Public Health Wales statement on Novel Coronavirus (COVID-19) outbreak
This statement will be updated daily at 2pm
Statement: Wednesday 7 October 2020
Dr Giri Shankar
Incident Director for the Novel Coronavirus (COVID-19) outbreak response at
Public Health Wales, said:
“Please don’t delay in
booking a test if you or a member of your household develop symptoms, however
mild such as a cough, fever or change in sense of taste or smell. You must book
a test for Coronavirus promptly to help control the spread of infection. Visit
www.gov.uk/get-coronavirus-test or call 119. Tests are free, there is no
charge.
“You and your
household must self-isolate while waiting for the result of your test, and
comply with any restrictions in the event of a positive result. If you test positive for Coronavirus should
continue to self-isolate for 10 days.
Other household members, including those who do not have any symptoms,
must stay at home and not leave the house for 14 days.
“Even if you don’t
have symptoms, you may also be contacted
by contact tracers as part of the Welsh Government’s Test, Trace,
Protect strategy. In this event, you
must comply with their instructions.
Tracers are trained staff and personal information that you provide will
handled in line with data protection regulations and will not be shared
widely. Please keep a note of your
activities so you can easily remember your whereabouts on a given day, along
with who you were in contact with.
“Local restrictions
are now in place in Bridgend, Caerphilly, Cardiff, Conwy, Denbighshire,
Flintshire, Merthyr Tydfil, Neath Port Talbot, Newport, Rhondda Cynon Taf,
Swansea, Torfaen, Vale of Glamorgan, and Wrexham local authority areas, and in
Llanelli.
“People who live in
these areas must abide by these restrictions to protect themselves, their
families, friends, older and vulnerable people, and keep Wales safe. For more information about restrictions in
your area, visit the Welsh Government website.
“It is vital that
people in every part of Wales stick to social distancing guidelines – that’s staying two
metres away from others, and washing hands regularly. They must also self-isolate immediately when
asked to do so.
“Helpful advice and
support is available via the NHS COVID-19 app.
As well as providing alerts if you have been in contact with someone
with Coronavirus, the app will also tell you the current risk level in your area.
“Information about the
symptoms of Coronavirus is available on the Public Health Wales website, or via
the NHS 111 Wales symptom checker.
“Anyone with suspected
coronavirus should not go to a GP surgery, pharmacy or hospital. They should only contact NHS 111 if they feel they
cannot cope with their symptoms at home, their condition gets worse, or their
symptoms do not get better after seven days.
“Only call 999 if you
are experiencing a life-threatening emergency, do not call 999 just because you
are on hold to 111. We appreciate that 111 lines are busy, but you will get
through after a wait.
“Advice on travelling
abroad, including the latest information on quarantine requirements on
returning home, can be found on the Welsh Government and FCO websites.
“Public Health Wales is
urging all eligible people in Wales to have their free flu vaccine as NHS Wales
begins its largest ever national flu vaccine programme. For the latest information, visit www.beatflu.org or www.curwchffliw.org or search Beat Flu or
Curwch Ffliw on Twitter and Facebook.”
Datganiad: Dydd Mercher 6 Hydref 2020
Dywedodd Dr Giri Shankar, Cyfarwyddwr Digwyddiad ar gyfer yr ymateb i'r
achos o'r Coronafeirws Newydd (COVID-19) yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:
“Peidiwch ag oedi cyn archebu prawf os byddwch chi neu aelod o'ch aelwyd
yn datblygu symptomau peswch, twymyn neu newid mewn synnwyr blasu neu arogli,
ni waeth pa mor ysgafn fo’r symptomau hyn. Mae’n rhaid i chi archebu prawf
Coronafeirws yn brydlon i helpu i reoli lledaeniad yr haint. Ewch i
www.gov.uk/get-coronavirus-test neu ffoniwch 119. Mae’r profion yn rhad ac am
ddim, ni chodir tâl.
“Rhaid i chi ac aelodau’ch cartref hunanynysu wrth aros am ganlyniad
eich prawf, a chydymffurfio ag unrhyw gyfyngiadau yn achos canlyniad
positif. Os bydd canlyniad eich prawf am
Coronafeirws yn bositif, dylech barhau i hunanynysu am 10 diwrnod. Rhaid i aelodau eraill o'r aelwyd, gan
gynnwys y rhai nad oes ganddynt unrhyw symptomau, aros gartref a pheidio â
gadael y tŷ am 14 diwrnod.
“Hyd yn oed os nad oes gennych symptomau, efallai y cysylltir â chi gan
swyddogion olrhain cysylltiadau fel rhan o strategaeth Profi Olrhain Diogelu
Llywodraeth Cymru. Yn yr achos hwn,
rhaid i chi gydymffurfio â’u cyfarwyddiadau.
Mae swyddogion olrhain yn staff hyfforddedig a bydd yr wybodaeth
bersonol rydych chi'n ei darparu yn cael ei thrin yn unol â rheoliadau diogelu
data ac ni fydd yn cael ei rhannu'n eang.
Cadwch nodyn o'ch gweithgareddau er mwyn i chi allu cofio’n hawdd ble
oeddech chi ar ddiwrnod penodol, ynghyd â gyda phwy yr oeddech mewn cysylltiad.
“Mae cyfyngiadau lleol bellach ar waith yn ardaloedd awdurdodau lleol
Pen-y-Bont ar Ogwr, Caerffili, Caerdydd, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint,
Merthyr Tudful, Castell-Nedd Port Talbot, Casnewydd, Rhondda Cynon Taf,
Abertawe, Torfaen, Bro Morgannwg a Wrecsam, ac yn nhref Llanelli.
“Rhaid i’r bobl sy’n byw yn yr ardaloedd hyn gydymffurfio â’r
cyfyngiadau hyn i amddiffyn eu hunain, eu teuluoedd, eu ffrindiau, pobl hŷn ac
unigolion sy’n agored i newid, a chadw Cymru’n ddiogel. Am ragor o wybodaeth am gyfyngiadau yn eich
ardal, ewch i wefan Llywodraeth Cymru.
“Mae’n hanfodol bod pobl ym mhob cwr o Gymru yn glynu wrth ganllawiau
cadw pellter cymdeithasol, sef aros dau fetr oddi wrth bobl
eraill, a golchi dwylo’n rheolaidd.
Rhaid iddynt hefyd hunanynysu ar unwaith pan ofynnir iddynt wneud
hynny.
“Mae cyngor a chymorth defnyddiol ar gael trwy ap COVID-19 y GIG. Yn ogystal â darparu rhybuddion os ydych wedi
bod mewn cysylltiad â rhywun â Coronafeirws, bydd yr ap hefyd yn dweud wrthych beth yw lefel gyfredol y risg yn eich
ardal.
“Mae gwybodaeth am symptomau Coronafeirws ar gael ar wefan Iechyd
Cyhoeddus Cymru, neu drwy holiadur symptomau GIG Cymru.
“Ni ddylai unrhyw un yr amheuir
bod ganddo/ganddi coronafeirws fynd i bractis meddyg teulu, fferyllfa nac
ysbyty. Dim ond os yw'n teimlo na all
ymdopi â'i symptomau gartref, fod ei gyflwr yn gwaethygu, neu os nad yw ei symptomau’n
gwella ar ôl saith niwrnod y dylai gysylltu â NHS 111.
“Peidiwch â ffonio 999 oni bai eich bod yn profi argyfwng sy’n peryglu
bywyd. Peidiwch â ffonio 999 dim ond oherwydd eich bod yn aros i 111 ateb eich
galwad ffôn. Rydym yn deall bod llinellau 111 yn brysur, ond bydd rhywun yn
ateb eich galwad ar ôl i chi aros.
“Gellir dod o hyd i gyngor ar deithio tramor, gan gynnwys yr wybodaeth
ddiweddaraf am y gofynion cwarantin wrth ddychwelyd adref, ar wefan Llywodraeth Cymru ac ar wefan y Swyddfa Dramor a Chymanwlad.
“Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn annog pawb sy’n gymwys yng Nghymru i gael
brechlyn ffliw am ddim wrth i GIG Cymru ddechrau ar ei raglen brechu rhag y
ffliw cenedlaethol fwyaf erioed. “I gael
yr wybodaeth ddiweddaraf, ewch i www.curwchffliw.org neu www.beatflu.org neu chwiliwch am Curwch Ffliw
neu Beat Flu ar Twitter a Facebook.