeiladu darlun
cliriach o sut mae'r feirws yn effeithio ar bobl. Am ragor o wybodaeth, gan
gynnwys sut i lawrlwytho'r ap, ewch i covid.joinzoe.com.
“Fel rhan o fesurau cymorth ehangach i
deuluoedd, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynnig mynediad am ddim i bob rhiant, darpar
riant, nain a thaid a gofalwr i gyfres o gyrsiau ar-lein sydd wedi'u cynllunio
i'w helpu i ddeall datblygiad a cherrig milltir emosiynol eu plant, sy’n
cwmpasu’r ystod oedran o'r cyfnod cyn geni i'r arddegau hwyr.
“Er mwyn cael mynediad
atynt, mae angen i ddefnyddwyr ymweld ag
www.inourplace.co.uk gan ddefnyddio’r cod
‘NWSOL’ os ydych yn byw yng Ngogledd Cymru, ac ‘SWSOL’ os ydych yn byw yng
Nghanolbarth, Gorllewin neu Dde Cymru.
“Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd yn parhau i weithio i fynd i’r afael
ag effaith negyddol Coronafeirws Newydd (COVID-19) ar lesiant cymdeithasol,
meddyliol a chorfforol poblogaeth Cymru. Mae ein hymgyrch diweddaraf, Sut
Wyt Ti? bellach yn fyw ac mae’n cynnig cyngor ymarferol trwy phw.nhs.wales/howareyoudoing.
“Ni ddylai unrhyw un yr amheuir bod ganddo/ganddi salwch coronafeirws
fynd i bractis meddyg teulu, fferyllfa nac ysbyty. Dim ond os yw'n teimlo
na all ymdopi â'i symptomau gartref, fod ei gyflwr yn gwaethygu, neu os nad yw
ei symptomau’n gwella ar ôl saith niwrnod y dylai gysylltu â NHS 111.
“Peidiwch â ffonio 999 oni bai eich bod yn profi argyfwng sy’n peryglu
bywyd. Peidiwch â ffonio 999 dim ond oherwydd eich bod yn aros i 111 ateb eich
galwad ffôn. Rydym yn deall bod llinellau 111 yn brysur, ond bydd rhywun yn ateb
eich galwad ar ôl i chi aros.
“Hoffwn
hefyd atgyfnerthu’r neges gan GIG Cymru fod gwasanaethau gofal brys ar gyfer
iechyd meddwl ac iechyd corfforol ar agor o hyd.
“I
rieni, os yw'ch plentyn yn sâl a'ch bod yn pryderu, dylech ofyn am help. Os oes
gennych boen deintyddol brys, dylech ddal i ffonio'ch deintydd. Os oes gennych
broblem iechyd sy'n eich poeni ac nad yw’n mynd i ffwrdd, dylech ffonio'ch
practis meddyg teulu. Os ydych chi, neu aelod o'r teulu, yn ddifrifol wael neu
wedi'ch anafu, dylech ddeialu 999 neu fynd i'ch Adran Achosion Brys agosaf.”