Public Health Wales statement on Novel Coronavirus (COVID-19) outbreak
This statement will be updated daily at midday
Statement: Updated at 12pm on Sunday 03 January 2021 Dr Giri Shankar, Incident Director for the Novel Coronavirus (COVID-19) outbreak response
at Public Health Wales, said: “We wish everyone a Happy New Year,
and hope that 2021 will be a better year for us all. With vaccinations for
COVID-19 progressing, we welcome the announcement by the Welsh Government of
the roll-out of the second Coronavirus vaccine (from Oxford/AstraZeneca) in
Wales. “The
Joint Committee on Vaccination and Immunisation (JCVI) has issued a short statement
outlining the case for optimising the vaccine programme within the UK to
achieve maximum short term impact. “Vaccinating
the adult population of Wales, to protect people from severe disease, is a
significant task, and the vaccine will take time to reach everyone. The
epidemiology of COVID-19 throughout the UK in late 2020 showed a clear need for
rapid, high levels of vaccine uptake among vulnerable persons. “The
JCVI supports a two-dose vaccine schedule for the Pfizer-BioNTech and
AstraZeneca vaccines. Given the data available, and evidence from the use of
many other vaccines, Public Health Wales fully supports the JCVI advice to
increase a maximum interval between the first and second doses of 12 weeks for
both vaccines. “It can be assumed that protection from the
first dose will wane in the medium term, and the second dose will still be
required to provide more durable protection. The JCVI advises initially
prioritising delivery of the first vaccine dose as this is highly likely to
have a greater public health impact in the short term and reduce the number of
preventable deaths from COVID-19. “Members of the public should not to phone your GP,
pharmacy or hospital asking when they will get a vaccine. When someone is in
one of the groups eligible for the vaccine, they will be invited to attend a
dedicated clinic which will have been set up to ensure patient safety and that
of the healthcare professionals. “The effects of the vaccines may not be seen nationally
for some time, and with Wales at alert level four we must continue to follow
the advice on keeping Wales safe. Stay
at home, meet only the people you live with, maintain social distancing, wash
your hands regularly, and work from home if you can. “As indicated by the Welsh Government, the
new restrictions were brought forward due to the identification of a new more
transmissible variant of Coronavirus. Public Health Wales has been working with UK
partners to investigate and respond to this variant. “It is normal for viruses to undergo mutations, and we
expect this to happen. Although the
variant is easier to transmit, there is currently no evidence that it is more
severe. “We are reminding people that all
current guidance relating to Coronavirus continues to apply to the new variant,
including advice relating to symptoms, social distancing, self-isolation, and
vaccination. “The new variant shows up as positive
in Public Health Wales’ existing Coronavirus tests, and people must continue to
seek a test in the usual way if they develop Coronavirus symptoms. “If you or a member of your household develop a
cough, fever or change in sense of taste or smell, you must self-isolate
immediately and book a free Coronavirus test, either by calling 119 or by clicking here. “If
you are due to travel out of the UK, please be aware of the changing situation
and keep an eye on the FCO website for
up to date details. “Due Bank Holiday arrangements, the data
released today - Sunday January 3 - will be as at 9am on 2 January. It is
important to note that these data will cover a 48 hour period (from 9am on 31
December to 9am 2 January) instead of the usual 24 hour period and so should be
interpreted with caution, as it is likely to be around double the usual 24 hour
value. “This will not affect individuals receiving
their results, and anyone who tests positive will be contacted by their local
authority’s Test, Trace, Protect team in the usual way. “The Public Health Wales public-facing data dashboard is
a rapid reporting tool which is subject to correction and reconciliation.
Official statistics are provided by the Office of National Statistics. “Public Health Wales
urges everyone to follow the rules, to avoid transmission of Coronavirus and to
protect everyone in our communities, including the most vulnerable.” Datganiad: Diweddarwyd
12yh Dydd Sul 03 Ionawr 2021 Dywedodd Dr Giri Shankar, Cyfarwyddwr Digwyddiadau ar gyfer yr ymateb i'r achosion
o'r Coronafeirws Newydd (COVID-19) yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Rydyn ni’n dymuno Blwyddyn Newydd Dda i bawb, ac yn
gobeithio y bydd 2021 yn flwyddyn well i ni i gyd. Gyda brechiadau ar gyfer
COVID-19 yn mynd rhagddynt, rydym yn croesawu cyhoeddiad Llywodraeth Cymru am
gyflwyno'r ail frechlyn Coronavirus (o Rydychen / AstraZeneca) yng Nghymru. "Mae'r
Cydbwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio (JCVI) wedi cyhoeddi datganiad byr yn
amlinellu'r achos dros fanteisio i’r eithaf ar y rhaglen frechu yn y DU er mwyn
cael yr effaith fwyaf posibl yn y tymor byr. “Mae
brechu poblogaeth oedolion Cymru, er mwyn amddiffyn pobl rhag afiechyd
difrifol, yn dasg sylweddol, a bydd y brechlyn yn cymryd amser i gyrraedd pawb. Dangosodd epidemioleg COVID-19 ledled y DU ddiwedd
2020 bod angen clir am lefelau cyflym, uchel o frechlynnau ymhlith pobl sy'n
agored i niwed. "Mae'r JCVI yn cefnogi amserlen frechu dau ddos ar
gyfer brechlynnau Pfizer-BioNTech ac AstraZeneca. O ystyried y data sydd ar
gael, a thystiolaeth o ddefnyddio llawer o frechlynnau eraill, mae Iechyd
Cyhoeddus Cymru yn llwyr gefnogi cyngor y JCVI i gynyddu'r bwlch mwyaf rhwng y
dos cyntaf a'r ail ddos o 12 wythnos ar gyfer y ddau frechlyn. "Gellir tybio y bydd yr amddiffyniad o’r dos cyntaf
yn gwanio yn y tymor canolig, a bydd yr ail ddos yn ofynnol o hyd i ddarparu
amddiffyniad gwytnach. Mae'r JCVI yn cynghori i ddechrau blaenoriaethu rhoi’r
dos cyntaf o’r brechlyn gan fod hyn yn debygol iawn o gael mwy o effaith ar
iechyd y cyhoedd yn y tymor byr a lleihau nifer y marwolaethau y gellir eu
hatal o COVID-19. “Ni
ddylai aelodau’r cyhoedd ffonio eu meddyg teulu, eu fferyllfa na'u hysbyty yn
gofyn pryd cânt frechlyn. Pan fydd rhywun yn un o’r grwpiau sy'n
gymwys i gael y brechlyn, byddant yn cael gwahoddiad i ddod i glinig pwrpasol a
fydd wedi’i sefydlu i sicrhau diogelwch cleifion a’r gweithwyr gofal iechyd
proffesiynol. “Efallai
na fydd effeithiau'r brechlynnau'n cael eu gweld yn genedlaethol am beth amser,
a gyda Chymru ar lefel rhybudd pedwar rhaid i ni barhau i ddilyn y cyngor ar
gadw Cymru'n ddiogel. Arhoswch gartref, cwrdd â'r bobl rydych chi'n
byw gyda nhw yn unig, cadwch bellter cymdeithasol, golchwch eich dwylo'n
rheolaidd, a gweithio gartref os yw hynny’n bosib. “Fel
y nodwyd gan Lywodraeth Cymru, cafodd y cyfyngiadau newydd eu symud ymlaen yn
sgil nodi amrywiolyn mwy trosglwyddadwy o'r Coronafeirws. Mae Iechyd
Cyhoeddus Cymru wedi bod yn gweithio gyda phartneriaid yn y DU i ymchilio i'r
amrywiolyn hwn ac ymateb iddo. “Mae'n
arferol i feirysau fod yn destun mwtaniad, ac rydym yn disgwyl i hyn
ddigwydd. Er bod yr amrywiolyn yn haws i'w drosglwyddo, nid oes
tystiolaeth ar hyn o bryd ei fod yn fwy difrifol. “Rydym
yn atgoffa pobl bod yr holl ganllawiau presennol sy'n ymwneud â'r Coronafeirws
yn parhau i fod yn berthnasol i'r amrywiolyn newydd, gan gynnwys cyngor sy'n
ymwneud â symptomau, cadw pellter cymdeithasol, hunanynysu, a brechu. “Mae'r
amrywiolyn newydd yn ymddangos yn bositif ym mhrofion presennol Iechyd
Cyhoeddus Cymru, a rhaid i bobl barhau i geisio prawf yn y ffordd arferol os
byddant yn datblygu symptomau Coronafeirws. “Os
byddwch chi neu aelod o'ch cartref yn datblygu peswch, twymyn neu newid o ran
blasu neu arogli, rhaid i chi hunanynysu ar unwaith a threfnu prawf
Coronafeirws am ddim, naill ai drwy ffonio 119 neu drwy
glicio yma. “Os
ydych i fod i deithio allan o'r DU, byddwch yn ymwybodol o'r sefyllfa sy'n newid
a chadwch lygad ar wefan
FCO i gael y manylion diweddaraf. “Oherwydd
trefniadau Gŵyl y Banc, mae’r data a ryddhawyd heddiw – dydd Sul Ionawr 3 – yn
ddata am 9am ar 2 Ionawr. Mae’n bwysig nodi bod y data hyn yn cwmpasu cyfnod o
48 awr (rhwng 9am ar 31 Rhagfyr a 9am ar 2 Ionawr) yn lle'r cyfnod arferol o 24
awr ac felly dylid eu dehongli'n ofalus, gan eu bod yn debygol o fod tua dwbl y
gwerth 24 awr arferol. “Ni
fydd hyn yn effeithio ar unigolion sy'n cael eu canlyniadau, a bydd tîm Profi,
Olrhain, Diogelu'r awdurdodau lleol yn cysylltu ag unrhyw un sy'n profi'n
bositif yn y ffordd arferol. “Mae
dangosfwrdd data Iechyd Cyhoeddus Cymru sy'n wynebu'r cyhoedd yn offeryn adrodd
cyflym sy'n destun cywiro a chysoni. Mae ystadegau swyddogol yn cael eu darparu
gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol. “Mae
Iechyd Cyhoeddus Cymru yn annog pawb i ddilyn y rheolau, i osgoi trosglwyddo
Coronafeirws ac i amddiffyn pawb yn ein cymunedau, gan gynnwys y mwyaf agored i
niwed.”