Public Health Wales statement on Novel Coronavirus (COVID-19) outbreak
This statement will be updated daily at midday
Statement: Updated at 12pm on Sunday 20 December 2020 Dr Giri Shankar, Incident Director for the Novel Coronavirus (COVID-19) outbreak response
at Public Health Wales, said: “Public Health Wales is working with the Welsh Government,
local health boards, local authorities and other partners following the
announcement of national restrictions in Wales from midnight 20 December 2020. “Under the new restrictions, people must stay at home,
except for very limited purposes. People must not visit other households or
meet other people they do not live with.
Non-essential retail, close contact services, gyms and leisure centres,
and hospitality will also close. “Rules which allow two households to come together to
form a Christmas bubble will now apply on Christmas Day only. “As indicated by the Welsh Government, the immediate
introduction of new restrictions is related to the identification of a new more
transmissible variant of Coronavirus.
Public Health Wales has been working with UK partners to investigate and
respond to this variant. “It is normal for viruses to undergo mutations, and we
expect this to happen. Although the
variant is easier to transmit, there is currently no evidence that it is more
severe. “We are reminding people that all current guidance
relating to Coronavirus continues to apply to the new variant, including advice
relating to symptoms, social distancing, self-isolation, and vaccination. “The new variant shows up as positive in Public Health
Wales’ existing Coronavirus tests, and people must continue to seek a test in
the usual way if they develop Coronavirus symptoms. “If you or a member of your household develop a
cough, fever or change in sense of taste or smell, you must self-isolate
immediately and book a free Coronavirus test, either by calling 119 or by clicking here. “Public Health Wales
urges everyone to follow the rules, to avoid transmission of Coronavirus and to
protect everyone in our communities, including the most vulnerable.”.” Frequently Asked Questions Why has this new Coronavirus variant become
such an issue suddenly? It is normal for viruses to mutate, and
the new variant of Coronavirus that is now circulating in the UK is as a result
of such a mutation. We think the new variant has been
circulating since at least 1 November 2020. So far, more than 1,400 cases have been
identified in England, mainly in the South East. As of 14 December around 20 cases have been confirmed
in Wales but the true figure is likely to be higher (several hundreds). Experts are concerned about the impact
of this particular variant because of how common it is, and how fast it spreads. The key advice remain the same –
that’s maintaining two-metre social distancing, washing hands, and use of
personal protective equipment. Health and social care workers should
ensure that they have the correct PPE for the areas in which they are working,
have been trained in the use of the PPE and use it correctly. It is also
essential to ensure that these measures are observed in communal areas outside
the clinical areas, like break areas, and when travelling to and from work. Yes. The current tests used in Wales
are not affected by the changes in this variant and will still detect the virus. The variant has been identified in all
areas of Wales. As of 14 December, 20 confirmed cases
have been identified, but estimates suggest estimates
suggest that approximately 11% of recent new cases (over 600) of COVID-19 are. It is likely that the variant
represents an even higher percentage of overall cases, and this percentage is
increasing over time. It is difficult to tell when this
variant started circulating in Wales, but we believe the earliest cases might
be from around early November. Wales is a member of the national Incident
Management Team which is currently meeting daily, with wider meetings twice a
week. Public Health Wales contribute daily case numbers based on sequencing
data, and also an epidemiology summary for confirmed cases. Wales has
contributed to a European Centre for Disease Prevention and Control (ECDC)
rapid threat assessment on the variant. A protocol for a case-control method to
estimate whether reinfections are more likely in variant cases has been
developed in Wales and shared for use with Public Health England and Northern Ireland. Currently there is no information to
suggest that individuals affected with this variant strain require different
type of care. This is will be kept under constant review. No, it does not. The current
recommended period of self-isolation applies. Genomic analyses will tell us whether
the strain that infected a particular individual is the new variant or not.
However, not all positive tests are sequenced and there is usually a lag before
sequencing results come through. There are, however, other indicators that give
us an idea of how much of this variant is present here in Wales. Currently there is no information to
suggest that individuals affected with this variant strain require different
type of care. This is will be kept under constant review. You will need to continue to take all
precautions outlined in the guidance, and people in the clinically extremely
vulnerable group should take extra precautions to minimise contact with others
in line with the advice given by the Chief Medical Officer for Wales This is not the first variant of
Coronavirus, and is unlikely to be the last. Different variants will have
different effects on the course of this pandemic. There is currently no evidence showing
that the variant is more severe than previous viruses. This is being monitored
by ongoing surveillance and research. The main rules - handwashing, social
distancing, and so on - have not changed.
But increased restrictions have been announced because the variant is
easier to spread and because case numbers have been going up. There is currently no evidence of any difference
between this variant and others. But this is something that will be monitored
closely going forward.
There is no evidence to suggest that
this vaccine approved for use in the UK will not work against this variant. This will be monitored closely.
--- Dywedodd Dr
Giri Shankar, Cyfarwyddwr
Digwyddiadau ar gyfer yr ymateb i'r achosion o'r Coronafeirws Newydd (COVID-19)
yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: "Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn
gweithio gyda Llywodraeth Cymru, byrddau iechyd lleol, awdurdodau lleol a
phartneriaid eraill yn dilyn cyhoeddi cyfyngiadau cenedlaethol yng Nghymru o hanner
nos ar 20 Rhagfyr 2020. "O dan y cyfyngiadau newydd,
mae'n rhaid i bobl aros gartref, ac eithrio at ddibenion cyfyngedig iawn. Rhaid
i bobl beidio ag ymweld ag aelwydydd eraill na chwrdd â phobl eraill nad ydynt
yn byw gyda nhw. Bydd manwerthu nad yw'n
hanfodol, gwasanaethau cyswllt agos, campfeydd a chanolfannau hamdden, a
lletygarwch hefyd yn cau. "Bydd y rheolau sy'n caniatáu i
ddwy aelwyd ddod at ei gilydd i ffurfio swigen Nadolig yn berthnasol ar Ddydd
Nadolig yn unig nawr. "Fel y nododd Llywodraeth
Cymru, mae cyflwyno cyfyngiadau newydd ar unwaith yn gysylltiedig â chanfod
amrywiad newydd mwy trosglwyddadwy o’r Coronafeirws. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi bod yn
gweithio gyda phartneriaid yn y DU i ymchwilio i'r amrywiad hwn ac ymateb iddo. "Mae'n arferol i feirysau newid,
ac rydym yn disgwyl i hyn ddigwydd. Er
bod yr amrywiad yn haws ei drosglwyddo, nid oes tystiolaeth ar hyn o bryd ei
fod yn fwy difrifol. "Rydym yn atgoffa pobl bod yr
holl ganllawiau cyfredol sy'n ymwneud â’r Coronafeirws yn parhau i fod yn
berthnasol i'r amrywiad newydd, gan gynnwys y cyngor sy'n ymwneud â symptomau, cadw
pellter cymdeithasol, hunanynysu, a brechu. "Mae'r amrywiad newydd yn
dangos yn positif ym mhrofion Coronafeirws presennol Iechyd Cyhoeddus Cymru ac
mae'n rhaid i bobl barhau i gael prawf yn y ffordd arferol os ydynt yn datblygu
symptomau’r Coronafeirws.” “Os byddwch chi neu aelod o'ch aelwyd yn datblygu
peswch, twymyn neu newid i synnwyr blasu neu arogli, rhaid i chi hunanynysu ar
unwaith a threfnu prawf Coronafeirws am ddim naill ai drwy ffonio 119 neu drwy glicio yma.
“Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn annog pawb i ddilyn y
rheolau, i osgoi trosglwyddo’r Coronafeirws ac i ddiogelu pawb yn ein
cymunedau, gan gynnwys y rhai mwyaf agored i niwed.” Cwestiynau Cyffredin Pam mae'r amrywiad newydd
hwn ar y Coronafeirws wedi dod yn gymaint o broblem yn sydyn? Mae'n arferol i feirysau newid, ac mae'r amrywiad newydd ar y Coronafeirws
sydd bellach yn cylchredeg yn y DU o ganlyniad i newid o'r fath. Credwn fod yr amrywiad newydd wedi bod yn cylchredeg ers o leiaf 1 Tachwedd
2020. Hyd yma, mae mwy na 1,400 o
achosion wedi'u nodi yn Lloegr, yn bennaf yn y De Ddwyrain. Ar 14 Rhagfyr mae tua 20 o achosion wedi'u
cadarnhau yng Nghymru ond mae'r gwir ffigur yn debygol o fod yn uwch (cannoedd
lawer). Mae arbenigwyr yn pryderu am effaith yr amrywiad penodol hwn oherwydd pa
mor gyffredin ydyw, a pha mor gyflym mae'n lledaenu. Mae'r cyngor allweddol yn aros yr un fath – hynny yw, cadw pellter
cymdeithasol o ddau fetr, golchi dwylo, a defnyddio cyfarpar diogelu personol. Dylai gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol sicrhau bod ganddynt y cyfarpar
diogelu personol cywir ar gyfer yr ardaloedd maent yn gweithio ynddynt, eu bod
wedi'u hyfforddi i ddefnyddio'r cyfarpar diogelu personol a'u bod yn ei
ddefnyddio'n gywir. Mae hefyd yn hanfodol sicrhau cadw at y mesurau hyn mewn
ardaloedd cymunedol y tu allan i'r ardaloedd clinigol, fel mannau egwyl, ac
wrth deithio i'r gwaith ac oddi yno. Bydd. Nid yw'r newidiadau yn yr amrywiad hwn yn effeithio ar y profion
cyfredol a ddefnyddir yng Nghymru a byddant yn parhau i ganfod y feirws. A yw hwn yn gyffredin
ledled Cymru neu'n gyfyngedig i Dde Ddwyrain Cymru? Mae'r amrywiad wedi'i ganfod ym mhob rhan o Gymru. Ar 14 Rhagfyr, mae 20 o achosion wedi'u cadarnhau wedi'u canfod, ond mae’r
amcangyfrifon yn awgrymu bod tua 11% o’r achosion newydd diweddar (mwy na 600)
o COVID-19 yn achosion o’r amrywiad newydd. Mae'n debygol bod yr amrywiad yn cynrychioli canran uwch fyth o achosion
cyffredinol, ac mae'r ganran hon yn cynyddu dros amser. Mae'n anodd dweud pryd dechreuodd yr amrywiad hwn gylchredeg yng Nghymru,
ond rydym yn credu y gallai'r achosion cynharaf fod o tua dechrau mis Tachwedd.
Mae Cymru yn aelod o'r Tîm Rheoli Digwyddiadau cenedlaethol sy'n cyfarfod
yn ddyddiol ar hyn o bryd, gyda chyfarfodydd ehangach ddwywaith yr wythnos. Mae
Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cyfrannu nifer yr achosion dyddiol yn seiliedig ar
ddata cyfresu, a hefyd crynodeb epidemioleg ar gyfer achosion sydd wedi’u cadarnhau.
Mae Cymru wedi cyfrannu at asesiad bygythiad cyflym y Ganolfan Ewropeaidd ar
gyfer Atal a Rheoli Clefydau (ECDC) o’r amrywiad hwn. Mae protocol ar gyfer
dull rheoli achosion i amcangyfrif a yw ailheintio’n fwy tebygol mewn achosion o’r
amrywiad wedi'i ddatblygu yng Nghymru a'i rannu i'w ddefnyddio gyda Public
Health England a Gogledd Iwerddon. A oes angen i glinigwyr
wneud unrhyw newidiadau i'r cynllun rheoli ar gyfer trin eu cleifion
Coronafeirws presennol? Ar hyn o bryd nid oes unrhyw wybodaeth i awgrymu bod angen math gwahanol o
ofal ar unigolion yr effeithir arnynt gyda'r amrywiad hwn. Bydd hyn yn cael ei
adolygu'n gyson. A yw hyn yn effeithio ar
hyd y cyfnod hunanynysu? Na, nid yw hynny'n wir. Mae'r cyfnod hunanynysu presennol a argymhellir yn
berthnasol Rydw i'n byw yn rhanbarth
De Ddwyrain Cymru ac yn ddiweddar rydw i wedi cael prawf positif ar gyfer y Coronafeirws.
Sut byddaf yn gwybod a oeddwn wedi fy heintio gyda’r amrywiad newydd? Bydd dadansoddiadau genomeg yn dweud wrthym ai'r amrywiad newydd ai peidio
oedd y straen a heintiodd unigolyn penodol. Fodd bynnag, nid yw pob prawf positif
yn cael ei gyfresu ac fel rheol mae bwlch cyn i ganlyniadau cyfresu ddod
drwodd. Fodd bynnag, mae dangosyddion eraill yn rhoi syniad i ni o faint o'r
amrywiad hwn sy'n bresennol yma yng Nghymru. Ar hyn o bryd nid oes unrhyw wybodaeth i awgrymu bod angen math gwahanol o
ofal ar unigolion yr effeithir arnynt gyda'r amrywiad hwn. Bydd hyn yn cael ei
adolygu'n gyson. Rydw i’n byw gyda rhywun
sydd yn y grŵp "gwarchod" blaenorol. Oes angen i mi gymryd rhagofalon
ychwanegol yng ngoleuni'r amrywiad newydd hwn? Bydd angen i chi barhau i gymryd yr holl ragofalon a amlinellir yn y
canllawiau, a dylai pobl yn y grŵp sy'n agored iawn i niwed yn glinigol gymryd
rhagofalon ychwanegol i leihau cyswllt ag eraill yn unol â'r cyngor a roddir
gan Brif Swyddog Meddygol Cymru. A fydd mwy o amrywiadau
yn y dyfodol? Nid dyma'r amrywiad cyntaf ar y Coronafeirws, ac mae'n annhebygol mai hwn
fydd yr olaf. Bydd gwahanol amrywiadau’n cael effeithiau gwahanol ar lwybr y pandemig
hwn. A yw'n fwy niweidiol? Ar hyn o bryd nid oes unrhyw dystiolaeth sy'n dangos bod yr amrywiad yn fwy
difrifol na feirysau blaenorol. Mae hyn yn cael ei fonitro gan oruchwyliaeth ac
ymchwil barhaus. A ddylwn i fod yn gwneud
rhywbeth yn wahanol neu'n dilyn yr un rheolau ag o'r blaen? Nid yw'r prif reolau - golchi dwylo, cadw pellter cymdeithasol, ac yn y
blaen - wedi newid. Ond cyhoeddwyd
cyfyngiadau cynyddol oherwydd bod yr amrywiad yn haws ei ledaenu ac oherwydd bod
nifer yr achosion wedi bod yn codi. A yw'r feirws hwn yn lledaenu’n
haws drwy weithdrefnau meddygol sy'n achosi i gleifion ryddhau gronynnau o'u
hysgyfaint – a elwir hefyd yn 'weithdrefnau cynhyrchu aerosol'? Ar hyn o bryd nid oes unrhyw dystiolaeth o unrhyw wahaniaeth rhwng yr
amrywiad hwn ac eraill. Ond mae hyn yn rhywbeth a fydd yn cael ei fonitro'n fanwl
wrth symud ymlaen.
Nid oes unrhyw dystiolaeth i awgrymu na fydd y brechiad hwn a gymeradwywyd
i'w ddefnyddio yn y DU yn gweithio yn erbyn yr amrywiad hwn. Caiff hyn ei fonitro'n ofalus