Public Health Wales statement on Novel Coronavirus (COVID-19) outbreak
This statement will be updated daily at 2pm
Updated: 2:00pm Tuesday 23 June
NOTE: As part of the ‘Test, Trace, Protect’
strategy, Public Health Wales is undertaking focused sampling and testing
programmes in response to local outbreaks.
As expected, this focused testing will inevitably result in higher
numbers of positive tests included in the daily numbers for Wales. Details of local outbreaks will be outlined
in separate communications.
Dr Giri Shankar, Incident Director for the
Novel Coronavirus (COVID-19) outbreak response at Public Health Wales, said:
“Non-essential
retailers in Wales are permitted to open from yesterday (22 June), providing
that they are able to comply with social distancing measures.
“Public Health Wales welcomes the relaxation of
lockdown measures, but reminds the public that we are not yet back to business
as usual.
“We all have a vital role in preventing the
spread of Coronavirus by always sticking social distancing guidelines – that’s
staying two metres away from others – and washing hands regularly.
“While shopping, members of the public should
use contactless payment where possible, and reduce contact with goods. Where available, use sanitiser outside your
home, especially as you enter a building and after you have had contact with
surfaces. Avoid touching your face.
“Further relaxation of lockdown measures, including
the lifting of the restriction on non-essential travel to around five miles, is
planned for Monday 6 July, providing that community transmission continues to
reduce.
“It is important to note that until a further
announcement is made by Welsh Government, then the current measures remain in
place - as a general rule, people should not travel more than five miles from
home. This will help to reduce the risk of coronavirus spreading as people
begin to travel more.
“Future relaxation of lockdown measures will
also be dependent on everyone following advice set out in the ‘Test, Trace,
Protect’ strategy, including self-isolating when required. Complying with
social distancing and hygiene measures remain extremely important.
“Revised lockdown arrangements also apply to
people in Wales who have been told to ‘shield’ from the virus. They are able to
go outside and meet people from another household, provided they keep a
two-metre distance.
“Contact tracing continues in Wales as part of
the Welsh Government’s ‘Test, Trace, Protect’ strategy. Contact tracing is the
process of identifying people who have come in contact with an individual with
Novel Coronavirus (COVID-19) in order to prevent the risk of others spreading
the infection in our communities.
“Anyone who has a positive Novel Coronavirus
(COVID-19) test will be contacted by a team of contact tracers, and asked for
details of everyone they have had close contact with while they have had
symptoms.
“Please keep a note of your activities so you
can easily remember your whereabouts on a given day, along with who were in
contact with. This is for everyone’s benefit and we are grateful for your
continued cooperation.
“If you are asked to self-isolate, you should
also comply with this request to prevent further spread of the virus.
“You do not need to have any concerns about
providing names to the tracing team. Tracers are trained staff and personal
information that you provide will handled in line with data protection
regulations and will not be shared widely.
“Information about the symptoms of Novel
Coronavirus (COVID-19) to look out for is available on the Public Health Wales
website, or members of the public can use the NHS Wales symptom checker.
“Anyone experiencing Novel Coronavirus
(COVID-19) symptoms can now apply for a home testing kit using the new UK
online portal. For further information and a link to the booking website,
visit: www.gov.wales/coronavirus or www.llyw.cymru/coronafeirws. This will be supported by a national 119 phone
service, through which people can also order a home test.
“We are encouraging everyone to download the
Novel Coronavirus (COVID-19) Symptom Study app, which has been supported by
Welsh Government. “The app allows users to log daily symptoms to help build a
clearer picture of how the virus is affecting people. For more information, including
how to download the app, visit covid.joinzoe.com.
“Anyone with a suspected coronavirus illness
should not go to a GP surgery, pharmacy or hospital. They should only contact
NHS 111 if they feel they cannot cope with their symptoms at home, their
condition gets worse, or their symptoms do not get better after seven days.
“Only call 999 if you are experiencing a
life-threatening emergency, do not call 999 just because you are on hold to
111. We appreciate that 111 lines are busy, but you will get through after a
wait.
"We also want to reinforce the message from
NHS Wales that urgent and emergency care services for physical and mental
health are still open and accessible.
“For parents, if your child is unwell and you
are concerned you should seek help. If you have urgent dental pain you should
still call your dentist. If you have a health complaint that is worrying you
and won’t go away you should call your GP practice. If you or a family member
are seriously ill or injured you should dial 999 or attend your nearest
Emergency Department.”
Diweddarwyd: 2:00yp Dydd Mawrth 23 Mehefin - I ddilyn
NODER: Fel rhan o’r strategaeth ‘Profi, Olrhain,
Diogelu’, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ymgymryd â rhaglenni samplu a phrofi â
ffocws mewn ymateb i achosion lleol. Yn
ôl y disgwyl, mae'n anochel y bydd y profion â ffocws hyn yn arwain at gynnwys
niferoedd uwch o brofion positif yn niferoedd dyddiol Cymru. Amlinellir manylion am achosion lleol mewn
cyfathrebiadau ar wahân.
NODER:
Mae data profi Cymru wedi’u dan-adrodd heddiw oherwydd problemau technegol.
Rydym yn gweithio tuag at ddatrys hyn a bydd y canlyniadau hyn yn cael eu
cynnwys yn y ffigurau cyn gynted ag y bydd y broblem wedi'i datrys.
Dywedodd Dr Giri Shankar, Cyfarwyddwr Digwyddiad
ar gyfer yr ymateb i'r achos o'r Coronafeirws Newydd (COVID-19) yn Iechyd
Cyhoeddus Cymru:
“Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn croesawu
cyhoeddiad y Prif Weinidog ddydd Gwener bod manwerthwyr nad ydynt yn hanfodol
yn gallu agor o ddoe (ddydd Llun 22 Mehefin), ar yr amod eu bod yn gallu cydymffurfio â
mesurau cadw pellter cymdeithasol.
“Yn ogystal, dywed y cyhoeddiad
bod llacio’r mesurau cyfyngiadau symud ymhellach, gan gynnwys codi’r cyfyngiad
ar deithio nad yw’n hanfodol i oddeutu pum milltir, ar y gweill ar gyfer dydd
Llun 6 Gorffennaf, ar yr amod bod trosglwyddiad cymunedol yn parhau i
leihau.
“Mae’n bwysig nodi hyd nes y
gwneir cyhoeddiad pellach gan Lywodraeth Cymru, fod y mesurau cyfredol yn aros
mewn grym - fel rheol gyffredinol, ni ddylai pobl deithio mwy na phum milltir
o’u cartrefi. Bydd hyn yn helpu i leihau'r risg y bydd coronafeirws yn lledaenu
wrth i bobl ddechrau teithio mwy.
“Bydd llacio’r mesurau
cyfyngiadau symud yn y dyfodol hefyd yn dibynnu ar bawb yn dilyn y cyngor a
nodir yn y strategaeth ‘Profi, Monitro, Olrhain’, gan gynnwys hunanynysu pan fo
angen. Mae cydymffurfio â mesurau cadw pellter cymdeithasol a hylendid yn
parhau i fod yn hynod bwysig.
“Bydd rhaglenni sgrinio yng Nghymru
yn dechrau anfon gwahoddiadau a nodiadau atgoffa at unigolion cymwys eto, gan
ddechrau gyda Sgrinio Serfigol Cymru o ddiwedd mis Mehefin. Mae hyn yn dilyn
saib mewn sgrinio oherwydd pandemig y Coronafeirws Newydd (COVID-19).
“Rydyn ni wedi bod mewn cyfnod
digynsail, ac roedd oedi’r gwahoddiadau ar gyfer y rhaglenni hyn yn
argymhelliad anodd i ni ei wneud. Fodd bynnag, roedd yn rhaid i ni sicrhau bod
gwasanaethau'r GIG yn gallu canolbwyntio ar ymateb i bandemig y Coronafeirws
Newydd (COVID-19) fel blaenoriaeth, yn ogystal â lleihau'r angen i gyfranogwyr
deithio a chysylltiad posibl ag eraill pan oedd y pandemig ar ei anterth.
“Bydd gwahoddiadau a nodiadau
atgoffa i unigolion sydd bellach yn hwyr yn cael eu sgrinio yn cael eu hanfon
yn seiliedig ar flaenoriaeth glinigol.
“Mae’r trefniadau cyfyngiadau
symud diwygiedig hefyd yn berthnasol i bobl yng Nghymru y dywedwyd wrthynt am
‘warchod’ eu hunain rhag y feirws. Gallant fynd y tu allan a chwrdd â phobl o
gartref arall, ar yr amod eu bod yn cadw pellter dau fetr.
“Mae Lloegr wedi dechrau codi
rhai o’i chyfyngiadau symud ymhellach. Mae pobl sy'n byw ar eu pennau eu hunain
yn Lloegr hefyd yn gallu ffurfio swigen gefnogol gyda chartref arall bellach,
tra bo gofyn i unigolion sy'n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus bellach wisgo
gorchuddion wyneb. Nid yw'r trefniadau hyn yn berthnasol yng Nghymru.
“Mae olrhain cysylltiadau yn
parhau yng Nghymru fel rhan o strategaeth ‘Profi, Monitro, Olrhain’ Llywodraeth
Cymru. Olrhain cysylltiadau yw'r broses o adnabod pobl sydd wedi dod i
gysylltiad ag unigolyn â Coronafeirws Newydd (COVID-19) er mwyn atal y risg y
bydd eraill yn lledaenu'r haint yn ein cymunedau.
“Bydd tîm o olrheinwyr
cysylltiadau yn cysylltu ag unrhyw un sydd wedi cael prawf positif am
Coronafeirws Newydd (COVID-19), a gofynnir am fanylion pawb y mae wedi bod mewn
cysylltiad agos â nhw tra bod symptomau gyda nhw.
“Cadwch nodyn o'ch gweithgareddau
er mwyn i chi allu cofio’n hawdd ble oeddech chi ar ddiwrnod penodol, ynghyd â
gyda phwy yr oeddech mewn cysylltiad â nhw. Mae hyn er budd pawb ac rydym yn
ddiolchgar am eich cydweithrediad parhaus.
“Os gofynnir i chi hunanynysu,
dylech hefyd gydymffurfio â'r gofyniad hwn er mwyn atal y feirws rhag lledaenu
ymhellach.
“Nid oes angen i chi fod ag
unrhyw bryderon ynghylch darparu enwau i'r tîm olrhain. Mae olrheinwyr yn staff
hyfforddedig a bydd yr wybodaeth bersonol rydych chi'n ei darparu yn cael ei
thrin yn unol â rheoliadau diogelu data ac ni fydd yn cael ei rhannu'n eang.
“Mae gwybodaeth am symptomau
Coronafeirws Newydd (COVID-19) i gadw llygad amdanynt ar gael ar wefan Iechyd
Cyhoeddus Cymru, neu gall aelodau'r cyhoedd ddefnyddio gwiriwr
symptomau GIG
Cymru.
“Gall unrhyw un sy’n profi
symptomau Coronafeirws Newydd (COVID-19) nawr wneud cais am becyn prawf cartref
gan ddefnyddio porth ar-lein newydd y DU. I gael rhagor o wybodaeth a dolen i'r
wefan archebu, ewch i: www.llyw.cymru/coronafeirws neu www.gov.wales/coronavirus. Cefnogir hyn gan wasanaeth ffôn
119 cenedlaethol, lle gall pobl hefyd archebu prawf cartref.
“Rydym yn annog pawb i
lawrlwytho’r ap Astudio Symptomau Coronafeirws Newydd (COVID-19), a dderbyniodd
gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru. Mae'r ap yn caniatáu i ddefnyddwyr logio
symptomau’n ddyddiol i helpu i adeiladu darlun cliriach o sut mae'r feirws yn
effeithio ar bobl. Am ragor o wybodaeth, gan gynnwys sut i lawrlwytho'r ap,
ewch i covid.joinzoe.com.
“Ni ddylai unrhyw un yr amheuir
bod ganddo/ganddi salwch coronafeirws fynd i bractis meddyg teulu, fferyllfa
nac ysbyty. Dim ond os yw'n teimlo na all ymdopi â'i symptomau gartref, fod ei
gyflwr yn gwaethygu, neu os nad yw ei symptomau’n gwella ar ôl saith niwrnod y
dylai gysylltu â NHS 111.
“Peidiwch â ffonio 999 oni bai
eich bod yn profi argyfwng sy’n peryglu bywyd. Peidiwch â ffonio 999 dim ond
oherwydd eich bod yn aros i 111 ateb eich galwad ffôn. Rydym yn deall bod
llinellau 111 yn brysur, ond bydd rhywun yn ateb eich galwad ar ôl i chi aros.
“Hoffwn hefyd atgyfnerthu’r neges
gan GIG Cymru fod gwasanaethau gofal brys ar gyfer iechyd meddwl ac iechyd
corfforol ar agor o hyd.
“I rieni, os yw'ch plentyn yn sâl
a'ch bod yn pryderu, dylech ofyn am help. Os oes gennych boen deintyddol brys,
dylech ddal i ffonio'ch deintydd. Os oes gennych broblem iechyd sy'n eich poeni
ac nad yw’n mynd i ffwrdd, dylech ffonio'ch practis meddyg teulu. Os ydych chi,
neu aelod o'r teulu, yn ddifrifol wael neu wedi'ch anafu, dylech ddeialu 999
neu fynd i'ch Adran Achosion Brys agosaf.”