Public Health Wales statement on Novel Coronavirus (COVID-19) outbreak
This statement will be updated daily at 2pm
Statement: Saturday 10 October 2020
Dr Christopher Williams, Incident Director for the Novel Coronavirus (COVID-19) outbreak response at Public Health Wales, said:
“Public Health Wales is today confirming 21 additional deaths on our data dashboard. Although this appears to be a large daily upturn in the number of fatalities, this increase is the result of a delay in incorporating 17 deaths that occurred in the Cwm Taf Morgannwg Health Board between Saturday 3 and Wednesday 7 October.
“Public Health Wales provides rapid reporting relating to Coronavirus in Wales, which is subject to ongoing data reconciliation. The official statistics relating to Coronavirus deaths in Wales are published weekly by the Office for National Statistics.
“The First Minister has confirmed that restrictions are being introduced in Bangor following a sharp rise in cases. The new measures will come into force at 6pm on Saturday 10 October to protect people’s health and control the spread of the virus.
“Local restrictions are now in place in Bangor, Bridgend, Caerphilly, Cardiff, Conwy, Denbighshire, Flintshire, Merthyr Tydfil, Neath Port Talbot, Newport, Rhondda Cynon Taf, Swansea, Torfaen, Vale of Glamorgan, and Wrexham local authority areas, and in Llanelli.
“People who live in these areas must abide by these restrictions to protect themselves, their families, friends, older and vulnerable people, and keep Wales safe. For more information about restrictions in your area, visit the Welsh Government website.
“It is vital that people in every part of Wales stick to social distancing guidelines – that’s staying two metres away from others, and washing hands regularly. They must also self-isolate immediately when asked to do so.
“We are also reminding everyone not to delay in booking a Coronavirus test if you or a member of your household develop symptoms of the virus, however mild such as a cough, fever or change in sense of taste or smell. You must book a test for Coronavirus promptly to help control the spread of infection. Visit www.gov.uk/get-coronavirus-test or call 119. Tests are free, there is no charge.
“You and your household must self-isolate while waiting for the result of your test, and comply with any restrictions in the event of a positive result. If you test positive for Coronavirus should continue to self-isolate for 10 days. Other household members, including those who do not have any symptoms, must stay at home and not leave the house for 14 days.
“Even if you don’t have symptoms, you may also be contacted by contact tracers as part of the Welsh Government’s Test, Trace, Protect strategy. In this event, you must comply with their instructions. Tracers are trained staff and personal information that you provide will handled in line with data protection regulations and will not be shared widely. Please keep a note of your activities so you can easily remember your whereabouts on a given day, along with who you were in contact with.
“Helpful advice and support is available via the NHS COVID-19 app. As well as providing alerts if you have been in contact with someone with Coronavirus, the app will also tell you the current risk level in your area.
“Information about the symptoms of Coronavirus is available on the Public Health Wales website, or via the NHS 111 Wales symptom checker.
“Anyone with suspected coronavirus should not go to a GP surgery, pharmacy or hospital. They should only contact NHS 111 if they feel they cannot cope with their symptoms at home, their condition gets worse, or their symptoms do not get better after seven days.
“Only call 999 if you are experiencing a life-threatening emergency, do not call 999 just because you are on hold to 111. We appreciate that 111 lines are busy, but you will get through after a wait.
“Advice on travelling abroad, including the latest information on quarantine requirements on returning home, can be found on the Welsh Government and FCO websites.
“It is World Mental Health Day today (10 October), and we are reminding everyone of the importance of checking in on family and friends who may be struggling – even if this can’t be done face to face due to local restrictions in many areas, just picking up the phone can make a big difference to someone’s day.
“A recent Public Health Wales survey revealed that more than one in five (21 per cent) of people have been worrying a lot about their mental health, with 55 per cent of those with children in the house also worrying a lot about their children’s wellbeing.
“There are resources to support mental health and wellbeing from the How Are You Doing campaign at www.phw.nhs.wales/howareyoudoing. If you have serious concerns for your mental health please do contact your GP.”
Datganiad: Dydd Sadwrn 10 Hydref 2020
Dywedodd Dr Christopher Williams, Cyfarwyddwr Digwyddiad ar gyfer yr ymateb i'r achos o'r Coronafeirws Newydd (COVID-19) yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:
"Heddiw, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cadarnhau 21 o farwolaethau ychwanegol ar ein dangosfwrdd data. Er ei bod yn ymddangos bod hyn yn gynnydd dyddiol mawr yn nifer y marwolaethau, mae'r cynnydd hwn yn ganlyniad i oedi wrth ymgorffori 17 o farwolaethau a ddigwyddodd ym Mwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg rhwng dydd Sadwrn 3 a dydd Mercher 7 Hydref.
"Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn darparu adroddiadau cyflym ynghylch y Coronafeirws yng Nghymru, sy'n destun proses gysoni data barhaus. Bob wythnos, mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn cyhoeddi’r ystadegau swyddogol sy'n ymwneud â marwolaethau’r Coronafeirws yng Nghymru.
"Mae'r Prif Weinidog wedi cadarnhau bod cyfyngiadau'n cael eu cyflwyno ym Mangor yn dilyn cynnydd sydyn mewn achosion. Daw'r mesurau newydd i rym am 6pm ddydd Sadwrn 10 Hydref i ddiogelu iechyd pobl a rheoli lledaeniad y feirws.
"Mae cyfyngiadau lleol bellach ar waith ym Mangor, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerffili, Caerdydd, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Merthyr Tudful, Castell-nedd Port Talbot, Casnewydd, Rhondda Cynon Taf, Abertawe, Torfaen, Bro Morgannwg, ac ardaloedd yn awdurdodau lleol Wrecsam, ac yn Llanelli.
"Rhaid i bobl sy'n byw yn yr ardaloedd hyn gadw at y cyfyngiadau hyn i amddiffyn eu hunain, eu teuluoedd, eu ffrindiau, pobl hŷn a bregus, ac i gadw Cymru'n ddiogel. I gael rhagor o wybodaeth am gyfyngiadau yn eich ardal chi, ewch i wefan Llywodraeth Cymru.
"Mae'n hanfodol bod pobl ym mhob rhan o Gymru yn cadw at ganllawiau cadw pellter cymdeithasol - mae hynny'n golygu aros dau fetr oddi wrth eraill, a golchi dwylo'n rheolaidd. Rhaid iddynt hefyd hunanynysu ar unwaith pan ofynnir iddynt wneud hynny.
"Rydym hefyd yn atgoffa pawb i beidio ag oedi cyn archebu prawf Coronafeirws os ydych chi neu aelod o'ch cartref yn datblygu symptomau'r feirws, waeth pa mor ysgafn fel peswch, twymyn neu newid yn y ffordd rydych chi’n blasu neu'n arogli pethau. Rhaid i chi archebu prawf ar gyfer y Coronafeirws yn brydlon i helpu i reoli lledaeniad yr haint. Ewch i www.gov.uk/get-coronavirus-test neu ffoniwch 119. Mae’r profion am ddim, ni chodir tâl amdanynt.
"Rhaid i chi a'ch cartref hunanynysu wrth aros am ganlyniad eich prawf, a chydymffurfio ag unrhyw gyfyngiadau os bydd canlyniad positif. Os byddwch chi’n cael prawf positif ar gyfer y Coronafeirws, dylech barhau i hunanynysu am 10 diwrnod. Rhaid i aelodau eraill y cartref, gan gynnwys y rhai nad oes ganddynt unrhyw symptomau, aros gartref a pheidio â gadael y tŷ am 14 diwrnod.
"Hyd yn oed os nad oes gennych symptomau, efallai y bydd swyddogion olrhain cysylltiadau yn cysylltu â chi hefyd fel rhan o strategaeth Profi, Olrhain, Diogelu Llywodraeth Cymru. Os bydd hyn yn digwydd, rhaid i chi gydymffurfio â'u cyfarwyddiadau. "Mae’r staff olrhain cysylltiadau wedi’u hyfforddi a bydd yr wybodaeth bersonol y byddwch yn ei rhoi yn cael ei thrin yn unol â rheoliadau diogelu data ac ni fydd yn cael ei rhannu'n eang. "Gwnewch nodyn o'ch gweithgareddau er mwyn i chi allu cofio lle rydych wedi bod yn hawdd ar ddiwrnod penodol, ynghyd â phwy yr oeddech mewn cysylltiad â nhw.
"Mae cyngor a chymorth defnyddiol ar gael drwy ap COVID-19 y GIG. Yn ogystal â rhoi rhybuddion os ydych wedi bod mewn cysylltiad â rhywun â’r Coronafeirws, bydd yr ap hefyd yn dweud wrthych beth yw lefel y risg yn eich ardal chi ar hyn o bryd.
“Mae gwybodaeth am symptomau Coronafeirws ar gael ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru, neu drwy ddefnyddio gwiriwr symptomau GIG Cymru.
“Ni ddylai unrhyw un yr amheuir bod ganddo/ganddi coronafeirws fynd i bractis meddyg teulu, fferyllfa nac ysbyty. Dim ond os yw'n teimlo na all ymdopi â'i symptomau gartref, fod ei gyflwr yn gwaethygu, neu os nad yw ei symptomau’n gwella ar ôl saith niwrnod y dylai gysylltu â NHS 111.
“Peidiwch â ffonio 999 oni bai eich bod yn profi argyfwng sy’n peryglu bywyd. Peidiwch â ffonio 999 dim ond oherwydd eich bod yn aros i 111 ateb eich galwad ffôn. Rydym yn deall bod llinellau 111 yn brysur, ond bydd rhywun yn ateb eich galwad ar ôl i chi aros.
Gellir dod o hyd i gyngor ar deithio dramor, gan gynnwys yr wybodaeth ddiweddaraf am ofynion cwarantin ar ôl dychwelyd adref, ar wefan Llywodraeth Cymru a gwefan FCO.
"Mae'n Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd heddiw (10 Hydref), ac rydym yn atgoffa pawb o bwysigrwydd cadw mewn cysylltiad â theulu a ffrindiau a allai fod yn cael trafferth – hyd yn oed os na ellir gwneud hyn wyneb yn wyneb oherwydd cyfyngiadau lleol mewn sawl ardal, gall codi'r ffôn wneud gwahaniaeth mawr i ddiwrnod rhywun.
"Datgelodd arolwg diweddar gan Iechyd Cyhoeddus Cymru fod mwy nag un o bob pump (21 y cant) o bobl wedi bod yn poeni llawer am eu hiechyd meddwl, gyda 55 y cant o'r rhai â phlant yn y tŷ hefyd yn poeni llawer am les eu plant.
“Mae adnoddau i gefnogi iechyd meddwl a lles o'r ymgyrch Sut wyt ti yn https://icc.gig.cymru/pynciau/coronafeirws/sut-wyt-ti/. Os ydych chi’n poeni go iawn am eich iechyd meddwl, cysylltwch â'ch meddyg teulu.”