Public Health Wales statement on Novel Coronavirus (COVID-19) outbreak
This statement will be updated daily at 2pm
Updated: 2:00pm Sunday 14 June
NOTE: Detailed
information on new cases of Novel Coronavirus (COVID-19) in Wales is now
available on our user-friendly data dashboard on the Public Health Wales website.
Dr Giri Shankar, Incident Director for the Novel Coronavirus (COVID-19)
outbreak response at Public Health Wales, said:
“Public Health Wales welcomes Welsh
Government’s announcement that they are following updated advice from the World
Health Organisation (WHO) recommending people in Wales wear three-layer face
coverings in situations where social distancing of two metres is not possible
or challenging, such as on public transport.
“The evidence remains clear that
maintaining a two-metre distance, good hand hygiene and hygiene when coughing
and sneezing is the most effective way
to protect yourself and others from contracting Novel Coronavirus (COVID-19),
but the updated guidance from the WHO says three-layer face coverings, if worn
correctly, could help provide some control of the virus in specific
circumstances.
“The WHO recommends a minimum of
three layers in a face covering, which should include:
- An inner layer of absorbent material, such as cotton
- A
middle layer of non-woven material, such as polypropylene
- An
outer layer of non-absorbent material, such as polyester or polyester-blend
“The wearing of face coverings is
not mandatory, but Public Health Wales encourages people to do this for the
benefit of themselves and others.
“This updated advice only applies to
people who are not showing symptoms of Novel Coronavirus (COVID-19). People who
are symptomatic must self-isolate for seven days and get a test, as set out in
existing guidance. Unless the test shows a negative result, they must not go
out during this time, even with a face covering or mask.
“Any international traveller
entering the UK will need to quarantine for the first 14 days upon arrival
(known as ‘self-isolating’). This is because it can take up to 14 days for Novel
Coronavirus (COVID-19) symptoms to appear.
“Before their arrival, international
travellers must provide contact details, including the address where they will
self-isolate. Public Health Wales will write registered letters to these
identified individuals. If the letters are returned, one phone call will be
made.
“Public Health Wales requests
international travellers cooperate in providing accurate contact details and
follow the 14 day self-isolating advice.
“Contact tracing continues in Wales as part of the
Welsh Government’s ‘Test, Trace, Protect’ strategy. Contact tracing is the
process of identifying people who have come in contact with an individual with Novel
Coronavirus (COVID-19) in order to prevent the risk of others spreading the
infection in our communities.
“Anyone
who has a positive Novel Coronavirus (COVID-19) test will be contacted by a
team of contact tracers, and asked for details of everyone they have had close
contact with while they have had symptoms.
“Please
keep a note of your activities so you can easily remember your whereabouts on a
given day, along with who were in contact with. This is for everyone’s benefit
and we are grateful for your continued cooperation.
“If
you are asked to self-isolate, you should also comply with this request to
prevent further spread of the virus.
“You
do not need to have any concerns about providing names to the tracing team. Tracers
are trained staff and personal information that you provide will handled in
line with data protection regulations and will not be shared widely.
“The
Welsh Government’s revised lockdown arrangements also continue. People from two
different households in the same local area can meet up outdoors, provided they
continue to maintain social distancing and strict hand hygiene.
“The announcement adds that, as a general rule,
people should not travel more than five miles from home. This will help to
reduce the risk of coronavirus spreading as people begin to travel more.
“Revised lockdown arrangements also apply to people
in Wales who have been told to ‘shield’ from the virus. They are able to go
outside and meet people from another household, provided they keep a two-metre
distance.
“Future relaxation of lockdown measures will also be dependent on everyone following advice set out
in the ‘Test, Trace, Protect’ strategy, including self-isolating when required.
“Information about the symptoms of
Novel Coronavirus (COVID-19) to look out for is available on the Public Health
Wales website, or members of the public can use the NHS Wales symptom checker.
“Anyone experiencing Novel
Coronavirus (COVID-19) symptoms can now apply for a home testing kit using the
new UK online portal. For further information and a link to the booking
website, visit: www.gov.wales/coronavirus or www.llyw.cymru/coronafeirws. This will be supported by a national
119 phone service, through which people can also order a home test.
“We are encouraging everyone to
download the Novel Coronavirus (COVID-19) Symptom Study app, which has been
supported by Welsh Government. The app allows users to log daily symptoms to
help build a clearer picture of how the virus is affecting people. For more
information, including how to download the app, visit
covid.joinzoe.com.
“Anyone with a suspected coronavirus
illness should not go to a GP surgery, pharmacy or hospital. They should only
contact NHS 111 if they feel they cannot cope with their symptoms at home,
their condition gets worse, or their symptoms do not get better after seven
days.
“Only call 999 if you are
experiencing a life-threatening emergency, do not call 999 just because you are
on hold to 111. We appreciate that 111 lines are busy, but you will get through
after a wait.
"We also want to reinforce the
message from NHS Wales that urgent and emergency care services for physical and
mental health are still open and accessible.
“For parents, if your child is
unwell and you are concerned you should seek help. If you have urgent dental
pain you should still call your dentist. If you have a health complaint that is
worrying you and won’t go away you should call your GP practice. If you or a
family member are seriously ill or injured you should dial 999 or attend your
nearest Emergency Department.”
Datganiad Cymraeg:
Diweddarwyd: 2:00yp Dydd Sul 14 Mehefin
NODER: Mae gwybodaeth fanwl am achosion newydd o Coronafeirws Newydd
(COVID-19) yng Nghymru bellach ar gael ar ein dangosfwrdd data hawdd ei
ddefnyddio ar wefan
Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Dywedodd
Dr Giri Shankar, Cyfarwyddwr Digwyddiad ar
gyfer yr ymateb i'r achos o'r Coronafeirws Newydd (COVID-19) yn Iechyd
Cyhoeddus Cymru:
“Mae
Iechyd Cyhoeddus Cymru yn croesawu cyhoeddiad Llywodraeth Cymru ei bod yn dilyn
cyngor wedi’i ddiweddaru gan Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) yn argymell bod pobl
yng Nghymru yn gwisgo gorchuddion wyneb tair haen mewn sefyllfaoedd lle nad yw
cadw pellter cymdeithasol o ddau fetr yn bosibl, neu’n heriol, ar drafnidiaeth
gyhoeddus, er enghraifft.
“Mae’r
dystiolaeth yn parhau i fod yn glir mai cynnal pellter o ddau fetr, hylendid
dwylo da a hylendid wrth besychu neu disian yw’r ffordd fwyaf effeithiol o
amddiffyn eich hun ac eraill rhag cael Coronafeirws Newydd (COVID-19), ond
dywed y canllawiau sydd wedi’u diweddaru gan Sefydliad Iechyd y Byd y gallai
gorchuddion wyneb tair haen helpu, os byddant yn cael eu gwisgo’n gywir, i
reoli’r feirws mewn amgylchiadau penodol.
“Mae
Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) yn argymell y dylai gorchudd wyneb gynnwys o leiaf
tair haen, a ddylai gynnwys:
- Haen fewnol o ddeunydd amsugnol, fel cotwm
- Haen ganol o ddeunydd heb ei wehyddu, fel polypropylene
- Haen allanol o ddeunydd nad yw'n amsugnol, fel polyester neu gyfuniad o bolyester
“Nid
yw gwisgo gorchuddion wyneb yn orfodol, ond mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn annog
pobl i wneud hyn er eu budd eu hunain a phobl eraill.
“Mae'r
cyngor wedi'i ddiweddaru hwn yn berthnasol i bobl nad ydyn nhw'n dangos
symptomau Coronafeirws Newydd (COVID-19) yn unig. Rhaid i bobl sy'n arddangos
symptomau hunanynysu am saith diwrnod a chael prawf, fel y nodir yn y
canllawiau presennol. Oni bai bod canlyniad y prawf yn negatif, rhaid iddynt
beidio â mynd allan yn ystod y cyfnod hwn, hyd yn oed gyda gorchudd wyneb neu
fasg.
“Bydd
angen i unrhyw deithiwr rhyngwladol sy’n dod i mewn i’r DU osod ei hun dan
gwarantin am y 14 diwrnod cyntaf ar ôl cyrraedd (a elwir yn ‘hunanynysu’). Mae
hyn oherwydd y gall gymryd hyd at 14 diwrnod i symptomau Coronafeirws Newydd
(COVID-19) ymddangos.
“Cyn
iddynt gyrraedd, rhaid i deithwyr rhyngwladol ddarparu manylion cyswllt, gan
gynnwys y cyfeiriad lle byddant yn hunanynysu. Bydd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn
ysgrifennu llythyrau cofrestredig at yr unigolion dynodedig hyn. Os dychwelir y
llythyrau, bydd un galwad ffôn yn cael ei gwneud.
“Mae
Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gofyn i deithwyr rhyngwladol gydweithredu i ddarparu
manylion cyswllt cywir a dilyn y cyngor i hunanynysu am 14 diwrnod.
“Mae
olrhain cysylltiadau yn parhau yng Nghymru fel rhan o strategaeth ‘Profi,
Monitro, Olrhain’ Llywodraeth Cymru. Olrhain cysylltiadau yw'r broses o adnabod
pobl sydd wedi dod i gysylltiad ag unigolyn â'r Coronafeirws Newydd (COVID-19) er
mwyn atal y risg y bydd eraill yn lledaenu'r haint yn ein cymunedau.
“Bydd tîm o olrheinwyr cysylltiadau yn cysylltu
ag unrhyw un sydd wedi cael prawf positif am Coronafeirws Newydd (COVID-19), a
gofynnir am fanylion pawb y mae wedi bod mewn cysylltiad agos â nhw tra bod
symptomau gyda nhw.
“Cadwch nodyn o'ch gweithgareddau er mwyn i chi
allu cofio’n hawdd ble oeddech chi ar ddiwrnod penodol, ynghyd â gyda phwy yr
oeddech mewn cysylltiad â nhw. Mae hyn er budd pawb ac rydym yn ddiolchgar am
eich cydweithrediad parhaus.
“Os gofynnir i chi hunanynysu, dylech hefyd
gydymffurfio â'r gofyniad hwn er mwyn atal y feirws rhag lledaenu ymhellach.
“Nid oes angen i chi fod ag unrhyw bryderon
ynghylch darparu enwau i'r tîm olrhain. Mae olrheinwyr yn staff hyfforddedig a
bydd yr wybodaeth bersonol rydych chi'n ei darparu yn cael ei thrin yn unol â
rheoliadau diogelu data ac ni fydd yn cael ei rhannu'n eang.
“Mae trefniadau cyfyngiadau symud diwygiedig
Llywodraeth Cymru hefyd yn parhau. Gall pobl o ddau gartref gwahanol yn yr un
ardal leol gwrdd yn yr awyr agored, ar yr amod eu bod yn parhau i gynnal
pellter cymdeithasol a hylendid dwylo llym.
“Mae’r
cyhoeddiad yn ychwanegu na ddylai pobl, fel rheol gyffredinol, deithio mwy na
phum milltir o’u cartrefi. Bydd hyn yn helpu i leihau'r risg y bydd
coronafeirws yn lledaenu wrth i bobl ddechrau teithio mwy.
“Mae’r
trefniadau cyfyngiadau symud diwygiedig hefyd yn berthnasol i bobl yng Nghymru
y dywedwyd wrthynt am ‘warchod’ eu hunain rhag y feirws. Gallant fynd y tu
allan a chwrdd â phobl o gartref arall, ar yr amod eu bod yn cadw pellter dau
fetr.
"Bydd llacio’r mesurau cyfyngiadau symud yn y dyfodol hefyd yn dibynnu ar
bawb yn dilyn y cyngor a nodir yn y strategaeth ‘Profi, Monitro, Olrhain’, gan
gynnwys hunanynysu pan fo angen.
“Mae
gwybodaeth am symptomau Coronafeirws Newydd (COVID-19) i gadw llygad amdanynt
ar gael ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru, neu gall aelodau'r cyhoedd ddefnyddio gwiriwr
symptomau GIG Cymru.
“Gall
unrhyw un sy’n profi symptomau Coronafeirws Newydd (COVID-19) nawr wneud cais
am becyn prawf cartref gan ddefnyddio porth ar-lein newydd y DU. I gael rhagor
o wybodaeth a dolen i'r wefan archebu, ewch i: www.llyw.cymru/coronafeirws
neu www.gov.wales/coronavirus.
Cefnogir hyn gan wasanaeth ffôn 119 cenedlaethol, lle gall pobl hefyd archebu
prawf cartref.
“Rydym
yn annog pawb i lawrlwytho’r ap Astudio Symptomau Coronafeirws Newydd
(COVID-19), a dderbyniodd gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru. Mae'r ap yn caniatáu
i ddefnyddwyr logio symptomau’n ddyddiol i helpu i adeiladu darlun cliriach o
sut mae'r feirws yn effeithio ar bobl. Am ragor o wybodaeth, gan gynnwys sut i
lawrlwytho'r ap, ewch i covid.joinzoe.com.
“Ni
ddylai unrhyw un yr amheuir bod ganddo/ganddi salwch coronafeirws fynd i
bractis meddyg teulu, fferyllfa nac ysbyty. Dim ond os yw'n teimlo na all
ymdopi â'i symptomau gartref, fod ei gyflwr yn gwaethygu, neu os nad yw ei
symptomau’n gwella ar ôl saith niwrnod y dylai gysylltu â NHS 111.
“Peidiwch
â ffonio 999 oni bai eich bod yn profi argyfwng sy’n peryglu bywyd. Peidiwch â ffonio 999 dim ond oherwydd eich bod yn aros i 111 ateb eich galwad ffôn. Rydym
yn deall bod llinellau 111 yn brysur, ond bydd rhywun yn ateb eich galwad ar ôl
i chi aros.
“Hoffwn
hefyd atgyfnerthu’r neges gan GIG Cymru fod gwasanaethau gofal brys ar gyfer
iechyd meddwl ac iechyd corfforol ar agor o hyd.
“I
rieni, os yw'ch plentyn yn sâl a'ch bod yn pryderu, dylech ofyn am help. Os oes
gennych boen deintyddol brys, dylech ddal i ffonio'ch deintydd. Os oes gennych
broblem iechyd sy'n eich poeni ac nad yw’n mynd i ffwrdd, dylech ffonio'ch
practis meddyg teulu. Os ydych chi, neu aelod o'r teulu, yn ddifrifol wael neu
wedi'ch anafu, dylech ddeialu 999 neu fynd i'ch Adran Achosion Brys agosaf.”