Public Health Wales statement on Novel Coronavirus (COVID-19) outbreak
This statement will be updated daily at 2pm
Updated: 2:00pm Friday 5 June
NOTE: Detailed
information on new cases of Novel Coronavirus (COVID-19) in Wales is now
available on our user-friendly data dashboard on the Public Health Wales website.
Dr Robin
Howe, Incident Director for the Novel Coronavirus (COVID-19) outbreak response at Public Health
Wales, said:
“Today, our data dashboard will be
updated to include the number of deaths reported in Wales by the Office of
National Statistics (ONS).
“This data is different to the
information we already publish because it shows deaths by area of residence,
and not by hospital location. This addresses the current under-reporting of
deaths in areas where there are no acute hospitals. The Office of National Statistics data does not
require a positive test result for Novel Coronavirus (COVID-19) to be the
registered cause of death, but is based on information provided in the death
certificate where in some cases the certifying doctor suspected the death
involved Novel Coronavirus (COVID-19) but was not certain, for example, because
no test was done.
“Because this data is reported
weekly by the Office of National Statistics it will be updated on our dashboard on a weekly basis on
Fridays. Today’s update will be to the week ending 22nd May. Figures may differ
slightly between those published by Public Health Wales due to different
methodologies.
“Public
Health Wales welcomes increased testing resulting from Welsh participation in
the UK-wide system.
“From Thursday 4 June, Public Health Wales is reporting
the number of tests for Novel Coronavirus (COVID-19) undertaken on Welsh
residents in Non-NHS Wales laboratories.
“These laboratories were established to support NHS
laboratories in increasing COVID-19 testing capacity e.g. UK Lighthouse
laboratories. They are currently
receiving samples from a number of testing sites, such as the COVID-19
drive-through testing centres in England and from home testing kits.
“Whilst we have prioritised publishing national level
figures from this dataset, we are currently working through data issues with NHS
Wales Informatics Service (NWIS) and Welsh Government and plan to publish at
Health Board and Local Authority level. We expect these testing figures to
increase as additional home and community testing increases amongst Welsh
residents over the next few weeks.
“Public Health Wales is currently undertaking work to
review this data and determine how this links with our existing data from tests
undertaken in NHS laboratories in Wales.
Whilst this work is ongoing, these figures have not been incorporated
into any other outputs including the headline number of cases.
“Contact
tracing continues in Wales as part of the Welsh Government’s ‘Test, Trace,
Protect’ strategy. Contact tracing is
the process of identifying people who have come in contact with an individual
with Novel Coronavirus (COVID-19) in order to prevent the risk of others
spreading the infection in our communities.
“Anyone
who has a positive Novel Coronavirus (COVID-19) test will be contacted by a
team of contact tracers, and asked for details of everyone they have had close
contact with while they have had symptoms.
“Please
keep a note of your activities so you can easily remember your whereabouts on a
given day, along with who were in contact with. You do not need to have any
concerns about providing names to the tracing team. This is for everyone’s
benefit and we are grateful for your continued cooperation.
“If
you are asked to self-isolate, you should also comply with this request to
prevent further spread of the virus.
“Tracers
are trained staff and personal information that you provide will handled in
line with data protection regulations and will not be shared widely.
“Over
the last few weeks, Public Health Wales has been setting up the methods and
guidance for how contact tracing will operate. We will continue to work closely to support local
health boards and local authorities in delivering contact tracing.
“The
Welsh Government’s revised lockdown arrangements also continue. People from two
different households in the same local area can meet up outdoors, provided they
continue to maintain social distancing and strict hand hygiene.
“The announcement adds that, as a general rule,
people should not travel more than five miles from home. This will help to
reduce the risk of coronavirus spreading as people begin to travel more.
“Revised lockdown arrangements also apply to people
in Wales who have been told to ‘shield’ from the virus. They are able to go outside and meet people
from another household, provided they keep a two-metre distance.
“Future relaxation of lockdown measures will also be dependent on everyone following advice set out
in the ‘Test, Trace, Protect’ strategy, including self-isolating when required.
“Information about the symptoms of
Novel Coronavirus (COVID-19) to look out for is available on the Public Health
Wales website, or members of the public can use the NHS Wales symptom checker.
“Anyone experiencing Novel
Coronavirus (COVID-19) symptoms can now apply for a home testing kit using the
new UK online portal. For further information and a link to the booking
website, visit: www.gov.wales/coronavirus or www.llyw.cymru/coronafeirws. This will be supported by a
national 119 phone service, through which people can also order a home test.
“We are encouraging everyone to
download the Novel Coronavirus (COVID-19) Symptom Study app, which has been
supported by Welsh Government. The app allows users to log daily symptoms to
help build a clearer picture of how the virus is affecting people. For more
information, including how to download the app, visit
covid.joinzoe.com.
“Anyone with a suspected coronavirus
illness should not go to a GP surgery, pharmacy or hospital. They should
only contact NHS 111 if they feel they cannot cope with their symptoms at home,
their condition gets worse, or their symptoms do not get better after seven
days.
“Only call 999 if you are
experiencing a life-threatening emergency, do not call 999 just because you are
on hold to 111. We appreciate that 111 lines are busy, but you will get through
after a wait.
"We also want to reinforce the
message from NHS Wales that urgent and emergency care services for physical and
mental health are still open and accessible.
“For parents, if your child is
unwell and you are concerned you should seek help. If you have urgent dental
pain you should still call your dentist. If you have a health complaint that is
worrying you and won’t go away you should call your GP practice. If you or a
family member are seriously ill or injured you should dial 999 or attend your
nearest Emergency Department.”
Datganiad Cymraeg:
Diweddarwyd: 2:00yp Dydd Gwener 5 Mehefin
NODER: Mae gwybodaeth fanwl am achosion newydd o Coronafeirws Newydd (COVID-19) yng Nghymru bellach ar gael ar ein dangosfwrdd data hawdd ei ddefnyddio ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Dywedodd Dr Robin Howe, Cyfarwyddwr Digwyddiad ar gyfer yr ymateb i'r achos o'r Coronafeirws Newydd (COVID-19) yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:
“Heddiw, bydd ein dangosfwrdd data yn cael ei ddiweddaru i gynnwys nifer y marwolaethau a adroddwyd amdanynt yng Nghymru gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.
“Mae'r data hyn yn wahanol i'r wybodaeth rydyn ni eisoes yn ei chyhoeddi oherwydd eu bod yn dangos marwolaethau yn ôl ardal breswyl, ac nid yn ôl lleoliad ysbyty. Mae hyn yn mynd i'r afael â'r tangofnodi cyfredol o farwolaethau mewn ardaloedd lle nad oes ysbytai acíwt. Nid yw data'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn gofyn am ganlyniad prawf positif i Coronafeirws Newydd (COVID-19) fod yn achos marwolaeth cofrestredig, ond mae'n seiliedig ar wybodaeth sy'n cael ei darparu ar y dystysgrif marwolaeth, lle, mewn rhai achosion, bu’r meddyg ardystio yn amau bod Coronafeirws Newydd (COVID-19) yn bresennol, ond nid oedd yn sicr, oherwydd na wnaed prawf, er enghraifft.
“Oherwydd bod yr Swyddfa Ystadegau Gwladol yn adrodd ar y data hyn yn wythnosol, bydd diweddariad ar ein dangosfwrdd ar ddydd Gwener bob wythnos. Bydd y diweddariad heddiw yn cwmpasu hyd at yr wythnos a ddaeth i ben ar 22 Mai. Mae’n bosibl y bydd y ffigurau ychydig yn wahanol i’r rhai a gyhoeddwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru oherwydd gwahanol fethodolegau.
“Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn croesawu cynnal rhagor o brofion o ganlyniad i gyfranogiad Cymru yn y system ledled y DU.
“O ddydd Iau, 4 Mehefin, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn adrodd ar nifer y profion ar gyfer Coronafeirws Newydd (COVID-19) a gynhelir ar breswylwyr Cymru mewn labordai nad ydynt yn eiddo i GIG Cymru.
“Sefydlwyd y labordai hyn i gefnogi labordai’r GIG er mwyn cynyddu’r capasiti profi ar gyfer COVID-19 e.e. labordai UK Lighthouse. Ar hyn o bryd, maen nhw’n derbyn samplau o nifer o safleoedd profi, fel canolfannau profi am COVID-19 drwy ffenestr y car yn Lloegr, yn ogystal â phecynnau profi yn y cartref.
“Er ein bod wedi blaenoriaethu cyhoeddi ffigurau o’r set ddata hon ar lefel genedlaethol, rydym yn gweithio drwy faterion data gyda Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru a Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd ac rydym yn bwriadu cyhoeddi ffigurau ar lefel Bwrdd Iechyd ac ar lefel Awdurdod Lleol. Rydym yn disgwyl i’r ffigurau profi hyn gynyddu wrth i brofi yn y cartref ac yn y gymuned gynyddu ymysg preswylwyr Cymru dros yr ychydig wythnosau nesaf.
“Ar hyn o bryd, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio i adolygu’r data hyn a phennu sut mae hyn yn gysylltiedig â’r data sydd gennym eisoes o brofion a gynhaliwyd yn labordai GIG Cymru. Tra mae’r gwaith hwn yn mynd rhagddo, nid yw’r ffigurau hyn wedi’u hymgorffori i unrhyw allbynnau eraill, gan gynnwys nifer yr achosion swyddogol.
“Mae olrhain cysylltiadau yn parhau yng Nghymru fel rhan o strategaeth ‘Profi, Monitro, Olrhain’ Llywodraeth Cymru. Olrhain cysylltiadau yw'r broses o adnabod pobl sydd wedi dod i gysylltiad ag unigolyn â Coronafeirws Newydd (COVID-19) er mwyn atal y risg y bydd eraill yn lledaenu'r haint yn ein cymunedau.
“Bydd tîm o olrheinwyr cysylltiadau yn cysylltu ag unrhyw un sydd wedi cael prawf positif am Coronafeirws Newydd (COVID-19), a gofynnir am fanylion pawb y mae wedi bod mewn cysylltiad agos â nhw tra bod symptomau gyda nhw.
“Cadwch nodyn o'ch gweithgareddau er mwyn i chi allu cofio’n hawdd ble oeddech chi ar ddiwrnod penodol, ynghyd â gyda phwy yr oeddech mewn cysylltiad â nhw. Nid oes angen i chi fod ag unrhyw bryderon ynghylch darparu enwau i'r tîm olrhain. Mae hyn er budd pawb ac rydym yn ddiolchgar am eich cydweithrediad parhaus.
“Os gofynnir i chi hunanynysu, dylech hefyd gydymffurfio â'r gofyniad hwn er mwyn atal y feirws rhag lledaenu ymhellach.
“Mae olrheinwyr yn staff hyfforddedig a bydd yr wybodaeth bersonol rydych chi'n ei darparu yn cael ei thrin yn unol â rheoliadau diogelu data ac ni fydd yn cael ei rhannu'n eang.
“Dros yr wythnosau diwethaf, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi bod yn sefydlu’r dulliau a’r arweiniad ar gyfer sut y bydd olrhain cysylltiadau yn gweithredu. Byddwn yn parhau i weithio'n agos i gefnogi byrddau iechyd lleol ac awdurdodau lleol i olrhain cysylltiadau.
“Mae trefniadau cyfyngiadau symud diwygiedig Llywodraeth Cymru hefyd yn parhau. Gall pobl o ddau gartref gwahanol yn yr un ardal leol gwrdd yn yr awyr agored, ar yr amod eu bod yn parhau i gynnal pellter cymdeithasol a hylendid dwylo llym.
“Mae’r cyhoeddiad yn ychwanegu na ddylai pobl, fel rheol gyffredinol, deithio mwy na phum milltir o’u cartrefi. Bydd hyn yn helpu i leihau'r risg y bydd coronafeirws yn lledaenu wrth i bobl ddechrau teithio mwy.
“Mae’r trefniadau cyfyngiadau symud diwygiedig hefyd yn berthnasol i bobl yng Nghymru y dywedwyd wrthynt am ‘warchod’ eu hunain rhag y feirws. Gallant fynd y tu allan a chwrdd â phobl o gartref arall, ar yr amod eu bod yn cadw pellter dau fetr.
Bydd llacio’r mesurau cyfyngiadau symud yn y dyfodol hefyd yn dibynnu ar bawb yn dilyn y cyngor a nodir yn y strategaeth ‘Profi, Monitro, Olrhain’, gan gynnwys hunanynysu pan fo angen.
“Mae gwybodaeth am symptomau Coronafeirws Newydd (COVID-19) i gadw llygad amdanynt ar gael ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru, neu gall aelodau'r cyhoedd ddefnyddio gwiriwr symptomau GIG Cymru.
“Gall unrhyw un sy’n profi symptomau Coronafeirws Newydd (COVID-19) nawr wneud cais am becyn prawf cartref gan ddefnyddio porth ar-lein newydd y DU. I gael rhagor o wybodaeth a dolen i'r wefan archebu, ewch i: www.llyw.cymru/coronafeirws neu www.gov.wales/coronavirus. Cefnogir hyn gan wasanaeth ffôn 119 cenedlaethol, lle gall pobl hefyd archebu prawf cartref.
“Rydym yn annog pawb i lawrlwytho’r ap Astudio Symptomau Coronafeirws Newydd (COVID-19), a dderbyniodd gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru. Mae'r ap yn caniatáu i ddefnyddwyr logio symptomau’n ddyddiol i helpu i adeiladu darlun cliriach o sut mae'r feirws yn effeithio ar bobl. Am ragor o wybodaeth, gan gynnwys sut i lawrlwytho'r ap, ewch i covid.joinzoe.com.
“Ni ddylai unrhyw un yr amheuir bod ganddo/ganddi salwch coronafeirws fynd i bractis meddyg teulu, fferyllfa nac ysbyty. Dim ond os yw'n teimlo na all ymdopi â'i symptomau gartref, fod ei gyflwr yn gwaethygu, neu os nad yw ei symptomau’n gwella ar ôl saith niwrnod y dylai gysylltu â NHS 111.
“Peidiwch â ffonio 999 oni bai eich bod yn profi argyfwng sy’n peryglu bywyd. Peidiwch â ffonio 999 dim ond oherwydd eich bod yn aros i 111 ateb eich galwad ffôn. Rydym yn deall bod llinellau 111 yn brysur, ond bydd rhywun yn ateb eich galwad ar ôl i chi aros.
“Hoffwn hefyd atgyfnerthu’r neges gan GIG Cymru fod gwasanaethau gofal brys ar gyfer iechyd meddwl ac iechyd corfforol ar agor o hyd.
“I rieni, os yw'ch plentyn yn sâl a'ch bod yn pryderu, dylech ofyn am help. Os oes gennych boen deintyddol brys, dylech ddal i ffonio'ch deintydd. Os oes gennych broblem iechyd sy'n eich poeni ac nad yw’n mynd i ffwrdd, dylech ffonio'ch practis meddyg teulu. Os ydych chi, neu aelod o'r teulu, yn ddifrifol wael neu wedi'ch anafu, dylech ddeialu 999 neu fynd i'ch Adran Achosion Brys agosaf.”