Public Health Wales statement on Novel Coronavirus (COVID-19) outbreak
This statement will be updated daily at 2pm
Updated: 2:00pm Friday 24 July
Dr Robin Howe,
Incident Director for the Novel Coronavirus (COVID-19) outbreak response
at Public Health Wales, said:
“We continue to caution and remind the public
and business-owners that we all have a vital role in preventing the spread of
Coronavirus by always sticking to social distancing guidelines - staying two
metres away from others, and washing hands regularly. When travelling you
should also avoid car sharing with people outside your household.
"Anyone with
suspected symptoms of COVID-19 infection - a high temperature, a new,
continuous cough, or a loss of smell or taste (anosmia) - must self-isolate and
seek an urgent test.
"Confirmed cases
must isolate for seven days, with members of their household isolating for 14
days until the risk of passing on further infection has gone. Combined, these
simple but effective actions will ensure the virus does not spread.
Updates on current incidents
“Public Health Wales can confirm
that, further to an Outbreak Control Team meeting held on Thursday 23 July
which as usual involved multiple agencies, we are reporting no new cases of
Coronavirus associated with the 2 Sisters site at Llangefni, Anglesey.
“The total therefore remains at 221
cases linked to the outbreak. The fact
that no new cases have been recorded is a positive sign, and indicates that
control measures have been effective.
“The focused testing programme has
been concluded, and there is no evidence of wider community transmission
resulting from the outbreak. As long as there is no change to this position,
then we will look to formally bring this outbreak to a close in the near
future.
“Public Health Wales and our
multi-agency partners have been investigating a small number of laboratory
confirmed cases of Coronavirus associated with the Zorba Delicacies Ltd food
processing plant in Ebbw Vale. Following the testing of 476 employees, the
total number of laboratory confirmed cases is eight, with one other probable
case.
“Close contacts of confirmed cases
have been contacted through the Test, Trace, Protect process and provided with
additional advice for themselves, household and other contacts.”
“An Outbreak Control Team was convened on 22 July to
look at the outbreak associated with the workforce at Rowan Foods, and part of
its work is to constantly review its data on cases of Novel Coronavirus
(COVID-19) infection.
“As part of this process we are investigating cases
within the Wrexham area through the Test Trace Protect process. This work
naturally includes identifying where we believe transmission may be occurring,
and identifying local clusters of cases.
“The outbreak associated with the workforce at the
Rowan Foods plant in Wrexham remains active, although the number of reported
cases has slowed down considerably.
“As of 22 July, the total number of positive cases
associated with this outbreak is 313, which is a small increase of four since
Wednesday 15 July. There is no evidence that these infections were acquired
either onsite or that the infection is factory-based.
“We will continue to analyse the data to ensure we
are taking appropriate and timely decisions to bring the outbreak to a close.
“In addition, the total number of positive cases
identified at the Kepak Merthyr meat processing plant is 141 positive cases
since April. Investigations in this cluster continue, and updates will be
issued in the coming days.
“The Food Standards
Agency advise that it is very unlikely that you can catch coronavirus from
food. Coronavirus is a respiratory
illness. It is not known to be
transmitted by exposure to food or food packaging.
Contact tracing and general information
“Contact tracing
continues in Wales as part of the Welsh Government’s Test, Trace, Protect strategy. Anyone who has a positive Coronavirus test
will be contacted by a team of contact tracers, and asked for details of
everyone they have had close contact with while they have had symptoms.
“Please keep a note of
your activities so you can easily remember your whereabouts on a given day,
along with who you were in contact with.
“If you are asked to
self-isolate, you should also comply with this request to prevent further
spread of the virus.
“Tracers are trained
staff and personal information that you provide will handled in line with data
protection regulations and will not be shared widely.
“Further information
about the symptoms of Coronavirus is available on the Public Health Wales
website, or members of the public can use the NHS Wales symptom checker.
“Anyone experiencing Coronavirus
symptoms can apply for a home testing kit by visiting www.gov.wales/coronavirus, or by calling the national 119 phone service.
“Anyone with suspected
coronavirus should not go to a GP surgery, pharmacy or hospital. They should only contact NHS 111 if they feel
they cannot cope with their symptoms at home, their condition gets worse, or
their symptoms do not get better after seven days.
“Only call 999 if you
are experiencing a life-threatening emergency, do not call 999 just because you
are on hold to 111. We appreciate that 111 lines are busy, but you will get
through after a wait.”
“Public Health Wales’
user-friendly data dashboard takes information from a range of different
sources. The total number of positive
cases now includes those reported from non-NHS Wales laboratories, which are
subject to ongoing de-duplication, refinement and reconciliation. This may result in fluctuation of the total
positive cases as this process takes place.
“It should be noted that
the cases from non-NHS Wales laboratories are not new cases, and have been on
the dashboard for a number of weeks.
They have previously been reported on a separate tab, but are now
incorporated into the totals for the local authority area and Health Board area
in which the patient resides, to give a complete picture for Wales.
Diweddarwyd: 2:00yp Dydd Gwener 24 Gorffennaf
Dywedodd Dr
Robin Howe, Cyfarwyddwr Digwyddiad ar gyfer yr ymateb i'r achos o'r
Coronafeirws Newydd (COVID-19) yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:
“Rydym yn
parhau i rybuddio ac atgoffa’r cyhoedd a pherchenogion busnes fod gennym ni i
gyd rôl bwysig i’w chwarae wrth atal lledaeniad Coronafeirws trwy lynu wrth
ganllawiau cadw pellter cymdeithasol bob amser – sicrhau eich bod yn cadw dau
fetr oddi wrth bobl eraill a golchi eich dwylo yn rheolaidd. Wrth deithio,
dylech hefyd osgoi rhannu ceir â phobl y tu allan i'ch cartref.
“Rhaid i
unrhyw un yr amheuir bod ganddynt symptomau COVID-19, sef tymheredd uchel,
peswch newydd a pharhaus neu golli synnwyr blasu neu arogli (anosmia),
hunanynysu a chael prawf ar unwaith.
“Rhaid i
achosion a gaiff eu cadarnhau ynysu am 7 diwrnod, a rhaid i aelodau o’u cartref
ynysu am 14 diwrnod hyd nes bod y perygl o drosglwyddo’r haint ymhellach wedi
mynd. Gyda’i gilydd, bydd y camau syml ond effeithiol hyn yn sicrhau nad yw’r
feirws yn lledaenu.
Diweddariadau ar ddigwyddiadau cyfredol
“Yn
dilyn cyfarfod y Tîm Rheoli Achosion a gynhaliwyd ddydd Iau 23 Gorffennaf a
oedd, yn ôl yr arfer, yn cynnwys sawl asiantaeth, gall Iechyd Cyhoeddus Cymru
gyhoeddi nad oes unrhyw achosion newydd o Coronafeirws yn gysylltiedig â safle 2 Sisters yn Llangefni.
“Mae'r
cyfanswm felly'n aros yn 221 o achosion sy'n gysylltiedig â'r achos. Mae’r ffaith nad oes unrhyw achosion newydd
wedi’u cofnodi yn arwydd da, ac mae’n awgrymu y bu’r mesurau rheoli yn
effeithiol.
“Mae'r
rhaglen brofi â ffocws wedi'i chwblhau, ac nid oes tystiolaeth o drosglwyddo
cymunedol ehangach yn sgil yr achos. Cyn belled nad oes unrhyw newid i'r
sefyllfa hon, yna byddwn yn ceisio dod â'r achos hwn i ben yn ffurfiol yn y
dyfodol agos.
“Mae
Iechyd Cyhoeddus Cymru a’n partneriaid aml-asiantaeth wedi bod yn ymchwilio i
nifer bach o achosion labordy a gadarnhawyd o Coronafeirws sy’n gysylltiedig â
safle prosesu bwyd Zorba Delicacies Ltd yng Nglyn Ebwy. Yn dilyn profi 476 o
weithwyr, cyfanswm yr achosion a gadarnhawyd mewn labordy yw wyth, gydag un
achos tebygol arall.
“Cysylltwyd
â chysylltiadau agos yr achosion a gadarnhawyd trwy’r broses Profi, Olrhain,
Diogelu a rhoddwyd cyngor ychwanegol iddyn nhw, aelodau o’u cartrefi a
chysylltiadau eraill.”
“Galwyd Tîm Rheoli Achosion ynghyd ar 22
Gorffennaf i edrych ar yr achos a oedd yn gysylltiedig â’r gweithlu yn Rowan
Foods, a rhan o’i waith yw adolygu’n
barhaus ei ddata ar yr achosion o haint Coronafeirws Newydd (COVID-19).
“Fel rhan o’r broses hon, rydym yn ymchwilio i
achosion yn ardal Wrecsam trwy’r broses Profi Olrhain Diogelu. Yn naturiol,
mae’r gwaith hwn yn cynnwys nodi ymhle rydym yn credu y gallai trosglwyddo fod
yn digwydd, a nodi clystyrau lleol o achosion.
“Mae’r achosion sy’n gysylltiedig â’r gweithlu
yn safle Rowan Foods yn Wrecsam yn
parhau, er bod nifer yr achosion yr adroddwyd amdanynt wedi arafu’n sylweddol.
“Ar 22 Gorffennaf, cyfanswm yr achosion positif
sy’n gysylltiedig â’r achos hwn yw 313, sy’n gynnydd bach o bedwar ers dydd
Mercher 15 Gorffennaf. Nid oes tystiolaeth y cafodd yr unigolion hyn eu heintio
ar y safle neu fod yr haint wedi tarddu o’r ffatri.
“Byddwn yn parhau i ddadansoddi’r data i sicrhau
ein bod yn gwneud penderfyniadau priodol ac amserol i ddod â’r achos i ben.
“Yn ogystal, cyfanswm yr achosion positif a
nodwyd yn ffatri prosesu cig Kepak Merthyr yw 141 ers mis Ebrill. Mae
ymchwiliadau yn y clwstwr hwn yn parhau, a chyhoeddir diweddariadau yn ystod y
dyddiau nesaf.
“Mae’r
Asiantaeth Safonau Bwyd yn cynghori ei bod yn annhebygol iawn y gallwch ddal
coronafeirws o fwyd. Mae Coronafeirws yn
salwch anadlol. Ni ystyrir ei fod yn
cael ei drosglwyddo trwy ddod i gysylltiad â deunyddiau pacio bwyd na bwyd.
Olrhain cysylltiadau a gwybodaeth gyffredinol
“Mae olrhain
cysylltiadau yn parhau yng Nghymru fel rhan o strategaeth Profi, Monitro, Olrhain Llywodraeth Cymru. Bydd tîm o olrheinwyr cysylltiadau yn
cysylltu ag unrhyw un sydd wedi cael prawf positif am Coronafeirws, a gofynnir
am fanylion pawb y mae wedi bod mewn cysylltiad agos â nhw tra bod symptomau gyda
nhw.
“Cadwch
nodyn o'ch gweithgareddau er mwyn i chi allu cofio’n hawdd ble oeddech chi ar
ddiwrnod penodol, ynghyd â gyda phwy yr oeddech mewn cysylltiad â nhw.
“Os gofynnir
i chi hunanynysu, dylech hefyd gydymffurfio â'r gofyniad hwn er mwyn atal y
feirws rhag lledaenu ymhellach.
“Mae olrheinwyr
yn staff hyfforddedig a bydd yr wybodaeth bersonol rydych chi'n ei darparu yn
cael ei thrin yn unol â rheoliadau diogelu data ac ni fydd yn cael ei rhannu'n
eang.
“Mae
gwybodaeth bellach am symptomau Coronafeirws ar gael ar wefan Iechyd Cyhoeddus
Cymru, neu gall aelodau'r cyhoedd ddefnyddio gwiriwr symptomau GIG Cymru.
“Gall unrhyw
un sydd â symptomau Coronafeirws wneud cais am becyn profi gartref trwy fynd i www.gov.wales/coronavirus, neu trwy
ffonio’r gwasanaeth ffôn 119 cenedlaethol.
“Ni ddylai
unrhyw un yr amheuir bod ganddo/ganddi coronafeirws fynd i bractis meddyg
teulu, fferyllfa nac ysbyty. Dim ond os
yw'n teimlo na all ymdopi â'i symptomau gartref, fod ei gyflwr yn gwaethygu,
neu os nad yw ei symptomau’n gwella ar ôl saith niwrnod y dylai gysylltu â NHS
111.
“Peidiwch â
ffonio 999 oni bai eich bod yn profi argyfwng sy’n peryglu bywyd. Peidiwch â ffonio
999 dim ond oherwydd eich bod yn aros i 111 ateb eich galwad ffôn. Rydym yn
deall bod llinellau 111 yn brysur, ond bydd rhywun yn ateb eich galwad ar ôl i
chi aros.
“Mae
dangosfwrdd data hawdd ei ddefnyddio Iechyd Cyhoeddus Cymru yn casglu gwybodaeth
o ystod o ffynonellau gwahanol. Mae
cyfanswm nifer yr achosion positif bellach yn cynnwys y rhai yr adroddwyd
amdanynt o labordai nad ydynt yn eiddo i GIG Cymru, sy’n ddarostyngedig i
ddad-ddyblygu, mireinio a chysoni parhaus.
Gallai hyn arwain at amrywiad yng nghyfanswm nifer yr achosion positif
wrth i’r broses hon fynd rhagddi.
“Dylid nodi
nad yw’r achosion o labordai nad ydynt yn eiddo i GIG Cymru yn achosion newydd,
a’u bod wedi bod ar y dangosfwrdd ers sawl wythnos. Adroddwyd amdanynt yn flaenorol ar dab
gwahanol, ond bellach maent wedi’u hymgorffori i’r cyfanswm ar gyfer yr ardal
awdurdod lleol a’r ardal Bwrdd Iechyd y mae’r claf yn preswylio ynddi, er mwyn
rhoi’r darlun cyflawn ar gyfer Cymru.