Public Health Wales statement on Novel Coronavirus (COVID-19) outbreak

This statement will be updated daily at 2pm

Updated: 2:00pm Tuesday 2 June

NOTE: Detailed information on new cases of Novel Coronavirus (COVID-19) in Wales is now available on our user-friendly data dashboard on the Public Health Wales website.

Dr Giri Shankar, Incident Director for the Novel Coronavirus (COVID-19) outbreak response at Public Health Wales, said:

“Contact tracing continues in Wales as part of the Welsh Government’s ‘Test, Trace, Protect’ strategy. Contact tracing is the process of identifying people who have come in contact with an individual with Novel Coronavirus (COVID-19) in order to prevent the risk of others spreading the infection in our communities.

“Anyone who has a positive Novel Coronavirus (COVID-19) test will be contacted by a team of contact tracers, and asked for details of everyone they have had close contact with while they have had symptoms.

“Please keep a note of your activities so you can easily remember your whereabouts on a given day, along with who were in contact with. You do not need to have any concerns about providing names to the tracing team. This is for everyone’s benefit and we are grateful for your continued cooperation.

“If you are asked to self-isolate, you should also comply with this request to prevent further spread of the virus.

“Tracers are trained staff and personal information that you provide will handled in line with data protection regulations and will not be shared widely.

“Over the last few weeks, Public Health Wales has been setting up the methods and guidance for how contact tracing will operate.  We will continue to work closely to support local health boards and local authorities in delivering contact tracing.

“Welsh Government’s revised lockdown arrangements also continue. People from two different households in the same local area can meet up outdoors, provided they continue to maintain social distancing and strict hand hygiene.

“The announcement adds that, as a general rule, people should not travel more than five miles from home. This will help to reduce the risk of coronavirus spreading as people begin to travel more.

“Revised lockdown arrangements also apply to people in Wales who have been told to ‘shield’ from the virus.  They are able to go outside and meet people from another household, provided they keep a two-metre distance.

Future relaxation of lockdown measures will also be dependent on everyone following advice set out in the ‘Test, Trace, Protect’ strategy, including self-isolating when required.

“Information about the symptoms of Novel Coronavirus (COVID-19) to look out for is available on the Public Health Wales website, or members of the public can use the NHS Wales symptom checker.

“Anyone experiencing Novel Coronavirus (COVID-19) symptoms can now apply for a home testing kit using the new UK online portal. For further information and a link to the booking website, visit: www.gov.wales/coronavirus or www.llyw.cymru/coronafeirws. This will be supported by a national 119 phone service, through which people can also order a home test.

“We are encouraging everyone to download the Novel Coronavirus (COVID-19) Symptom Study app, which has been supported by Welsh Government. The app allows users to log daily symptoms to help build a clearer picture of how the virus is affecting people. For more information, including how to download the app, visit covid.joinzoe.com.

“As part of wider support measures for families, Public Health Wales is offering all parents, parents-to-be, grandparents and care-givers free access to a series of online courses designed to help them understand the development and emotional milestones of their children, covering everything from pre-birth to late teens. 

“To get access users just need to visit www.inourplace.co.uk and use the code ‘NWSOL’ if you live in North Wales, and ‘SWSOL’ if you live in Mid, West or South Wales.

“Public Health Wales is also continuing working to address the negative impact of Novel Coronavirus (COVID-19) on the social, mental and physical wellbeing of people in Wales.  Our latest campaign, ‘How are you doing?’ is now live and offering practical advice from phw.nhs.wales/howareyoudoing.

“Anyone with a suspected coronavirus illness should not go to a GP surgery, pharmacy or hospital.  They should only contact NHS 111 if they feel they cannot cope with their symptoms at home, their condition gets worse, or their symptoms do not get better after seven days.

“Only call 999 if you are experiencing a life-threatening emergency, do not call 999 just because you are on hold to 111. We appreciate that 111 lines are busy, but you will get through after a wait.

"We also want to reinforce the message from NHS Wales that urgent and emergency care services for physical and mental health are still open and accessible.

“For parents, if your child is unwell and you are concerned you should seek help. If you have urgent dental pain you should still call your dentist. If you have a health complaint that is worrying you and won’t go away you should call your GP practice. If you or a family member are seriously ill or injured you should dial 999 or attend your nearest Emergency Department.”

Datganiad Cymraeg: 

Diweddarwyd: 2:00yp Dydd Mawrth 2 Mehefin

NODER: Mae gwybodaeth fanwl am achosion newydd o Coronafeirws Newydd (COVID-19) yng Nghymru bellach ar gael ar ein dangosfwrdd data hawdd ei ddefnyddio ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Dywedodd Dr Giri Shankar, Cyfarwyddwr Digwyddiad ar gyfer yr ymateb i'r achos o'r Coronafeirws Newydd (COVID-19) yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:

“Mae olrhain cysylltiadau yn parhau yng Nghymru fel rhan o strategaeth ‘Profi, Monitro, Olrhain’ Llywodraeth Cymru. Olrhain cysylltiadau yw'r broses o adnabod pobl sydd wedi dod i gysylltiad ag unigolyn â Coronafeirws Newydd (COVID-19) er mwyn atal y risg y bydd eraill yn lledaenu'r haint yn ein cymunedau.

“Bydd tîm o olrheinwyr cysylltiadau yn cysylltu ag unrhyw un sydd wedi cael prawf positif am Coronafeirws Newydd (COVID-19), a gofynnir am fanylion pawb y mae wedi bod mewn cysylltiad agos â nhw tra bod symptomau gyda nhw.

“Cadwch nodyn o'ch gweithgareddau er mwyn i chi allu cofio’n hawdd ble oeddech chi ar ddiwrnod penodol, ynghyd â gyda phwy yr oeddech mewn cysylltiad â nhw. Nid oes angen i chi fod ag unrhyw bryderon ynghylch darparu enwau i'r tîm olrhain. Mae hyn er budd pawb ac rydym yn ddiolchgar am eich cydweithrediad parhaus.

“Os gofynnir i chi hunanynysu, dylech hefyd gydymffurfio â'r gofyniad hwn er mwyn atal y feirws rhag lledaenu ymhellach.

“Mae olrheinwyr yn staff hyfforddedig a bydd yr wybodaeth bersonol rydych chi'n ei darparu yn cael ei thrin yn unol â rheoliadau diogelu data ac ni fydd yn cael ei rhannu'n eang.

“Dros yr wythnosau diwethaf, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi bod yn sefydlu’r dulliau a’r arweiniad ar gyfer sut y bydd olrhain cysylltiadau yn gweithredu.  Byddwn yn parhau i weithio'n agos i gefnogi byrddau iechyd lleol ac awdurdodau lleol i olrhain cysylltiadau.

“Mae trefniadau cyfyngiadau symud diwygiedig Llywodraeth Cymru hefyd yn parhau. Gall pobl o ddau gartref gwahanol yn yr un ardal leol gwrdd yn yr awyr agored, ar yr amod eu bod yn parhau i gynnal pellter cymdeithasol a hylendid dwylo llym.

“Mae’r cyhoeddiad yn ychwanegu na ddylai pobl, fel rheol gyffredinol, deithio mwy na phum milltir o’u cartrefi. Bydd hyn yn helpu i leihau'r risg y bydd coronafeirws yn lledaenu wrth i bobl ddechrau teithio mwy.

“Mae’r trefniadau cyfyngiadau symud diwygiedig hefyd yn berthnasol i bobl yng Nghymru y dywedwyd wrthynt am ‘warchod’ eu hunain rhag y feirws.  Gallant fynd y tu allan a chwrdd â phobl o gartref arall, ar yr amod eu bod yn cadw pellter dau fetr.

Bydd llacio’r mesurau cyfyngiadau symud yn y dyfodol hefyd yn dibynnu ar bawb yn dilyn y cyngor a nodir yn y strategaeth ‘Profi, Monitro, Olrhain’, gan gynnwys hunanynysu pan fo angen.

“Mae gwybodaeth am symptomau Coronafeirws Newydd (COVID-19) i gadw llygad amdanynt ar gael ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru, neu gall aelodau'r cyhoedd ddefnyddio gwiriwr symptomau GIG Cymru.

“Gall unrhyw un sy’n profi symptomau Coronafeirws Newydd (COVID-19) nawr wneud cais am becyn prawf cartref gan ddefnyddio porth ar-lein newydd y DU. I gael rhagor o wybodaeth a dolen i'r wefan archebu, ewch i: www.llyw.cymru/coronafeirws neu www.gov.wales/coronavirus. Cefnogir hyn gan wasanaeth ffôn 119 cenedlaethol, lle gall pobl hefyd archebu prawf cartref.

“Rydym yn annog pawb i lawrlwytho’r ap Astudio Symptomau Coronafeirws Newydd (COVID-19), a dderbyniodd gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru. Mae'r ap yn caniatáu i ddefnyddwyr logio symptomau’n ddyddiol i helpu i adeiladu darlun cliriach o sut mae'r feirws yn effeithio ar bobl. Am ragor o wybodaeth, gan gynnwys sut i lawrlwytho'r ap, ewch i covid.joinzoe.com.

“Fel rhan o fesurau cymorth ehangach i deuluoedd, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynnig mynediad am ddim i bob rhiant, darpar riant, nain a thaid a gofalwr i gyfres o gyrsiau ar-lein sydd wedi'u cynllunio i'w helpu i ddeall datblygiad a cherrig milltir emosiynol eu plant, sy’n cwmpasu’r ystod oedran o'r cyfnod cyn geni i'r arddegau hwyr. 

“Er mwyn cael mynediad atynt, mae angen i ddefnyddwyr ymweld ag  www.inourplace.co.uk gan ddefnyddio’r cod ‘NWSOL’ os ydych yn byw yng Ngogledd Cymru, ac ‘SWSOL’ os ydych yn byw yng Nghanolbarth, Gorllewin neu Dde Cymru.

“Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd yn parhau i weithio i fynd i’r afael ag effaith negyddol Coronafeirws Newydd (COVID-19) ar lesiant cymdeithasol, meddyliol a chorfforol poblogaeth Cymru.  Mae ein hymgyrch diweddaraf, Sut Wyt Ti? bellach yn fyw ac mae’n cynnig cyngor ymarferol trwy phw.nhs.wales/howareyoudoing.

“Ni ddylai unrhyw un yr amheuir bod ganddo/ganddi salwch coronafeirws fynd i bractis meddyg teulu, fferyllfa nac ysbyty.  Dim ond os yw'n teimlo na all ymdopi â'i symptomau gartref, fod ei gyflwr yn gwaethygu, neu os nad yw ei symptomau’n gwella ar ôl saith niwrnod y dylai gysylltu â NHS 111.

“Peidiwch â ffonio 999 oni bai eich bod yn profi argyfwng sy’n peryglu bywyd. Peidiwch â ffonio 999 dim ond oherwydd eich bod yn aros i 111 ateb eich galwad ffôn. Rydym yn deall bod llinellau 111 yn brysur, ond bydd rhywun yn ateb eich galwad ar ôl i chi aros.

“Hoffwn hefyd atgyfnerthu’r neges gan GIG Cymru fod gwasanaethau gofal brys ar gyfer iechyd meddwl ac iechyd corfforol ar agor o hyd.

“I rieni, os yw'ch plentyn yn sâl a'ch bod yn pryderu, dylech ofyn am help. Os oes gennych boen deintyddol brys, dylech ddal i ffonio'ch deintydd. Os oes gennych broblem iechyd sy'n eich poeni ac nad yw’n mynd i ffwrdd, dylech ffonio'ch practis meddyg teulu. Os ydych chi, neu aelod o'r teulu, yn ddifrifol wael neu wedi'ch anafu, dylech ddeialu 999 neu fynd i'ch Adran Achosion Brys agosaf.”