Public Health Wales statement on Novel Coronavirus (COVID-19) outbreak
This statement will be updated daily at 2pm
Statement: Monday 14 December 2020 Dr Giri
Shankar, Incident Director for the Novel Coronavirus (COVID-19) outbreak response
at Public Health Wales, said: “Public Health Wales
continues to be concerned at the high levels of Coronavirus in nearly every
part of Wales which is putting NHS Wales under extreme pressure. “We
would advise the public that if they still want to have meaningful and safe
interactions within the permitted exclusive Christmas ‘bubble’, then it is
vital that you plan ahead, consider the risks involved and decide what would be
safest for you and your loved ones. “This
means staying out of other people’s homes, limiting the times and the numbers
of people that you meet, maintaining social distancing and hand hygiene,
working from home if you can, and self-isolating if you show symptoms of
coronavirus or are asked to do so by contact tracers. As the number of cases
continues to accelerate in Wales, we would also advise people to consider their
plans for Christmas from the perspective of what they ‘should’ do, rather than
what they ‘can’ do, in order to protect their families and communities. “The
festive period is important for people across Wales who want to be with loved
ones during the holidays, particularly after a very difficult year, but we
would remind everyone that we must each continue to take personal responsibility to limit the
spread of the virus and protect our loved ones, particularly if they are
vulnerable or extremely vulnerable. For many, this will mean that it isn’t
possible to celebrate Christmas in the way you normally would. “On Friday 11 December
there was planned maintenance of the NHS Welsh Laboratory Information
Management System (WLIMS) to allow for essential service upgrades to take
place. “This will affect our
daily reporting of Coronavirus figures, and therefore there was no release of
daily figures on Sunday 13 December. There will be a period of data
reconciliation and validation that will affect our daily reporting figures for
several days. “Public Health Wales is
also making some changes to the way we publish information on our website and
data dashboard. “From today (Monday 14
December), we will be changing the daily ‘data correct as of’ from 1pm the
previous day to 9am the previous day for operational reasons. “From Monday 14
December, we will be bringing forward the publication time for our data
dashboard and our daily statement from 2pm to the earlier time of 12pm. “From Monday 14
December, we plan to extend the lag period for seven day case rate reporting
from two to four days. This will further
improve the accuracy of Coronavirus cases per 100,000 population by local
authority area for the most recent 7 day incidence. “Welsh Government has
announced that Coronavirus regulations relating to self-isolation periods have
changed in Wales. “Under the revised regulations,
people who have tested positive or have come in to close contact with someone
who has had a positive test for Coronavirus will be required by law to
self-isolate for 10 days. Previously, close contacts were required to
self-isolate for 14 days. “This change has been
made to reflect the latest evidence around transmission of the virus. “These regulations will
apply retrospectively, so anyone on days 11-14 of self-isolation will be
immediately released. This applies to all settings, so will mean that school
bubbles can return. “This new 10 day
requirement also applies to people who are isolating after travelling from a
non-exempt country.” “We would like to wish
all those celebrating Hanukkah a very safe and happy
celebration. Throughout this year we have all found different ways to mark
special occasions and this Hanukkah we can once again find new ways to
stay connected. Visit Chabad.org for some great
ideas for safely enjoying your favourite Hanukkah traditions at home. “This week we welcomed
the news that the first Coronavirus vaccine rollout had begun. We stress that the effects of this vaccine
may not be seen nationally for many months and it is therefore extremely
important that everyone continues to follow the advice on keeping Wales safe;
keep contacts with other people to a minimum, keep a 2 metre distance from
others, wash hands regularly, wear a face covering where required, and self-isolating
when asked to do so. “Public Health Wales urges everyone to follow
the rules, to avoid transmission of Coronavirus and to protect everyone in our
communities, including the most vulnerable. “We
understand that people will want to do their Christmas shopping at this time of
year. We would suggest to try to visit shops during off-peak times, to always
maintain social distancing and to wear a face covering if you can. Options such
as ‘click and collect’ or online purchasing may also be something to consider. “If
you or a member of your household develop symptoms of the Coronavirus, such as
a cough, fever or change in sense of taste or smell, you must self-isolate
immediately and book a free Coronavirus testeither by calling 119 or by clicking here. “We
recognise that many people may be finding life more challenging, resulting in
difficulties with mental health. There are many agencies which provide help and
support, including the C.A.L.L. helpline on 0800 132 737, which will refer
callers to the most appropriate organisation according to their needs. “If
you are in severe mental distress or are having suicidal thoughts, please
contact Samaritans Cymru free on 116 123. You can also find sources of advice
and guidance on our website if
you need some help or are worried about a loved one. “NHS
Wales is still here to help you if you need care, and it’s important you
continue to attend appointments and seek help for urgent medical issues. You
should phone beforehand and follow any guidance your local surgery, dentist,
optometrist or health service has put in place to protect you and staff,
including the need to keep 2m away from other patients. “Helpful advice and support is available via
the NHS COVID-19 app. As well as providing alerts if you have been in
contact with someone with Coronavirus, the app will also tell you the
current risk level in your area.
“Information
about the symptoms of Coronavirus is available on the Public Health Wales
website, or via the NHS 111 Wales symptom checker. Datganiad: Dydd Llun 14 Rhagfyr 2020 Dywedodd Dr Giri Shankar, Cyfarwyddwr Digwyddiad
ar gyfer yr ymateb i'r achos o'r Coronafeirws Newydd (COVID-19) yn Iechyd
Cyhoeddus Cymru: “Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn parhau i bryderu
am y lefelau uchel o Coronafeirws ym mron pob rhan o Gymru, sy'n rhoi GIG Cymru
dan bwysau eithafol. “Byddem yn cynghori'r cyhoedd, os ydyn nhw am
gael rhyngweithio’n ddiogel o fewn y 'swigen' Nadolig unigryw a ganiateir,
mae'n hanfodol i chi gynllunio ymlaen llaw, ystyried y risgiau sy’n bodoli a
phenderfynu beth fyddai fwyaf diogel i chi a'ch anwyliaid. “Mae hyn yn golygu aros allan o gartrefi pobl
eraill, cyfyngu ar faint o weithiau a nifer y bobl rydych chi'n cwrdd â nhw,
cynnal pellter cymdeithasol a hylendid dwylo, gweithio gartref os gallwch chi,
a hunanynysu os oes gennych chi symptomau coronafeirws, neu os gofynnir i chi
wneud hynny gan swyddogion olrhain cysylltiadau. Wrth i nifer yr achosion barhau i gynyddu'n
gyflym yng Nghymru, byddem hefyd yn cynghori pobl i ystyried eu cynlluniau ar
gyfer y Nadolig o safbwynt yr hyn ‘y dylent’ ei wneud, yn hytrach na'r hyn ‘y
gallant’ ei wneud, er mwyn diogelu eu teuluoedd a'u cymunedau. “Mae cyfnod y Nadolig yn bwysig i bobl ledled
Cymru sydd eisiau treulio amser gyda’u hanwyliaid yn ystod y gwyliau, yn
enwedig ar ôl blwyddyn anodd iawn, ond byddem yn atgoffa pawb bod yn rhaid i
bob un ohonom barhau i gymryd cyfrifoldeb personol i gyfyngu ar ledaeniad y
feirws ac i amddiffyn ein hanwyliaid, yn enwedig os ydyn nhw'n agored i niwed
neu'n eithriadol o agored i niwed. I
lawer o bobl, bydd hyn yn golygu nad yw’n bosibl dathlu’r Nadolig yn y ffordd y
byddech chi fel arfer yn ei wneud. “Ddydd Gwener 11 Rhagfyr gwnaethpwyd gwaith
cynnal a chadw ar System Rheoli Gwybodaeth Labordai GIG Cymru (WLIMS) i
ganiatáu uwchraddio gwasanaethau hanfodol.
“Bydd hyn yn effeithio ar y ffordd y byddwn yn
adrodd ar ffigurau Coronafeirws bob dydd, ac felly ni chafodd ffigurau dyddiol
eu rhyddhau ddydd Sul 13 Rhagfyr. Bydd cyfnod o gysoni a dilysu data a fydd yn
effeithio ar ein ffigurau adrodd dyddiol dros gyfnod o sawl diwrnod. “Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd yn gwneud rhai
newidiadau i’r ffordd rydyn ni’n cyhoeddi gwybodaeth ar ein gwefan a’n
dangosfwrdd data. “O heddiw, (ddydd Llun 14 Rhagfyr), byddwn yn
newid y ‘data yn gywir am’ dyddiol o 1pm y diwrnod blaenorol, i 9am y diwrnod
blaenorol, oherwydd rhesymau gweithredol. “O ddydd Llun 14 Rhagfyr, byddwn yn cyhoeddi ein
gwybodaeth ar y dangosfwrdd data a’n datganiad am 12pm yn lle 2pm. “O ddydd Llun 14 Rhagfyr, rydym yn bwriadu
ymestyn y cyfnod oedi ar gyfer adrodd ar gyfradd achosion saith diwrnod o ddau
i bedwar diwrnod. Bydd hyn yn gwella mwy
ar gywirdeb nifer yr achosion o Coronafeirws fesul 100,000 o'r boblogaeth yn ôl
ardal awdurdod lleol ar gyfer yr achosion yn ystod y 7 diwrnod diweddaraf. “Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi bod
rheoliadau Coronafeirws sy'n ymwneud â chyfnodau hunanynysu wedi newid yng
Nghymru. “O dan y rheoliadau diwygiedig, bydd yn ofynnol
yn ôl y gyfraith i bobl sydd wedi profi'n bositif, neu sydd wedi dod i
gysylltiad agos â rhywun sydd wedi cael prawf positif am Coronafeirws,
hunanynysu am 10 diwrnod. Cyn hyn, roedd angen i gysylltiadau agos
hunanynysu am 14 diwrnod. “Gwnaethpwyd y newid hwn i adlewyrchu'r
dystiolaeth ddiweddaraf ynghylch trosglwyddiad y feirws. “Bydd y rheoliadau hyn yn berthnasol yn
ôl-weithredol, felly bydd unrhyw un ar ddiwrnodau 11-14 o’i gyfnod hunanynysu
yn cael ei ryddhau ar unwaith. Mae hyn yn berthnasol i bob lleoliad, felly bydd
yn golygu y gall swigod ysgol ddychwelyd. “Mae'r gofyniad 10 diwrnod newydd hwn hefyd yn
berthnasol i bobl sy'n ynysu ar ôl teithio o wlad nad yw wedi'i heithrio." “Hoffem ddymuno dathliad diogel a hapus iawn i
bawb sy'n dathlu Hanukkah. Trwy gydol eleni, rydym i gyd wedi dod o hyd i
wahanol ffyrdd o nodi achlysuron arbennig ac yn ystod Hanukkah, gallwn ddod o
hyd i ffyrdd newydd o gadw mewn cyswllt. Ewch i Chabad.orgi gael syniadau gwych ar gyfer mwynhau eich hoff
draddodiadau Hanukkah yn ddiogel yn y cartref. “Yr wythnos hon, gwnaethom groesawu’r newyddion
bod cyflwyno'r brechlyn Coronafeirws cyntaf wedi dechrau. Hoffem bwysleisio na fydd effeithiau’r
brechlyn yn amlwg yn genedlaethol am fisoedd lawer ac felly mae'n hynod bwysig
i bawb barhau i ddilyn y cyngor ar gadw Cymru’n ddiogel; dod i gysylltiad â
phobl eraill cyn lleied ag y gallwch, cadw pellter 2 fetr oddi wrth bobl
eraill, golchi dwylo'n rheolaidd, gwisgo gorchudd wyneb lle bo angen, a
hunanynysu pan ofynnir ichi wneud hynny. “Mae
Iechyd Cyhoeddus Cymru yn annog pawb i ddilyn y rheolau, i osgoi trosglwyddo
Coronafeirws ac i ddiogelu pawb yn ein cymunedau, gan gynnwys y rhai mwyaf
agored i niwed. “Rydym yn deall y bydd pobl eisiau gwneud eu
siopa Nadolig yr adeg hon o’r flwyddyn. Byddem yn awgrymu ceisio ymweld â
siopau yn ystod amseroedd y tu allan i'r oriau brig, cadw pellter cymdeithasol
bob amser a gwisgo gorchudd wyneb, os gallwch chi. Efallai y bydd opsiynau
megis ‘clicio a chasglu’ neu brynu ar-lein hefyd yn bethau i’w hystyried. “Os byddwch chi neu aelod o'ch aelwyd yn
datblygu symptomau Coronafeirws, fel peswch, twymyn neu newid i synnwyr blasu
neu arogli, rhaid i chi hunanynysu ar unwaith ac archebu prawf Coronafeirws am
ddim naill ai drwy ffonio 119 neu drwy glicio yma. “Rydym yn cydnabod y gallai llawer o bobl fod yn
cael bywyd yn fwy heriol, a all arwain at anawsterau iechyd meddwl. Mae llawer
o asiantaethau sy'n darparu help a chymorth, gan gynnwys llinell gymorth C.A.L.L. ar 0800 132 737, a
fydd yn cyfeirio galwyr at y sefydliad mwyaf priodol yn unol â'u hanghenion. “Os ydych chi’n wynebu trallod meddwl difrifol,
neu os ydych yn meddwl am gyflawni hunanladdiad, cysylltwch â Samariaid Cymru
yn rhad ac am ddim ar 116 123. Os oes angen rhywfaint o help arnoch, neu os
ydych chi'n poeni am anwyliaid, gallwch ddod o hyd i ffynonellau cyngor ac
arweiniad hefyd ar ein gwefan. “Mae GIG Cymru yma o hyd i'ch helpu os oes angen
gofal arnoch, ac mae'n bwysig i chi barhau i fynychu apwyntiadau a cheisio
cymorth ar gyfer materion meddygol brys. Dylech ffonio ymlaen llaw a dilyn
unrhyw ganllawiau mae eich practis meddyg teulu lleol, deintydd, optometrydd
neu wasanaeth iechyd wedi'i roi ar waith i'ch diogelu chi a staff, gan gynnwys
yr angen i gadw 2m i ffwrdd oddi wrth gleifion eraill. “Mae
cyngor a chymorth defnyddiol ar gael trwy ap COVID-19 y GIG. Yn ogystal â
darparu rhybuddion os ydych wedi bod mewn cysylltiad â rhywun â Coronafeirws,
bydd yr ap hefyd yn dweud wrthych beth yw lefel gyfredol y risg yn eich ardal.
“Mae gwybodaeth am symptomau Coronafeirws ar
gael ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru, neu drwy wiriwr symptomau GIG 111 Cymru.