Public Health Wales statement on Novel Coronavirus (COVID-19) outbreak
This statement will be updated daily at 2pm
Updated: Monday 7 September 2020
Dr Giri Shankar, Incident Director for the Novel Coronavirus (COVID-19)
outbreak response at Public Health Wales, said:
“We are concerned about the significant rise in positive coronavirus
cases in the Caerphilly area in recent days.
It is absolutely vital that everyone in the community abides by social
distancing measures that is, by self-isolating when asked to do so, keeping
2m away from others outside your household, and washing hands regularly.
“I would appeal to everyone in the Caerphilly area that if you have even
the mildest of COVID-19 symptoms, a high temperature or fever, a new and
persistent cough, or a loss or change in your sense of smell or taste, or even
if you feel generally unwell with no explanation, to make use of the local
testing unit at Caerphilly Leisure Centre.
“As children return to schools, I understand that parents will be
concerned at reports of positive cases.
I would urge you to follow advice from the school or local authority and
only withdraw children from school when asked to do so. Social distancing measures that are in place
are designed to prevent the spread of the disease beyond the ‘bubbles’
established in schools.
“Again it is important that children maintain regular handwashing
throughout the day, and on returning home, and parents’ help with this is
vital.
“We are now seeing a steady increase in cases in a number of communities
across Wales, and our investigations show that many of these have been
transmitted due to a lack of social distancing.
“This has resulted in the spread of the virus to other groups of people.
“We continue to appeal to everyone to please remember that, even if you
feel that you would not be badly affected by COVID-19 if you were to test
positive, should you pass it on to older or more vulnerable family members,
friends or colleagues it could be extremely serious and even fatal.
“Coronavirus has not gone away.
It remains the responsibility of everyone to help prevent the spread of
this virus, that is, by self-isolating when asked to do so, staying two metres
away from others, and by washing hands regularly.
“I
also want to remind the public that if you have recently travelled outside the
UK there may be restrictions on your return. These restrictions may be
different in Wales than in other parts of the UK, and now include Portugal and
some Greek Islands. Advice on travelling
abroad, including the latest information on quarantine requirements on
returning home, can be found on the Welsh Government and FCO websites.
“Anyone
returning to Wales from countries which have been identified as high risk must
quarantine in accordance with the Foreign and Commonwealth Office regulations
even if they are not experiencing any COVID-19 symptoms or have had a negative
test result.
"Anyone
with suspected symptoms of COVID-19 infection - a high temperature, a new,
continuous cough, or a loss of smell or taste (anosmia) - must self-isolate and
seek an urgent test.
“Getting a coronavirus test is free and simple to do, either by visiting www.gov.uk/get-coronavirus-test or by calling the free number 119.
"Confirmed cases must isolate for 10 days,
with members of their household isolating for 14 days until the risk of passing
on further infection has gone. Combined, these simple but effective actions
will ensure the virus does not spread.
Updates on current incidents
“We are aware of a small number of COVID-19 cases in Porth and Penygraig
in Rhondda Cynon Taff. Where clusters of cases are identified, Public Health
Wales, Rhondda Cynon Taf County Borough Council and Cwm Taf Morgannwg University Health
Board work with local partners to implement our planned response.
“Test Trace Protect teams are working with those affected and contacting
those people who have been in contact with a person who has tested
positive. A proportion of the positive cases in this incident are from
the young adult age group and disappointingly, some have been
reluctant to share details of where they have been and who they have been
in contact with.
“By not giving the Test Trace Protect teams accurate
information, these people are placing their own family members and friends at
risk. We are urging them to think about other members of their communities, put
simply, they are risking other people's health and other people's lives,
especially if they are symptomatic, not staying at home and
mixing in the local community.
“As we move through the recovery phase of the Coronavirus
pandemic, we expect to see clusters in different settings, as with the incidents
described above. We manage any clusters of Coronavirus appropriately,
including by providing advice around infection prevention and control, and by
supporting contact tracing where required.
“We remind the public and business owners that
Coronavirus is still circulating in the community.
Contact tracing and general information
“Contact tracing continues as part of the Welsh Government’s Test,
Trace, Protect strategy. Anyone who has a positive Coronavirus test will be
contacted by a team of contact tracers, and asked for details of everyone they
have had close contact with while they have had symptoms.
“Please keep a note of your activities so you can easily remember your
whereabouts on a given day, along with who you were in contact with.
“If you are asked to self-isolate, you should do so to prevent further
spread of the virus.
“Tracers are trained staff and personal information that you provide
will handled in line with data protection regulations and will not be shared
widely.
“Information about the symptoms of Coronavirus is available on the
Public Health Wales website, or via the NHS 111 Wales symptom checker.
“Anyone experiencing Coronavirus symptoms can apply for a home testing
kit by visiting www.gov.wales/coronavirus, or by calling the
national 119 phone service.
“Anyone with suspected coronavirus should not go to a GP surgery,
pharmacy or hospital. They should only contact NHS 111 if they feel they cannot
cope with their symptoms at home, their condition gets worse, or their symptoms
do not get better after seven days.
“Only call 999 if you are experiencing a life-threatening emergency, do
not call 999 just because you are on hold to 111. We appreciate that 111 lines
are busy, but you will get through after a wait.
“Public Health Wales’ user-friendly data dashboard takes information
from a range of different sources. The total number of positive cases now
includes those reported from non-NHS Wales laboratories, which are subject to
ongoing de-duplication, refinement and reconciliation. This may result in
fluctuation of the total positive cases as this process takes place.”
Diweddarwyd: Dydd Llun 7 Medi 2020
Dywedodd Dr Giri
Shankar, Cyfarwyddwr Digwyddiad ar gyfer yr ymateb i'r achos o'r Coronafeirws
Newydd (COVID-19) yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:
“Rydym yn pryderu am y
cynnydd sylweddol mewn achosion positif o coronafeirws yn ardal Caerffili yn
ystod y dyddiau diwethaf. Mae'n gwbl
hanfodol bod pawb yn y gymuned yn cadw at fesurau cadw pellter cymdeithasol -
hynny yw, trwy hunanynysu pan ofynnir iddynt wneud hynny, cadw 2m i ffwrdd oddi
wrth bobl eraill y tu allan i'ch aelwyd, a golchi dwylo'n rheolaidd.
“Byddwn yn gofyn i
bawb yn ardal Caerffili, hyd yn oed os oes gennych symptomau ysgafn o COVID-19
- tymheredd uchel neu dwymyn, peswch newydd a pharhaus, neu os ydych wedi
colli’ch synnwyr arogli neu flasu, neu ei fod wedi newid, neu hyd yn oed os
ydych chi'n teimlo'n sâl yn gyffredinol ac nid oes esboniad, ewch i gael prawf
yn yr uned brofi leol yng Nghanolfan Hamdden Caerffili.
“Wrth i blant
ddychwelyd i’r ysgolion, rwy’n deall y bydd rhieni’n pryderu oherwydd
adroddiadau o achosion positif. Byddwn
yn eich annog i ddilyn cyngor yr ysgol neu'r awdurdod lleol a dylech chi dynnu
plant o'r ysgol dim ond pan ofynnir i chi wneud hynny Mae’r mesurau cadw pellter cymdeithasol sydd
ar waith wedi’u cynllunio i atal yr afiechyd rhag lledaenu y tu hwnt i’r
‘swigod’ a grëwyd mewn ysgolion.
“Unwaith eto mae’n
bwysig bod plant yn parhau i olchi eu dwylo’n rheolaidd drwy gydol y dydd ac
wrth ddychwelyd adref, ac mae’n hanfodol i rieni eu cynorthwyo gyda hyn.
“Rydym bellach yn gweld cynnydd cyson mewn achosion mewn nifer o
gymunedau ledled Cymru, ac mae ein hymchwiliadau’n dangos bod llawer o’r rhain
wedi cael eu trosglwyddo oherwydd diffyg cadw pellter cymdeithasol.
“Mae hyn wedi arwain at ledaenu’r feirws i grwpiau eraill o bobl.
“Rydym yn parhau i ofyn i bawb gofio, hyd yn oed os ydych yn meddwl na
fyddai COVID-19 yn effeithio'n wael arnoch pe baech yn profi'n bositif am y
feirws, pe byddech yn ei drosglwyddo i aelodau hŷn neu fwy agored i niwed o
deulu, ffrindiau neu gydweithwyr, gallai fod yn hynod o ddifrifol a hyd yn oed
yn angheuol.
“Nid yw Coronafeirws wedi diflannu.
Cyfrifoldeb pawb o hyd yw helpu i atal y feirws hwn rhag lledaenu. Hynny
yw, trwy hunanynysu pan ofynnir i unigolion wneud hynny, aros dau fetr i ffwrdd
oddi wrth eraill a thrwy olchi’ch dwylo yn rheolaidd.
“Yn ogystal, hoffwn atgoffa’r
cyhoedd os ydych chi wedi teithio y tu allan i’r DU yn ddiweddar, gallai fod
cyfyngiadau wrth i chi ddychwelyd – gallai’r cyfyngiadau hyn fod yn wahanol yng
Nghymru o’u cymharu â rhannau eraill o’r DU, ac maent bellach yn cynnwys
Portiwgal a rhai Ynysoedd Groeg. “Gellir
dod o hyd i gyngor ar deithio dramor, gan gynnwys yr wybodaeth ddiweddaraf am y
gofynion cwarantin wrth ddychwelyd adref, ar wefan Llywodraeth
Cymru ac ar wefan y Swyddfa Dramor a Chymanwlad.
“Rhaid i unrhyw un sy’n dychwelyd
i Gymru o wledydd y nodwyd eu bod yn risg uchel osod ei hun dan gwarantin yn
unol â rheoliadau’r Swyddfa Dramor a Chymanwlad hyd yn oed os nad oes ganddo
unrhyw symptomau COVID-19 neu os yw wedi cael prawf negyddol.
“Rhaid i unrhyw un yr amheuir bod
ganddynt symptomau COVID-19, sef tymheredd uchel, peswch newydd a pharhaus neu
golli synnwyr blasu neu arogli (anosmia), hunanynysu a chael prawf ar unwaith.
“Mae mynd ati i gael prawf Coronafeirws yn rhad ac am ddim ac yn syml, a gellir gwneud hyn naill ai trwy ymweld â www.gov.uk/get-coronavirus-test neu trwy ffonio'r rhif rhad ac am ddim 119.
“Rhaid
i achosion a gadarnhawyd ynysu am 10 diwrnod, a rhaid i aelodau o’u cartrefi
ynysu am 14 diwrnod hyd nes bod y perygl o drosglwyddo’r haint ymhellach wedi
mynd. Gyda’i gilydd, bydd y camau syml ond effeithiol hyn yn sicrhau nad yw’r
feirws yn lledaenu.
Diweddariadau ar ddigwyddiadau cyfredol
“Rydym yn ymwybodol o
nifer fach o achosion o COVID-19 ym Mhorth a Phenygraig yn Rhondda Cynon Taf.
Lle mae clystyrau o achosion yn cael eu nodi, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru,
Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf
Morgannwg yn gweithio gyda phartneriaid lleol i weithredu ein hymateb wedi’i
gynllunio.
“Mae timau Profi
Olrhain Diogelu yn gweithio gyda’r rhai yr effeithiwyd arnynt ac yn cysylltu
â’r bobl hynny sydd wedi bod mewn cysylltiad ag unigolyn sydd wedi cael prawf
positif. Mae cyfran o’r achosion positif yn y digwyddiad hwn o’r grŵp
oedran oedolion ifanc ac, er mawr siom, mae rhai wedi bod yn gyndyn o rannu
manylion o ble maen nhw wedi bod ac â phwy maen nhw wedi bod mewn
cysylltiad.
“Trwy beidio â rhoi
gwybodaeth fanwl i’r timau Profi Olrhain Diogelu, mae’r bobl hyn yn rhoi eu
teuluoedd a’u ffrindiau eu hunain mewn perygl. Rydym yn eu hannog i feddwl am
aelodau eraill o’u cymunedau – yn syml, maen nhw’n rhoi iechyd a bywydau pobl
eraill mewn perygl, yn enwedig os ydyn nhw’n dangos symptomau, os nad ydyn
nhw’n aros gartref ac os ydyn nhw’n cymysgu yn y gymuned leol.
“Wrth i ni symud at gyfnod adfer pandemig y Coronafeirws, byddwn yn
disgwyl gweld clystyrau mewn gwahanol leoliadau, fel gyda’r digwyddiadau a
ddisgrifir uchod. Rydym yn rheoli unrhyw glystyrau o Coronafeirws yn
briodol, trwy roi cyngor ar atal a rheoli heintiau a thrwy gefnogi olrhain
cysylltiadau pan fo angen.
“Rydym yn atgoffa’r cyhoedd a pherchnogion busnes bod Coronafeirws yn
mynd ar led yn y gymuned o hyd.
Olrhain cysylltiadau a gwybodaeth gyffredinol
“Mae olrhain
cysylltiadau yn parhau fel rhan o strategaeth Profi, Olrhain, Diogelu
Llywodraeth Cymru. Bydd tîm o swyddogion olrhain cysylltiadau yn cysylltu ag
unrhyw un sydd wedi cael prawf positif am Coronafeirws, a gofynnir am fanylion
pawb y mae wedi bod mewn cysylltiad agos â nhw tra bod ganddo symptomau.
“Cadwch nodyn o'ch
gweithgareddau er mwyn i chi allu cofio’n hawdd ble oeddech chi ar ddiwrnod
penodol, ynghyd â gyda phwy yr oeddech mewn cysylltiad â nhw.
“Os gofynnir i chi
hunanynysu, dylech wneud hyn er mwyn atal y feirws rhag lledaenu ymhellach.
“Mae olrheinwyr yn
staff hyfforddedig a bydd yr wybodaeth bersonol rydych chi'n ei darparu yn cael
ei thrin yn unol â rheoliadau diogelu data ac ni fydd yn cael ei rhannu'n eang.
“Mae gwybodaeth am
symptomau Coronafeirws ar gael ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru, neu drwy holiadur
symptomau GIG Cymru.
“Gall unrhyw un sydd â
symptomau Coronafeirws wneud cais am becyn profi gartref trwy fynd i www.gov.wales/coronavirus, neu trwy ffonio’r gwasanaeth ffôn 119
cenedlaethol.
“Ni ddylai unrhyw un
yr amheuir bod ganddo/ganddi coronafeirws fynd i bractis meddyg teulu,
fferyllfa nac ysbyty. Dim ond os yw'n teimlo na all ymdopi â'i symptomau
gartref, fod ei gyflwr yn gwaethygu, neu os nad yw ei symptomau’n gwella ar ôl
saith niwrnod y dylai gysylltu â NHS 111.
“Peidiwch â ffonio 999
oni bai eich bod yn profi argyfwng sy’n peryglu bywyd. Peidiwch â ffonio 999
dim ond oherwydd eich bod yn aros i 111 ateb eich galwad ffôn. Rydym yn deall
bod llinellau 111 yn brysur, ond bydd rhywun yn ateb eich galwad ar ôl i chi
aros.
“Mae dangosfwrdd data
hawdd ei ddefnyddio Iechyd Cyhoeddus Cymru yn casglu gwybodaeth o ystod o
ffynonellau gwahanol. Mae cyfanswm nifer yr achosion positif bellach yn cynnwys
y rhai yr adroddwyd amdanynt o labordai nad ydynt yn eiddo i GIG Cymru, sy’n
ddarostyngedig i ddad-ddyblygu, mireinio a chysoni parhaus. Gallai hyn arwain
at amrywiad yng nghyfanswm nifer yr achosion positif wrth i’r broses hon fynd
rhagddi.”