Public Health Wales statement on Novel Coronavirus (COVID-19) outbreak
This statement will be updated daily at 2pm
Statement: Thursday 15 October 2020
Dr Eleri Davies, Incident
Director for the Novel Coronavirus (COVID-19) outbreak response at Public
Health Wales, said:
“Today is Global
Handwashing Day, which is more important than ever this year as having good
hand hygiene is so important to preventing the transmission of
Coronavirus. While we’ve become used to
seeing hand sanitising stations in public places, we must remember that it’s
just as important to wash our hands with soap and water regularly when we are
at home, to reduce the spread of the disease.
“We have seen an
increase in transmission of the Coronavirus in social clubs, and would like to
remind the public that the virus spreads really well in social situations. If you need to visit these type of venues,
then:
·
Don’t mix with anyone other than the people that you live with;
·
Stay 2m apart from people that you don’t live with;
·
If you are contacted by the Test, Trace, Protect service, then please be
honest about where you have been and with whom – the contact tracers aren’t
going to judge you, they are trying to restrict the spread of the virus. By giving them the correct information you
will help others avoid infection, and possibly getting seriously ill.
“Local restrictions
are now in place in Blaenau Gwent, Bridgend, Caerphilly, Cardiff, Conwy,
Denbighshire, Flintshire, Merthyr Tydfil, Neath Port Talbot, Newport, Rhondda
Cynon Taf, Swansea, Torfaen, Vale of Glamorgan, and Wrexham local authority
areas, and in the hyperlocal areas of Bangor and Llanelli.
“People who live in
these areas must abide by these restrictions to protect themselves, their
families, friends, older and vulnerable people, and keep Wales safe. For more information about restrictions in
your area, visit the Welsh Government website.
“It is vital that
people in every part of Wales stick to social distancing guidelines – that’s staying two
metres away from others, and washing hands regularly. They must also self-isolate immediately when
asked to do so.
“We are aware of
misinformation circulating on social media which suggests that testing for
COVID-19 generates a positive result for flu or common cold viruses. This is completely incorrect. The swab (PCR, antigen) test for COVID-19 has
been specifically developed to detect the presence of the SARS-CoV-2 virus –
also known as COVID-19 – and has a proven accuracy rate of 99.91%.
“We would remind
everyone to ensure that they are getting their information from established,
trusted organisations: Public Health
Wales, Welsh Government, and NHS Wales, and not to share anything from
unverified sources.
“We are also reminding
everyone not to delay in booking a Coronavirus test if you or a member of your
household develop symptoms of the virus, however mild such as a cough, fever or
change in sense of taste or smell. You must book a test for Coronavirus
promptly to help control the spread of infection. Visit www.gov.uk/get-coronavirus-test or call 119. Tests
are free, there is no charge.
“You and your household must self-isolate
while waiting for the result of your test, and comply with any restrictions in
the event of a positive result. If you
test positive for Coronavirus should continue to self-isolate for 10 days. Other household members, including those who
do not have any symptoms, must stay at home and not leave the house for 14
days.
“Even if you don’t
have symptoms, you may also be contacted
by contact tracers as part of the Welsh Government’s Test, Trace,
Protect strategy. In this event, you
must comply with their instructions.
Tracers are trained staff and personal information that you provide will
handled in line with data protection regulations and will not be shared
widely. Please keep a note of your
activities so you can easily remember your whereabouts on a given day, along
with who you were in contact with.
“Helpful advice and
support is available via the NHS COVID-19 app.
As well as providing alerts if you have been in contact with someone
with Coronavirus, the app will also tell you the current risk level in your area.
“Information about the
symptoms of Coronavirus is available on the Public Health Wales website, or via
the NHS 111 Wales symptom checker.
“Anyone with suspected
coronavirus should not go to a GP surgery, pharmacy or hospital. They should only contact NHS 111 if they feel
they cannot cope with their symptoms at home, their condition gets worse, or
their symptoms do not get better after seven days.
“Only call 999 if you
are experiencing a life-threatening emergency, do not call 999 just because you
are on hold to 111. We appreciate that 111 lines are busy, but you will get
through after a wait.
“Advice on travelling
abroad, including the latest information on quarantine requirements on
returning home, can be found on the Welsh Government and FCO websites.
“A recent Public
Health Wales survey revealed that more than one in five (21 per cent) of people
have been worrying a lot about their mental health, with 55 per cent of those
with children in the house also worrying a lot about their children’s wellbeing.
“There are resources to
support mental health and wellbeing from the How Are You Doing campaign at www.phw.nhs.wales/howareyoudoing. If you have serious concerns for your mental health
please do contact your GP.”
Datganiad: Dydd Iau 15 Hydref 2020
Dywedodd Dr Eleri Davies, Cyfarwyddwr Digwyddiad ar gyfer yr ymateb i'r
achos o'r Coronafeirws Newydd (COVID-19) yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:
“Mae’n Ddiwrnod Golchi Dwylo Byd-eang heddiw, sy'n bwysicach nag erioed
eleni, gan fod hylendid dwylo da yn chwarae rhan mor bwysig wrth atal
trosglwyddo Coronafeirws. Er ein bod
wedi dod i arfer â gweld mannau diheintio dwylo mewn lleoedd cyhoeddus, rhaid
inni gofio ei bod yr un mor bwysig golchi ein dwylo â sebon a dŵr yn rheolaidd
pan fyddwn gartref, er mwyn lleihau lledaeniad yr haint.
“Rydym wedi gweld cynnydd yn nhrosglwyddiad Coronafeirws mewn clybiau
cymdeithasol, a hoffem atgoffa’r cyhoedd bod y feirws yn lledaenu’n dda iawn
mewn sefyllfaoedd cymdeithasol. Os oes
angen i chi ymweld â'r lleoliadau hyn, yna:
·
Peidiwch â chymysgu ag unrhyw un
heblaw'r bobl rydych chi'n byw gyda nhw;
·
Arhoswch 2m ar wahân i bobl nad
ydych chi'n byw gyda nhw;
·
Os bydd y gwasanaeth Profi,
Olrhain, Diogelu yn cysylltu â chi, yna byddwch yn onest ynglŷn â ble rydych
chi wedi bod a chyda phwy – nid yw'r swyddogion olrhain cysylltiadau yn mynd
i'ch barnu, maen nhw'n ceisio cyfyngu ar ledaeniad y feirws. Trwy roi'r wybodaeth gywir iddynt byddwch yn
helpu pobl eraill i osgoi cael eu heintio, ac, o bosibl, rhag mynd yn ddifrifol
wael.
“Mae cyfyngiadau lleol bellach ar waith yn ardaloedd awdurdodau lleol
Blaenau Gwent, Pen-y-Bont ar Ogwr, Caerffili, Caerdydd, Conwy, Sir Ddinbych,
Sir y Fflint, Merthyr Tudful, Castell-Nedd Port Talbot, Casnewydd, Rhondda
Cynon Taf, Abertawe, Torfaen, Bro Morgannwg a Wrecsam, ac yn ardaloedd
hyperleol Bangor a Llanelli.
“Rhaid i’r bobl sy’n byw yn yr ardaloedd hyn gydymffurfio â’r
cyfyngiadau hyn i amddiffyn eu hunain, eu teuluoedd, eu ffrindiau, pobl hŷn ac
unigolion sy’n agored i niwed, a chadw Cymru’n ddiogel. Am ragor o wybodaeth am gyfyngiadau yn eich
ardal, ewch i wefan Llywodraeth Cymru.
“Mae’n hanfodol bod pobl ym mhob cwr o Gymru yn glynu wrth ganllawiau
cadw pellter cymdeithasol, sef aros dau fetr oddi wrth bobl
eraill, a golchi dwylo’n rheolaidd.
Rhaid iddynt hefyd hunanynysu ar unwaith pan ofynnir iddynt wneud
hynny.
“Rydym yn ymwybodol bod gwybodaeth anghywir yn cylchredeg ar y cyfryngau
cymdeithasol sy'n awgrymu bod profi am COVID-19 yn cynhyrchu canlyniad positif
ar gyfer feirysau ffliw neu annwyd cyffredin.
Mae hyn yn hollol anghywir. Mae'r
prawf swab (PCR, antigen) ar gyfer COVID-19 wedi'i ddatblygu'n benodol i ganfod
presenoldeb y feirws SARS-CoV-2 – a elwir hefyd yn COVID-19 – ac mae ei gyfradd
gywirdeb brofedig yn 99.91%.
“Byddem yn atgoffa pawb i sicrhau eu bod yn cael gwybodaeth gan
sefydliadau sefydledig y gellir ymddiried ynddynt: Iechyd Cyhoeddus Cymru, Llywodraeth Cymru, a
GIG Cymru, ac ni ddylent rannu ffynonellau nad ydynt wedi cael eu gwirio.
“Rydym hefyd yn atgoffa pawb na ddylent oedi wrth archebu prawf
Coronafeirws, os ydych chi neu aelod o'ch aelwyd yn datblygu symptomau o'r
feirws, fel peswch, twymyn, neu newid i’ch synnwyr blasu neu arogli, ni waeth
pa mor ysgafn y bônt. Mae’n rhaid i chi archebu prawf Coronafeirws yn brydlon i
helpu i reoli lledaeniad yr haint. Ewch i www.gov.uk/get-coronavirus-test neu ffoniwch 119. Mae’r profion yn rhad ac am ddim, ni chodir tâl.
“Rhaid i chi ac aelodau’ch
cartref hunanynysu wrth aros am ganlyniad eich prawf, a chydymffurfio ag unrhyw
gyfyngiadau yn achos canlyniad positif.
Os bydd canlyniad eich prawf am Coronafeirws yn bositif, dylech barhau i
hunanynysu am 10 diwrnod. Rhaid i
aelodau eraill o'r aelwyd, gan gynnwys y rhai nad oes ganddynt unrhyw
symptomau, aros gartref a pheidio â gadael y tŷ am 14 diwrnod.
“Hyd yn oed os nad oes gennych symptomau, efallai y cysylltir â chi gan
swyddogion olrhain cysylltiadau fel rhan o strategaeth Profi Olrhain Diogelu
Llywodraeth Cymru. Yn yr achos hwn,
rhaid i chi gydymffurfio â’u cyfarwyddiadau.
Mae swyddogion olrhain yn staff hyfforddedig a bydd yr wybodaeth
bersonol rydych chi'n ei darparu yn cael ei thrin yn unol â rheoliadau diogelu
data ac ni fydd yn cael ei rhannu'n eang.
Cadwch nodyn o'ch gweithgareddau er mwyn i chi allu cofio’n hawdd ble
oeddech chi ar ddiwrnod penodol, ynghyd â gyda phwy yr oeddech mewn cysylltiad.
“Mae cyngor a chymorth defnyddiol ar gael trwy ap COVID-19 y GIG. Yn ogystal â darparu rhybuddion os ydych wedi
bod mewn cysylltiad â rhywun â Coronafeirws, bydd yr ap hefyd yn dweud wrthych beth yw lefel gyfredol y risg yn eich
ardal.
“Mae gwybodaeth am symptomau Coronafeirws ar gael ar wefan Iechyd
Cyhoeddus Cymru, neu drwy wiriwr symptomau GIG 111 Cymru.
“Ni ddylai unrhyw un yr amheuir bod ganddo/ganddi coronafeirws fynd i
bractis meddyg teulu, fferyllfa nac ysbyty.
Dim ond os yw'n teimlo na all ymdopi â'i symptomau gartref, fod ei
gyflwr yn gwaethygu, neu os nad yw ei symptomau’n gwella ar ôl saith niwrnod y
dylai gysylltu â NHS 111.
“Peidiwch â ffonio 999 oni bai eich bod yn profi argyfwng sy’n peryglu
bywyd. Peidiwch â ffonio 999 dim ond oherwydd eich bod yn aros i 111 ateb eich
galwad ffôn. Rydym yn deall bod llinellau 111 yn brysur, ond bydd rhywun yn
ateb eich galwad ar ôl i chi aros.
“Gellir dod o hyd i gyngor ar deithio tramor, gan gynnwys yr wybodaeth
ddiweddaraf am y gofynion cwarantin wrth ddychwelyd adref, ar wefan Llywodraeth Cymru ac ar wefan y Swyddfa Dramor a Chymanwlad.
“Datgelodd arolwg diweddar gan Iechyd Cyhoeddus Cymru fod mwy nag un ym
mhob pump (21%) o bobl wedi bod yn poeni’n fawr am eu hiechyd meddwl, ac roedd
55% o’r rhai â phlant yn y tŷ hefyd yn poeni’n fawr am lesiant eu plant.
“Mae adnoddau ar gael i gefnogi iechyd meddwl a llesiant
o ymgyrch Sut Wyt Ti ar icc.gig.cymru/pynciau/coronafeirws/sut-wyt-ti/. Os oes
gennych bryderon difrifol am eich iechyd meddwl, cysylltwch â’ch meddyg teulu.”