Public Health Wales statement on Novel Coronavirus (COVID-19) outbreak
This statement will be updated daily at 2pm
Updated: 2:00pm Thursday 4 June
NOTE: Detailed
information on new cases of Novel Coronavirus (COVID-19) in Wales is now
available on our user-friendly data dashboard on the Public Health Wales website.
Dr Robin
Howe, Incident Director for the Novel Coronavirus (COVID-19) outbreak response
at Public Health Wales, said:
“Public Health Wales welcomes increased testing resulting
from Welsh participation in the UK-wide system.
“From Thursday 4 June, Public Health Wales is reporting
the number of tests for Novel Coronavirus (COVID-19) undertaken on Welsh
residents in Non-NHS Wales laboratories.
“These laboratories were established to support NHS laboratories
in increasing COVID-19 testing capacity e.g. UK Lighthouse laboratories. They are currently receiving samples from a
number of testing sites, such as the COVID-19 drive-through testing centres in
England and from home testing kits.
“Today we are publishing as a separate tab of the
dashboard an additional 12,191 tests undertaken by Welsh residents up to 03
June 2020.
“Of the total tests, 91 per cent recorded a negative test
result, and four per cent were positive.
Indeterminate test results accounted for the remaining five per
cent.
“The patients will have been given their results, and will have been given advice to self-isolate.
“Whilst we have prioritised publishing national level
figures from this dataset, we are currently working through data issues with NHS
Wales Informatics Service (NWIS) and Welsh Government and plan to publish at
Health Board and Local Authority level. We expect these testing figures to
increase as additional home and community testing increases amongst Welsh
residents over the next few weeks.
“Public Health Wales is currently undertaking work to
review this data and determine how this links with our existing data from tests
undertaken in NHS laboratories in Wales.
Whilst this work is ongoing, these figures have not been incorporated
into any other outputs including the headline number of cases.
“Contact
tracing continues in Wales as part of the Welsh Government’s ‘Test, Trace,
Protect’ strategy. Contact tracing is
the process of identifying people who have come in contact with an individual
with Novel Coronavirus (COVID-19) in order to prevent the risk of others
spreading the infection in our communities.
“Anyone
who has a positive Novel Coronavirus (COVID-19) test will be contacted by a
team of contact tracers, and asked for details of everyone they have had close
contact with while they have had symptoms.
“Please
keep a note of your activities so you can easily remember your whereabouts on a
given day, along with who were in contact with. You do not need to have any
concerns about providing names to the tracing team. This is for everyone’s
benefit and we are grateful for your continued cooperation.
“If
you are asked to self-isolate, you should also comply with this request to
prevent further spread of the virus.
“Tracers
are trained staff and personal information that you provide will handled in
line with data protection regulations and will not be shared widely.
“Over
the last few weeks, Public Health Wales has been setting up the methods and
guidance for how contact tracing will operate. We will continue to work closely to support local
health boards and local authorities in delivering contact tracing.
“The
Welsh Government’s revised lockdown arrangements also continue. People from two
different households in the same local area can meet up outdoors, provided they
continue to maintain social distancing and strict hand hygiene.
“The announcement adds that, as a general rule,
people should not travel more than five miles from home. This will help to
reduce the risk of coronavirus spreading as people begin to travel more.
“Revised lockdown arrangements also apply to people
in Wales who have been told to ‘shield’ from the virus. They are able to go outside and meet people
from another household, provided they keep a two-metre distance.
“Future relaxation of lockdown measures will also be dependent on everyone following advice set out
in the ‘Test, Trace, Protect’ strategy, including self-isolating when required.
“Information about the symptoms of
Novel Coronavirus (COVID-19) to look out for is available on the Public Health
Wales website, or members of the public can use the NHS Wales symptom checker.
“Anyone experiencing Novel
Coronavirus (COVID-19) symptoms can now apply for a home testing kit using the
new UK online portal. For further information and a link to the booking
website, visit: www.gov.wales/coronavirus or www.llyw.cymru/coronafeirws. This will be supported by a
national 119 phone service, through which people can also order a home test.
“We are encouraging everyone to
download the Novel Coronavirus (COVID-19) Symptom Study app, which has been
supported by Welsh Government. The app allows users to log daily symptoms to
help build a clearer picture of how the virus is affecting people. For more
information, including how to.
“Anyone with a suspected coronavirus
illness should not go to a GP surgery, pharmacy or hospital. They should
only contact NHS 111 if they feel they cannot cope with their symptoms at home,
their condition gets worse, or their symptoms do not get better after seven
days.
“Only call 999 if you are
experiencing a life-threatening emergency, do not call 999 just because you are
on hold to 111. We appreciate that 111 lines are busy, but you will get through
after a wait.
"We also want to reinforce the
message from NHS Wales that urgent and emergency care services for physical and
mental health are still open and accessible.
“For parents, if your child is
unwell and you are concerned you should seek help. If you have urgent dental
pain you should still call your dentist. If you have a health complaint that is
worrying you and won’t go away you should call your GP practice. If you or a
family member are seriously ill or injured you should dial 999 or attend your
nearest Emergency Department.”
Datganiad Cymraeg:
Diweddarwyd: 2:00yp Dydd Iau 4 Mehefin
NODER: Mae gwybodaeth fanwl am achosion newydd o Coronafeirws Newydd
(COVID-19) yng Nghymru bellach ar gael ar ein dangosfwrdd data hawdd ei
ddefnyddio ar wefan
Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Dywedodd Dr Robin
Howe, Cyfarwyddwr Digwyddiad ar gyfer yr ymateb i'r achos o'r Coronafeirws
Newydd (COVID-19) yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:
“Mae Iechyd Cyhoeddus
Cymru yn croesawu cynnal rhagor o brofion o ganlyniad i gyfranogiad Cymru yn y
system ledled y DU.
“O ddydd Iau, 4 Mehefin,
mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn adrodd ar nifer y profion ar gyfer Coronafeirws
Newydd (COVID-19) a gynhelir ar breswylwyr Cymru mewn labordai nad ydynt yn
eiddo i GIG Cymru.
“Sefydlwyd y labordai hyn
i gefnogi labordai’r GIG er mwyn cynyddu’r capasiti profi ar gyfer COVID-19
e.e. labordai UK Lighthouse. Ar hyn o
bryd, maen nhw’n derbyn samplau o nifer o safleoedd profi, fel canolfannau
profi am COVID-19 drwy ffenestr y car yn Lloegr, yn ogystal â phecynnau profi
yn y cartref.
“Heddiw, rydym yn
cyhoeddi, fel tab gwahanol yn y dangosfwrdd, 12,191 o brofion ychwanegol gan
breswylwyr Cymru hyd at 03 Mehefin 2020.
“O’r profion i gyd,
cofnodwyd 91% o ganlyniadau negyddol a 4% o ganlyniadau positif am
COVID-19. Roedd canlyniadau amhendant ar
gyfer y 5% sy’n weddill.
“Bydd cleifion wedi derbyn eu canlyniadau, a byddant wedi cael eu cynghori i hunanynysu.
“Er ein bod wedi
blaenoriaethu cyhoeddi ffigurau o’r set ddata hon ar lefel genedlaethol, rydym
yn gweithio drwy faterion data gyda Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru a Llywodraeth
Cymru ar hyn o bryd ac rydym yn bwriadu cyhoeddi ffigurau ar lefel Bwrdd Iechyd
ac ar lefel Awdurdod Lleol. Rydym yn disgwyl i’r ffigurau profi hyn gynyddu
wrth i brofi yn y cartref ac yn y gymuned gynyddu ymysg preswylwyr Cymru dros
yr ychydig wythnosau nesaf.
“Ar hyn o bryd, mae
Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio i adolygu’r data hyn a phennu sut mae hyn yn
gysylltiedig â’r data sydd gennym eisoes o brofion a gynhaliwyd yn labordai GIG
Cymru. Tra mae’r gwaith hwn yn mynd
rhagddo, nid yw’r ffigurau hyn wedi’u hymgorffori i unrhyw allbynnau eraill,
gan gynnwys nifer yr achosion swyddogol.
“Mae olrhain cysylltiadau yn parhau yng Nghymru
fel rhan o strategaeth ‘Profi, Monitro, Olrhain’ Llywodraeth Cymru. Olrhain cysylltiadau yw'r broses o adnabod
pobl sydd wedi dod i gysylltiad ag unigolyn â Coronafeirws Newydd (COVID-19) er
mwyn atal y risg y bydd eraill yn lledaenu'r haint yn ein cymunedau.
“Bydd tîm o olrheinwyr cysylltiadau yn cysylltu
ag unrhyw un sydd wedi cael prawf positif am Coronafeirws Newydd (COVID-19), a
gofynnir am fanylion pawb y mae wedi bod mewn cysylltiad agos â nhw tra bod
symptomau gyda nhw.
“Cadwch nodyn o'ch gweithgareddau er mwyn i chi
allu cofio’n hawdd ble oeddech chi ar ddiwrnod penodol, ynghyd â gyda phwy yr
oeddech mewn cysylltiad â nhw. Nid oes angen i chi fod ag unrhyw bryderon
ynghylch darparu enwau i'r tîm olrhain. Mae hyn er budd pawb ac rydym yn
ddiolchgar am eich cydweithrediad parhaus.
“Os gofynnir i chi hunanynysu, dylech hefyd
gydymffurfio â'r gofyniad hwn er mwyn atal y feirws rhag lledaenu ymhellach.
“Mae olrheinwyr yn staff hyfforddedig a bydd yr
wybodaeth bersonol rydych chi'n ei darparu yn cael ei thrin yn unol â
rheoliadau diogelu data ac ni fydd yn cael ei rhannu'n eang.
“Dros yr wythnosau diwethaf, mae Iechyd
Cyhoeddus Cymru wedi bod yn sefydlu’r dulliau a’r arweiniad ar gyfer sut y bydd
olrhain cysylltiadau yn gweithredu.
Byddwn yn parhau i weithio'n agos i gefnogi byrddau iechyd lleol ac
awdurdodau lleol i olrhain cysylltiadau.
“Mae trefniadau cyfyngiadau symud diwygiedig
Llywodraeth Cymru hefyd yn parhau. Gall pobl o ddau gartref gwahanol yn yr un
ardal leol gwrdd yn yr awyr agored, ar yr amod eu bod yn parhau i gynnal
pellter cymdeithasol a hylendid dwylo llym.
“Mae’r
cyhoeddiad yn ychwanegu na ddylai pobl, fel rheol gyffredinol, deithio mwy na
phum milltir o’u cartrefi. Bydd hyn yn helpu i leihau'r risg y bydd
coronafeirws yn lledaenu wrth i bobl ddechrau teithio mwy.
“Mae’r
trefniadau cyfyngiadau symud diwygiedig hefyd yn berthnasol i bobl yng Nghymru
y dywedwyd wrthynt am ‘warchod’ eu hunain rhag y feirws. Gallant fynd y tu allan a chwrdd â phobl o
gartref arall, ar yr amod eu bod yn cadw pellter dau fetr.
Bydd llacio’r mesurau cyfyngiadau symud yn y dyfodol hefyd yn dibynnu ar
bawb yn dilyn y cyngor a nodir yn y strategaeth ‘Profi, Monitro, Olrhain’, gan
gynnwys hunanynysu pan fo angen.
“Mae
gwybodaeth am symptomau Coronafeirws Newydd (COVID-19) i gadw llygad amdanynt
ar gael ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru, neu gall aelodau'r cyhoedd ddefnyddio gwiriwr
symptomau GIG Cymru.
“Gall
unrhyw un sy’n profi symptomau Coronafeirws Newydd (COVID-19) nawr wneud cais
am becyn prawf cartref gan ddefnyddio porth ar-lein newydd y DU. I gael rhagor
o wybodaeth a dolen i'r wefan archebu, ewch i: www.llyw.cymru/coronafeirws
neu www.gov.wales/coronavirus.
Cefnogir hyn gan wasanaeth ffôn 119 cenedlaethol, lle gall pobl hefyd archebu
prawf cartref.
“Rydym
yn annog pawb i lawrlwytho’r ap Astudio Symptomau Coronafeirws Newydd
(COVID-19), a dderbyniodd gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru. Mae'r ap yn caniatáu
i ddefnyddwyr logio symptomau’n ddyddiol i helpu i adeiladu darlun cliriach o
sut mae'r feirws yn effeithio ar bobl. Am ragor o wybodaeth, gan gynnwys sut i
lawrlwytho'r ap, ewch i covid.joinzoe.com.
“Ni
ddylai unrhyw un yr amheuir bod ganddo/ganddi salwch coronafeirws fynd i
bractis meddyg teulu, fferyllfa nac ysbyty. Dim ond os yw'n teimlo na all
ymdopi â'i symptomau gartref, fod ei gyflwr yn gwaethygu, neu os nad yw ei
symptomau’n gwella ar ôl saith niwrnod y dylai gysylltu â NHS 111.
“Peidiwch
â ffonio 999 oni bai eich bod yn profi argyfwng sy’n peryglu bywyd. Peidiwch â
ffonio 999 dim ond oherwydd eich bod yn aros i 111 ateb eich galwad ffôn. Rydym
yn deall bod llinellau 111 yn brysur, ond bydd rhywun yn ateb eich galwad ar ôl
i chi aros.
“Hoffwn
hefyd atgyfnerthu’r neges gan GIG Cymru fod gwasanaethau gofal brys ar gyfer
iechyd meddwl ac iechyd corfforol ar agor o hyd.
“I rieni, os yw'ch plentyn yn sâl a'ch bod yn pryderu,
dylech ofyn am help. Os oes gennych boen deintyddol brys, dylech ddal i
ffonio'ch deintydd. Os oes gennych broblem iechyd sy'n eich poeni ac nad yw’n
mynd i ffwrdd, dylech ffonio'ch practis meddyg teulu. Os ydych chi, neu aelod
o'r teulu, yn ddifrifol wael neu wedi'ch anafu, dylech ddeialu 999 neu fynd
i'ch Adran Achosion Brys agosaf.”