Public Health Wales statement on Novel Coronavirus (COVID-19) outbreak
This statement will be updated daily at 2pm
Updated: Saturday 12 September 2020
Dr Christopher Williams, Incident
Director for the Novel Coronavirus (COVID-19) outbreak response at Public
Health Wales, said:
“Public Health Wales
welcomes the new action being taken from Monday 14 September by Welsh
Government to prevent further rises in positive coronavirus cases. These include the mandatory wearing of face
coverings by people over 11 in public places, like shops, and that only six
people from an extended household can meet indoors.
“As children return to
schools, I understand that parents will be concerned at reports of positive
cases. I would urge you to follow advice
from the school or local authority and only withdraw children from school when
asked to do so. Social distancing
measures that are in place are designed to prevent the spread of the disease
beyond the ‘bubbles’ established in schools.
“Again it is important
that children maintain regular handwashing throughout the day, and on returning
home, and parents’ help with this is vital.
“We are now seeing a steady increase in cases in a number of communities
across Wales, and our investigations show that many of these have been
transmitted due to a lack of social distancing.
“This has resulted in the spread of the virus to other groups of people.
“We continue to appeal to everyone to please remember that, even if you
feel that you would not be badly affected by COVID-19 if you were to test
positive, should you pass it on to older or more vulnerable family members,
friends or colleagues it could be extremely serious and even fatal.
“Coronavirus has not gone away.
It remains the responsibility of everyone to help prevent the spread of
this virus – that is, by self-isolating when asked to do so, staying two metres
away from others, and by washing hands regularly.
Rhondda Cynon Taff and Merthyr
“In addition to the national measures taken by
Welsh Government, enhanced public health action is being taken in Rhondda Cynon
Taff and Merthyr Tydfil local authority areas to limit the spread of
Coronavirus following an increase in cases.
“The enhanced action includes asking people to
limit the use of public transport to essential purposes only, such as for
education, work, essential medical appointments and food shopping.
“Local people are also being advised that they
should not visit care homes, unless it is an end-of-life visit. In such
cases full PPE will be required.
“Due to the recent rise in the number of
cases of coronavirus in the Lower Rhondda area, Cwm Taf Morgannwg University
Health Board, working in partnership with Rhondda Cynon Taf County Borough
Council has set up a temporary testing centre at Rhondda Cynon Taf Council
offices at The Pavilions, Clydach Vale, CF40 2XX.
“These local restrictions are different to
those measures introduced nationally today.
People in the Caerphilly County Borough area should not host people from
any other household in their home. The
full list of rules for this area can be found on the Welsh Government
website.
“In line with local lockdown measures, Public
Health Wales would encourage members of the public living in Caerphilly County
Borough to attend any booked medical appointments, including visits to
screening clinics. In addition to the three measures outlined by the Minister
for Health and Social Care, screening clinics throughout Wales have implemented
additional COVID-safe measures to help protect all of those that attend.”
“Coronavirus can be a very serious illness,
especially for older people or those with existing conditions, and a decision
to introduce wide ranging restrictions such as these is not taken
lightly. We remind the public that they have a vital role in preventing
the spread of Coronavirus, and that adhering to these restrictions is of the
utmost importance.”
“I would appeal to
everyone in the Caerphilly area that if you have even the mildest of COVID-19 symptoms
– a high temperature or fever, a new and persistent cough, or a loss or change
in your sense of smell or taste, or even if you feel generally unwell with no
explanation, to make use of the local testing units.
“In order to manage high
demand for testing in the county, then the walk-in local testing unit at
Caerphilly Leisure Centre will continue operating until Tuesday 15 September.
“An additional
drive-through testing unit has also been established at the Caerphilly County
Borough Council offices in Tredomen Business Park, Ystrad Mynach. This site will also be operational until
Tuesday 15 September, and its opening hours are 8am to 6pm.
International Travel
“I also want to remind the public that if you
have recently travelled outside the UK there may be restrictions on your return“ these restrictions may be different in Wales than in other parts of the UK,
and now include Portugal and some Greek Islands. Advice on travelling abroad, including the
latest information on quarantine requirements on returning home, can be found on
the Welsh Government
and FCO
websites.
“Anyone returning to Wales
from countries which have been identified as high risk must quarantine in
accordance with the Foreign and Commonwealth Office regulations even if they
are not experiencing any COVID-19 symptoms or have had a negative test result.
"Anyone with suspected
symptoms of COVID-19 infection - a high temperature, a new, continuous cough,
or a loss of smell or taste (anosmia) - must self-isolate and seek an urgent
test.
“Getting a
coronavirus test is free and simple to do, either by visiting www.gov.uk/get-coronavirus-test or by calling the free number 119.
"Confirmed cases must
isolate for 10 days, with members of their household isolating for 14 days
until the risk of passing on further infection has gone. Combined, these simple
but effective actions will ensure the virus does not spread.
Updates
on current incidents
“Public
Health Wales can confirm that we are responding to cases of Novel Coronavirus
(COVID-19) in Drefach Cricket and Football Club. We manage any clusters
of Coronavirus appropriately, including by providing advice around infection
prevention and control, and by supporting contact tracing where required.
“Test Trace Protect teams
are working with those affected and contacting those people
who have been in contact with a person who has tested positive.
A proportion of the positive cases in this incident are from the young
adult age group and disappointingly, some have been reluctant to share
details of where they have been and who they have been in contact
with.
“By not giving the Test
Trace Protect teams accurate information, these people are placing
their own family members and friends at risk. We are urging them to think about
other members of their communities, put simply, they are risking other people's
health and other people's lives, especially if
they are symptomatic, not staying at home and mixing in the
local community.
“As we move
through the recovery phase of the Coronavirus pandemic, we expect to see
clusters in different settings, as with the incidents described above. We
manage any clusters of Coronavirus appropriately, including by providing advice
around infection prevention and control, and by supporting contact tracing
where required.
“We remind
the public and business owners that Coronavirus is still circulating in the
community.
Contact
tracing and general information
“Contact tracing
continues as part of the Welsh Government’s Test, Trace, Protect strategy.
Anyone who has a positive Coronavirus test will be contacted by a team of
contact tracers, and asked for details of everyone they have had close contact
with while they have had symptoms.
“Please keep a note of
your activities so you can easily remember your whereabouts on a given day,
along with who you were in contact with.
“If you are asked to
self-isolate, you should do so to prevent further spread of the virus.
“Tracers are trained staff
and personal information that you provide will handled in line with data
protection regulations and will not be shared widely.
“Information about the
symptoms of Coronavirus is available on the Public Health Wales website, or via
the NHS 111 Wales symptom checker.
“Anyone experiencing
Coronavirus symptoms can apply for a home testing kit by visiting www.gov.wales/coronavirus, or by calling the national 119 phone service.
“Anyone with suspected
coronavirus should not go to a GP surgery, pharmacy or hospital. They should
only contact NHS 111 if they feel they cannot cope with their symptoms at home,
their condition gets worse, or their symptoms do not get better after seven
days.
“Only call 999 if you
are experiencing a life-threatening emergency, do not call 999 just because you
are on hold to 111. We appreciate that 111 lines are busy, but you will get
through after a wait.
“Public Health Wales’
user-friendly data dashboard takes information from a range of different
sources. The total number of positive cases now includes those reported from
non-NHS Wales laboratories, which are subject to ongoing de-duplication,
refinement and reconciliation. This may result in fluctuation of the total
positive cases as this process takes place.”
Diweddarwyd: Dydd Sadwrn 12 Medi 2020
Dywedodd Dr Christopher Williams, Cyfarwyddwr Digwyddiad ar gyfer yr ymateb i'r achos o'r Coronafeirws
Newydd (COVID-19) yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:
“Mae Iechyd Cyhoeddus
Cymru yn croesawu'r camau newydd sy'n cael eu cymryd gan Lywodraeth Cymru o
ddydd Llun 14 Medi i atal yr achosion positif o Coronafeirws rhag codi
ymhellach. Mae'r rhain yn cynnwys ei
gwneud yn orfodol i bobl dros 11 oed wisgo gorchuddion wyneb mewn mannau
cyhoeddus fel siopau, ac mai dim ond chwech o bobl o aelwyd estynedig sy'n
gallu cwrdd y tu mewn.
“Wrth i blant
ddychwelyd i’r ysgolion, rwy’n deall y bydd rhieni’n pryderu oherwydd
adroddiadau o achosion positif. Byddwn
yn eich annog i ddilyn cyngor yr ysgol neu'r awdurdod lleol a dylech chi dynnu
plant o'r ysgol dim ond pan ofynnir i chi wneud hynny Mae’r mesurau cadw pellter cymdeithasol sydd
ar waith wedi’u cynllunio i atal yr afiechyd rhag lledaenu y tu hwnt i’r
‘swigod’ a grëwyd mewn ysgolion.
“Unwaith eto mae’n
bwysig bod plant yn parhau i olchi eu dwylo’n rheolaidd drwy gydol y dydd ac
wrth ddychwelyd adref, ac mae’n hanfodol i rieni eu cynorthwyo gyda hyn.
“Rydym bellach yn gweld cynnydd cyson mewn achosion mewn nifer o gymunedau
ledled Cymru, ac mae ein hymchwiliadau’n dangos bod llawer o’r rhain wedi cael
eu trosglwyddo oherwydd diffyg cadw pellter cymdeithasol.
“Mae hyn wedi arwain at ledaenu’r feirws i grwpiau eraill o bobl.
“Rydym yn parhau i ofyn i bawb gofio, hyd yn oed os ydych yn meddwl na
fyddai COVID-19 yn effeithio'n wael arnoch pe baech yn profi'n bositif am y
feirws, pe byddech yn ei drosglwyddo i aelodau hÅ·n neu fwy agored i niwed o
deulu, ffrindiau neu gydweithwyr, gallai fod yn hynod o ddifrifol a hyd yn oed
yn angheuol.
“Nid yw Coronafeirws wedi diflannu.
Cyfrifoldeb pawb o hyd yw helpu i atal y feirws hwn rhag lledaenu. Hynny
yw, trwy hunanynysu pan ofynnir i unigolion wneud hynny, aros dau fetr i ffwrdd
oddi wrth eraill a thrwy olchi’ch dwylo yn rheolaidd.
Rhondda Cynon Taf a Merthyr
“Yn ychwanegol at y mesurau cenedlaethol a roddwyd ar waith gan
Lywodraeth Cymru, mae camau iechyd y cyhoedd ychwanegol yn cael eu cymryd yn
ardaloedd awdurdodau lleol Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful i gyfyngu ar
ymlediad Coronafeirws yn dilyn cynnydd mewn achosion.
“Mae'r camau ychwanegol yn cynnwys gofyn i bobl gyfyngu ar y defnydd o
drafnidiaeth gyhoeddus at ddibenion hanfodol yn unig, megis ar gyfer addysg,
gwaith, apwyntiadau meddygol hanfodol a siopa bwyd.
“Mae pobl leol hefyd yn cael eu cynghori na ddylent ymweld â chartrefi
gofal, oni bai ei fod yn ymweliad diwedd oes. Mewn achosion o'r fath bydd
angen gwisgo cyfarpar diogelu personol (PPE) llawn.
“Oherwydd
y cynnydd diweddar yn nifer yr achosion o Coronafeirws yn rhan isaf Cwm
Rhondda, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, gan weithio mewn
partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, wedi sefydlu
canolfan brofi dros dro yn Swyddfeydd Cyngor Rhondda Cynon Taf
yn Y Pafiliynau, Cwm Clydach, CF40 2XX.
“Mae’r cyfyngiadau
lleol hyn yn wahanol i’r mesurau hynny a gyflwynwyd yn genedlaethol
heddiw. Ni ddylai pobl yn ardal
Bwrdeistref Sirol Caerffili groesawu pobl o unrhyw aelwyd arall i’w cartrefi. Gellir gweld rhestr gyflawn o’r rheolau ar
gyfer yr ardal hon ar wefan Llywodraeth Cymru.
“Yn unol â mesurau
cyfyngiadau symud lleol, hoffai Iechyd Cyhoeddus Cymru annog aelodau o’r
cyhoedd sy’n byw ym mwrdeistref sirol Caerffili i fynd i unrhyw apwyntiadau
meddygol a drefnwyd, gan gynnwys ymweliadau â chlinigau sgrinio. Yn ogystal â’r
tri mesur a amlinellwyd gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, mae
clinigau sgrinio ledled Cymru wedi gweithredu mesurau ychwanegol yn erbyn
COVID-19 er mwyn helpu i ddiogelu’r rhai sy’n mynd iddynt.”
“Gall Coronafeirws fod
yn salwch difrifol iawn, yn enwedig i bobl hÅ·n neu’r sawl sydd â chyflyrau
presennol, ac ni phenderfynir cyflwyno cyfyngiadau eang fel y rhain heb gryn
ystyriaeth. Rydym yn atgoffa’r cyhoedd bod ganddyn nhw rôl hanfodol i’w
chwarae wrth atal Coronafeirws rhag lledaenu, a bod cadw at y cyfyngiadau hyn
o’r pwys mwyaf.”
“Byddwn yn gofyn i
bawb yn ardal Caerffili, hyd yn oed os oes gennych symptomau ysgafn o COVID-19
– tymheredd uchel neu dwymyn, peswch newydd a pharhaus, neu os ydych wedi
colli’ch synnwyr arogli neu flasu, neu ei fod wedi newid, neu hyd yn oed os
ydych chi'n teimlo'n sâl yn gyffredinol ac nid oes esboniad, i fynd i gael
prawf yn yr unedau profi lleol.
“Er mwyn cwrdd â’r
galw mawr am brofion yn y sir, bydd yr uned brofi gerdded i mewn leol yng
Nghanolfan Hamdden Caerffili yn parhau i weithredu tan ddydd Mawrth 15 Medi.
“Mae uned brofi drwy
ffenest y car ychwanegol hefyd wedi’i sefydlu yn swyddfeydd Cyngor Bwrdeistref
Sirol Caerffili ym Mharc Busnes Tredomen, Ystrad Mynach. Bydd y safle hwn hefyd yn weithredol tan
ddydd Mawrth 15 Medi, a'i oriau agor yw 8am tan 6pm.
Teithiau Rhyngwladol
“Yn ogystal, hoffwn atgoffa’r cyhoedd os ydych
chi wedi teithio y tu allan i’r DU yn ddiweddar, gallai fod cyfyngiadau wrth i
chi ddychwelyd – gallai’r cyfyngiadau hyn fod yn wahanol yng Nghymru o’u
cymharu â rhannau eraill o’r DU, ac maent bellach yn cynnwys Portiwgal a rhai
Ynysoedd Groeg. “Gellir dod o hyd i
gyngor ar deithio dramor, gan gynnwys yr wybodaeth ddiweddaraf am y gofynion
cwarantin wrth ddychwelyd adref, ar wefan Llywodraeth
Cymruac ar wefan y Swyddfa Dramor a Chymanwlad.
“Rhaid i unrhyw un sy’n dychwelyd
i Gymru o wledydd y nodwyd eu bod yn risg uchel osod ei hun dan gwarantin yn
unol â rheoliadau’r Swyddfa Dramor a Chymanwlad hyd yn oed os nad oes ganddo
unrhyw symptomau COVID-19 neu os yw wedi cael prawf negyddol.
“Rhaid i unrhyw un yr amheuir bod
ganddynt symptomau COVID-19, sef tymheredd uchel, peswch newydd a pharhaus neu
golli synnwyr blasu neu arogli (anosmia), hunanynysu a chael prawf ar unwaith.
“Mae mynd ati i gael prawf Coronafeirws yn rhad ac am ddim ac yn syml, a
gellir gwneud hyn naill ai trwy ymweld â www.gov.uk/get-coronavirus-test neu trwy ffonio'r rhif
rhad ac am ddim 119.
“Rhaid i achosion a gadarnhawyd
ynysu am 10 diwrnod, a rhaid i aelodau o’u cartrefi ynysu am 14 diwrnod hyd nes
bod y perygl o drosglwyddo’r haint ymhellach wedi mynd. Gyda’i gilydd, bydd y
camau syml ond effeithiol hyn yn sicrhau nad yw’r feirws yn lledaenu.
Diweddariadau ar ddigwyddiadau cyfredol
“Gall Iechyd Cyhoeddus
Cymru gadarnhau ein bod yn ymateb i achosion o Coronafeirws Newydd (COVID-19)
yng Nghlwb Criced a Phêl-droed Drefach. Rydym yn rheoli unrhyw glystyrau
o Coronafeirws yn briodol, trwy roi cyngor ar atal a rheoli heintiau a thrwy
gefnogi olrhain cysylltiadau pan fo angen.
“Mae timau Profi
Olrhain Diogelu yn gweithio gyda’r rhai yr effeithiwyd arnynt ac yn cysylltu
â’r bobl hynny sydd wedi bod mewn cysylltiad ag unigolyn sydd wedi cael prawf positif.
Mae cyfran o’r achosion positif yn y digwyddiad hwn o’r grŵp oedran oedolion
ifanc ac, er mawr siom, mae rhai wedi bod yn gyndyn o rannu manylion o ble maen
nhw wedi bod ac â phwy maen nhw wedi bod mewn cysylltiad.
“Trwy beidio â rhoi
gwybodaeth fanwl i’r timau Profi Olrhain Diogelu, mae’r bobl hyn yn rhoi eu
teuluoedd a’u ffrindiau eu hunain mewn perygl. Rydym yn eu hannog i feddwl am
aelodau eraill o’u cymunedau – yn syml, maen nhw’n rhoi iechyd a bywydau pobl
eraill mewn perygl, yn enwedig os ydyn nhw’n dangos symptomau, os nad ydyn
nhw’n aros gartref ac os ydyn nhw’n cymysgu yn y gymuned leol.
“Wrth i ni symud at gyfnod adfer pandemig y Coronafeirws, byddwn yn
disgwyl gweld clystyrau mewn gwahanol leoliadau, fel gyda’r digwyddiadau a
ddisgrifir uchod. Rydym yn rheoli unrhyw glystyrau o Coronafeirws yn
briodol, trwy roi cyngor ar atal a rheoli heintiau a thrwy gefnogi olrhain
cysylltiadau pan fo angen.
“Rydym yn atgoffa’r cyhoedd a pherchnogion busnes bod Coronafeirws yn
mynd ar led yn y gymuned o hyd.
Olrhain cysylltiadau a gwybodaeth gyffredinol
“Mae olrhain
cysylltiadau yn parhau fel rhan o strategaeth Profi, Olrhain, Diogelu
Llywodraeth Cymru. Bydd tîm o swyddogion olrhain cysylltiadau yn cysylltu ag
unrhyw un sydd wedi cael prawf positif am Coronafeirws, a gofynnir am fanylion
pawb y mae wedi bod mewn cysylltiad agos â nhw tra bod ganddo symptomau.
“Cadwch nodyn o'ch
gweithgareddau er mwyn i chi allu cofio’n hawdd ble oeddech chi ar ddiwrnod
penodol, ynghyd â gyda phwy yr oeddech mewn cysylltiad â nhw.
“Os gofynnir i chi
hunanynysu, dylech wneud hyn er mwyn atal y feirws rhag lledaenu ymhellach.
“Mae olrheinwyr yn
staff hyfforddedig a bydd yr wybodaeth bersonol rydych chi'n ei darparu yn cael
ei thrin yn unol â rheoliadau diogelu data ac ni fydd yn cael ei rhannu'n eang.
“Mae gwybodaeth am
symptomau Coronafeirws ar gael ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru, neu drwy holiadur
symptomau GIG Cymru.
“Gall unrhyw un sydd â
symptomau Coronafeirws wneud cais am becyn profi gartref trwy fynd i www.gov.wales/coronavirus, neu trwy ffonio’r gwasanaeth ffôn 119
cenedlaethol.
“Ni ddylai unrhyw un
yr amheuir bod ganddo/ganddi Coronafeirws fynd i bractis meddyg teulu,
fferyllfa nac ysbyty. Dim ond os yw'n teimlo na all ymdopi â'i symptomau
gartref, fod ei gyflwr yn gwaethygu, neu os nad yw ei symptomau’n gwella ar ôl
saith niwrnod y dylai gysylltu â NHS 111.
“Peidiwch â ffonio 999
oni bai eich bod yn profi argyfwng sy’n peryglu bywyd. Peidiwch â ffonio 999
dim ond oherwydd eich bod yn aros i 111 ateb eich galwad ffôn. Rydym yn deall
bod llinellau 111 yn brysur, ond bydd rhywun yn ateb eich galwad ar ôl i chi
aros.
“Mae dangosfwrdd data
hawdd ei ddefnyddio Iechyd Cyhoeddus Cymru yn casglu gwybodaeth o ystod o
ffynonellau gwahanol. Mae cyfanswm nifer yr achosion positif bellach yn cynnwys
y rhai yr adroddwyd amdanynt o labordai nad ydynt yn eiddo i GIG Cymru, sy’n
ddarostyngedig i ddad-ddyblygu, mireinio a chysoni parhaus. Gallai hyn arwain
at amrywiad yng nghyfanswm nifer yr achosion positif wrth i’r broses hon fynd
rhagddi.”